- £1,141 yr wythnos
- £163 y noson
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Ystafell chwaraeon
- Twb poeth
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau dwbl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Un o dri o fythynnod hunan-ddarpar y gallwch eu harchebu gyda’i gilydd fel Group Accomodation in the Brecon Beacons ar gyfer 25 o bobl. Cymerwch gipolwg ar Onnen Fawr Cottage (cysgu 6), ac Onnen Fawr Barn (cysgu 11) i gael rhagor o wybodaeth.
Dyma fwthyn sy’n sefyll ar ei ben ei hun i 8 o bobl. Mae wedi’i leoli ym Mannau Brycheiniog, ar fferm gyda 2 fwthyn arall a gallech eu harchebu gyda’i gilydd neu ar wahân. Mae ganddo dwb poeth mawr preifat, gardd gefn a golygfeydd trawiadol ar draws cefn gwlad, ac mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer gwyliau o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r ardal yn wych os hoffech fynd i gerdded, beicio, beicio mynydd, neu bysgota (mae hawliau pysgota preifat wedi’u cynnwys) ac mae digonedd o weithgareddau bob tywydd ar gael hefyd. Mae’n ddelfrydol ar gyfer teulu mawr neu grŵp o ffrindiau.
Llawr Gwaelod
Cegin / ystafell fwyta – Cegin ffermdy draddodiadol a bwrdd bwyta mawr. Cegin gyda phopeth sydd ei angen arnoch, a bwrdd a chadeiriau i 8 o bobl allu eistedd yn gyfforddus.
Lolfa – Stôf llosgi coed o fewn lle tân nodweddiadol traddodiadol. Teledu a chwaraewr DVD.
Ail lolfa / ystafell ddarllen. Ardal ddelfrydol i blant, neu’n berffaith i’r oedolion ddianc iddi i fwynhau ychydig o dawelwch.
Ystafell iwtiliti gyda sinc a thŷ bach.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 – Gwely mawr iawn.
Ystafell wely 2 – Gwely mawr iawn gydag en-suite, tŷ bach ac uned gawod.
Ystafell wely 3 – Gwely dwbl.
Ystafell wely 4 – Gwely dwbl.
Prif Ystafell Ymolchi – Bath gydag uned gawod ar wahân, sinc a thŷ bach.
Y tu allan
Twb poeth preifat, gardd gefn breifat gyda phatio, ac ardaloedd â lawnt, barbeciw nwy a ‘kadai’. Mae erwau o dir ar y fferm y gallech chi fynd i’w crwydro, ac mae hawl ichi bysgota ar afon Crai.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Ni chaniateir anifeiliaid anwes.
- Darperir dillad gwely a thyweli bath.
- Mae cot teithio a chadair uchel ar gael. Dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
- Gwres a thrydan yn gynwysedig.
- Wi-fi – Er gwybodaeth, mae hwn yn fand eang gwledig ac mae’n bosibl na fydd mor gyflym â’r hyn rydych wedi arfer â’i ddefnyddio.
- Digon o barcio preifat oddi ar y ffordd.
- Mae beiciau mynydd ar gael i’w llogi o’r fferm (£25 am ddiwrnod llawn neu £15 am hanner diwrnod). Mae modd trefnu i drosglwyddo beiciau i lwybrau cyfagos neu eu dychwelyd.
- Mae’r bwthyn wedi’i leoli ar fferm weithredol ac ni ddylid gadael i blant ifanc grwydro o gwmpas y fferm heb eu goruchwylio.
- Ni ellir sicrhau signal ar gyfer pob rhwydwaith ffôn symudol.
- Ystafell chwaraeon fawr wedi’i rhannu.
- Hanner milltir o hawliau pysgota preifat ar afon Crai (un o lednentydd afon Wysg sy’n fyd-enwog am eog).
- Mae digon o wybodaeth yn y bwthyn am lwybrau cerdded, llwybrau beicio lleol ac ati.
- Mae archfarchnadoedd yn dosbarthu i’r ardal.
- Ni ddylid defnyddio’r twb poeth ar ôl 10 o’r gloch y nos.
- Mae’r twb poeth ar y safle er mwynhad y gwesteion, ac nid yw wedi’i adlewyrchu yn y gost ar gyfer yr eiddo. Mae gan y perchnogion yr hawl i gau unrhyw sbas ar unrhyw adeg os bydd angen gwneud gwaith cynnal a chadw angenrheidiol.
- Coeden Nadolig gyda goleuadau a Siôn Corn dros gyfnod y Nadolig.
Mae modd archebu’r llety hwn ar y cyd â’r 2 lety drws nesaf, Onnen Fawr Cottage ac Onnen Fawr Barn, ar gyfer cyfanswm o 25 o bobl.