- £1,358 yr wythnos
- £194 y noson
- 11 Guests
- 4 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Ystafell chwaraeon
- Twb poeth
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 3 o welyau king/super-king
- 2 o welyau dwbl
- 1 gwely sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Un o dri o fythynnod hunan-ddarpar y gallwch eu harchebu gyda’i gilydd fel Llety Grŵp ym Mannau Brycheiniog ar gyfer 25 o bobl. Cymerwch gipolwg ar Onnen Fawr Cottage (cysgu 6), a Onnen Fawr Farmhouse (cysgu 8) i gael rhagor o wybodaeth.
Bwthyn moethus a chwaethus gyda thwb poeth wedi’i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r bwthyn hwn newydd gael ei adnewyddu, ac mae’n newydd i’r wefan. Fe’i dyluniwyd i ofynion uchel ac mae’n lle delfrydol i deulu neu grŵp mawr. Mae nifer o lwybrau cerdded i’w cael yn yr ardal, gan gynnwys llwybrau o’r fferm, ac mae digon o weithgareddau hefyd sy’n addas i bobl o bob oedran a phob tywydd.
Llawr Gwaelod
Cegin fawr / ystafell fwyta – Cegin gyda phopeth sydd ei angen arnoch gan gynnwys oergell fawr , microdon, ffwrn drydan a hob nwy 8 cylch. Bwrdd a chadeiriau i 12 o bobl allu eistedd yn gyfforddus.
Lolfa – Soffa drawiadol â 12 sedd, gyda stôf llosgi coed o fewn lle tân nodweddiadol traddodiadol. Teledu a chwaraewr DVD.
Ail lolfa / man darllen gyda theledu a soffas cyfforddus. Ardal ddelfrydol i blant neu i oedolion ddianc iddo, a mwynhau ychydig o dawelwch.
Ystafell iwtiliti gyda sinc, peiriant golchi dillad, a thŷ bach a chawod fawr.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 – Gwely mawr iawn a gwely sengl, teledu a bwrdd ymbincio. Grisiau’n arwain at en-suite mawr gyda bath, uned gawod ar wahân a thŷ bach.
Ystafell wely 2 – Gwely mawr iawn a gwely dwbl gyda theledu. (Yn ogystal â’u drysau eu hunain, mae gan ystafelloedd gwely 2 a 3 ddrws rhyngddynt sy’n cloi).
Ystafell wely 3 – Gwely mawr iawn, a theledu.
Ystafell wely 4 – Gwely dwbl a theledu.
Prif ystafell ymolchi – Bath â chawod, a thŷ bach.
Y tu allan
Patio preifat y tu allan i’r bwthyn gyda thwb poeth (wedi’i rannu ag un bwthyn arall drws nesaf) ac ardaloedd mawr â lawnt a thrampolîn, yn berffaith ar gyfer chwaraeon. Digon o seddi i’r holl westeion.
Mae mwy o erwau ar y fferm fel y gallwch chi fynd i grwydro, ac mae hawl ichi bysgota ar afon Crai.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Ni chaniateir anifeiliaid anwes.
- Darperir dillad gwely a thyweli mawr.
- Cot babi a chadair uchel ar gael. Dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
- Gwres a thrydan yn gynwysedig.
- Wi-fi – Er gwybodaeth, mae hwn yn fand eang gwledig ac mae’n bosibl na fydd mor gyflym â’r hyn rydych wedi arfer â’i ddefnyddio.
- Digon o barcio oddi ar y ffordd.
- Twb poeth wedi’i rannu ag un bwthyn arall drws nesaf. Ni ddylid defnyddio’r twb ar ôl 10 o’r gloch y nos.
- Mae’r twb poeth ar y safle er mwynhad y gwesteion, ac nid yw wedi’i adlewyrchu yn y gost ar gyfer yr eiddo. Mae gan y perchnogion yr hawl i gau unrhyw sbas ar unrhyw adeg os bydd angen gwneud gwaith cynnal a chadw angenrheidiol.
- Mae beiciau mynydd ar gael i’w llogi o’r fferm (£25 am ddiwrnod llawn neu £15 am hanner diwrnod). Mae modd trefnu i drosglwyddo beiciau neu eu dychwelyd ar lwybrau cyfagos hefyd.
- Ystafell chwaraeon, gyda thenis bwrdd.
- System ffotofoltäig solar drydanol a gwres o’r ddaear.
- Mae’r bwthyn wedi’i leoli ar fferm weithredol ac ni ddylid gadael i blant ifanc grwydro o gwmpas y fferm heb gadw llygad arnynt.
- Ni ellir sicrhau signal ar gyfer pob rhwydwaith ffôn symudol.
- Hanner milltir o hawliau pysgota preifat ar afon Crai (un o lednentydd afon Wysg sy’n fyd-enwog am eog).
- Mae digon o wybodaeth ar gael yn y bwthyn am y llwybrau cerdded a beicio lleol ac ati.
- Mae archfarchnadoedd yn dosbarthu i’r ardal.
- Coeden Nadolig gyda goleuadau a Siôn Corn dros gyfnod y Nadolig.
Mae modd archebu’r bwthyn ar y cyd â’r bwthyn drws nesaf Onnen Fawr Cottage a Onnen FawrFarmhouse ar gyfer cyfanswm o 25 o bobl.