Goreuon Bythynod Gwyliau Cymru

Dihangwch i ganol tirwedd hyfryd Cymru. Archwiliwch ei mynyddoedd mawreddog, ei thraethau tywod llydan a’i llynnoedd disglair llawn lledrith; mae bythynnod gwyliau gorau Cymru yn eich gwahodd i ddarganfod mwy am ein gwlad odidog, a hynny mewn steil.

Dewiswyd ein llety gwyliau moethus yng Nghymru yn arbennig am eu lleoliadau penigamp, eu pensaernïaeth llawn cymeriad a’u moethusrwydd digamsyniol. Rydyn ni wedi teithio i bob cwr o’r wlad er mwyn dod o hyd i oreuon bythynnod gwyliau Cymru, a hynny yn y mannau mwyaf anhygoel. Mae Y Gorau o Gymru yn cynnig llety hunan-ddarpar gwirioneddol unigryw ar hyd a lled Cymru, o Sir Fôn i Gaerdydd ac o Eryri yr holl ffordd i Sir Benfro.

Ysbrydoliaeth

Llety Hunan Ddarpar Cymru

Anghofiwch hen storïau am aeafau gwlyb a gwyntog, mae ein bythynnod gwyliau yng Nghymru yn gynnes ac yn groesawgar drwy gydol y flwyddyn. Mae unrhyw amser yn amser da i ymweld â’n bythynnod hunan-ddarpar yng Nghymru, ac yn awr ceir rheswm gwych arall: mae Y Gorau o Gymru yn ymhyfrydu yn y ffaith ein bod yn gallu cynnig goreuon bythynnod gwyliau Cymru, a hynny am y pris gorau.

Rydyn ni’n hyderus na fyddwch chi’n dod o hyd i’n llety gwyliau moethus yng Nghymru yn rhatach ar unrhyw wefan arall. Yn wir, rydyn ni mor hyderus fel y byddem yn hapus i’w guro pe bai chi, trwy ryw ryfedd wyrth, yn dod o hyd i bris gwell.

Croeso Cynnes Cymreig yn ein Bythynnod Gwyliau Moethus yng Nghymru

Os nad yw hyn yn ddigon, daw ein llety hunan-ddarpar moethus ar hyd a lled Cymru gydag un cynhwysyn arall arbennig iawn sy’n gwneud ein bythynnod gwyliau yng Nghymru yn unigryw. Fe’i gelwir yn ‘Groeso Cynnes Cymraeg', ac fe ddewch chi o hyd iddo ymhob un o’n bythynnod gwyliau.

Mae’r teclyn ‘chwilio’n sydyn’ a’r opsiynau chwilio pellach yn gwneud y broses o ddewis eich bwthyn delfrydol o blith goreuon bythynnod gwyliau Cymru yn haws nag erioed. Hyd yn oed os ydych chi’n chwilio’n benodol am fythynnod hunan-ddarpar gyda thwb poeth yn y Bala, bydd ein teclynnau chwilio yn eich cyfeirio yn syth at y llety sy’n berffaith i chi. 

Bythynnod Gwyliau Cymru: 4 a 5 Seren

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am leoliadau neu ynghylch bythynnod gwyliau Cymru, peidiwch ag oedi i gysylltu â thîm cyfeillgar Y Gorau o Gymru. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’ch llety gwyliau delfrydol, mae croeso i chi gysylltu â ni ac fe awn ni ati’n syth i chwilio am y bythynnod gwyliau yng Nghymru sy’n berffaith i chi. Ffoniwch ni heddiw ar 01650 511 101 neu e-bostiwch info@bestofwales.co.uk ac ewch ati i gynllunio eich gwyliau yng Nghymru.

Roedd popeth am y bwthyn hwn yn bum seren

"Roedd popeth am y bwthyn hwn yn bum seren. Golygfeydd anhygoel, 2 dân coed, cyfleusterau da, ystafelloedd gwely hyfryd a pherchnogion croesawgar."

Cwsmer blaenorol

gyfleus ar gyfer pob dim

"Bendigedig! Chwaeth arbennig iawn ac mor gyfleus ar gyfer pob dim."

Ffrindiau o Caerffili

Ardderchog ym mhob ffordd

"Ardderchog ym mhob ffordd - roedd y perchnogion mor gymwynasgar a chroesawgar. Diolch yn fawr iawn."

Ffrindiau o Caerffili

chyfleusterau gwych mewn lleoliad hyfryd

"Bwthyn cartrefol gyda chyfleusterau gwych mewn lleoliad hyfryd."

Mair and family

lleoliad a thŷ hyfryd a hwylus

"Ardderchog - lleoliad a thŷ hyfryd a hwylus. Bwyd yn ardderchog yny Bull a pierhouse. Gwasanaeth bws ardderchog o garreg y drws, siopau hyfryd."

Ffrindiau o Llangefni