- £585 yr wythnos
- £84 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 1 Pet
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae’r bwthyn gwyliau hwn, sy’n croesawu anifeiliaid anwes, wedi’i leoli ym mhentref Llanddewi Brefi (a ddaeth yn enwog diolch i’r rhaglen deledu ‘Little Britain’) sydd yng nghanol Mynyddoedd y Cambria, yng Ngorllewin Cymru. Mae’n fwthyn bwtîc sydd wedi’i adnewyddu’n arbennig, ac sy’n cyfuno nodweddion modern a thraddodiadol. Mae lle i 4 o bobl aros ynddo, ac mae ei nodweddion yn cynnwys stôf llosgi coed, a Matres Organig Abaca foethus, sydd oll yn ei wneud yn lle arbennig i ymlacio a dadflino. Gallwch gerdded i’r 2 dafarn a’r siop yn y pentref, a gallwch ymgolli eich hun mewn ardal sy’n cynnig llwybrau cerdded, beicio mynydd a golygfeydd gwych – lle arbennig i bobl sy’n hoffi bod yn yr awyr agored. Mae un o’r tafarndai gerllaw wedi’i argymell yn y ‘Michelin Pub Guide’ ar gyfer bwyta allan yn 2016, ac mae’n werth ymweld â hi.
Llawr Gwaelod
Cegin, lolfa a man bwyta cynllun agored. Cegin fodern wedi’i hadnewyddu’n ddiweddar gyda llawr teils, trawstiau pren gwreiddiol, ffwrn a hob trydan, microdon, oergell, peiriant golchi llestri, peiriant golchi/sychu dillad a rhewgell. Mae lle i 4 o westeion wrth y bwrdd bwyta. Yn y lolfa’r bwthyn gwyliau hwn yng Ngorllewin Cymru, mae trawstiau traddodiadol, stôf llosgi coed a seddi cyfforddus i 4 o westeion. Teledu Freeview, chwaraewr DVD. Wi-fi.
Llawr Cyntaf
Prif Ystafell Wely – Gwely mawr iawn gyda matres Organig Abaca, dillad gwely cotwm Eifftaidd, bwrdd gwisgo gyda drych, sychwr gwallt, rhesel bagiau, cadair, rheilen ddillad, lampau wrth ochr y gwely.
Ail Ystafell Wely – 2 wely sengl gyda matres Organig Abaca, bwrdd wrth ochr y gwely a chist ddillad, lampau wrth ochr y gwely, drych hyd llawn, sychwr gwallt, a rheilen ddillad.
Ystafell ymolchi – tŷ bach, basn ymolchi, bath a chawod drydan.
Gardd
Ardal breifat â lawnt, patio, bwrdd a chadeiriau i 4, a barbeciw.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Darperir dillad gwely, tyweli bach a mawr, a sychwyr gwallt.
- Mae’r gwres a’r trydan yn gynwysedig.
- Mae’r Wi-fi yn gynwysedig
- Rhoddir ambell becyn o goed ar gyfer y stôf llosgi coed
- Cot a chadair uchel ar gael ar gael ar gais.
- Croesewir anifeiliaid anwes – 1 ci am ddim. Rhowch wybod inni wrth archebu.
- 1 man parcio dan do oddi ar y ffordd