Sky Hut - Caban y Nen

New Quay, West Wales

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £550 yr wythnos
  • £79 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • Ystafell chwaraeon
  • Twb poeth
  • Pwll nofio
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r llyn

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb
  • Cawod

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Storfa tu allan
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Sorry, infants (aged under 2) are not allowed at this property
  • Sorry, children (aged between 2 and 17) are not allowed at this property
  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae Caban y Nen yn ei ôl! Rhan o raglen ddogfen Sianel 4 'Cabins in the Wild' ddarllenwyd yn 2017, mae'r caban ysbrydoledig wedi ei adnewyddu ac yn edrych yn well nac erioed. Wedi ei ddylunio i gynnig profiad glampio clyd ac unigryw, mae ei gartref newydd ar ymyl llyn yng Ngorllewin Cymru yn fangre perffaith ar gyfer edmygu'r awyr drawiadol gyda'r nos. Mae hefyd yn leoliad gwych ar gyfer darganfod Bae Ceredigion a'i ystod eang o atyniadau.

Mae Cymru wedi ei henwi y wlad gyda'r canran uchaf o 'Awyr Dywyll Rhyngwladol', ac mae'n swyddogol yn un o'r llefydd mwyaf gwefreiddiol yn y byd ar gyfer syllu ar y sêr. Gyda ffenestri isel o gwmpas yr holl gaban, gellir hefyd agor y to a'r drws gwydr sy'n agor allan i'r patio. Golygfeydd o'r llyn (hwylio, canwio a physgota) a chefn gwlad. Mae yna hefyd gyfle i fwynhau twb poeth sy'n cael ei rannu ar y safle. Pa ffordd well i fwynhau amgylchedd hardd Cymru?

Prif nodweddion yn cynnwys ...

  • Pecyn croeso yn cynnwys dewis arbennig o ddanteithion Cymreig    
  • Gwely dwbwl gyda golygfeydd  
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig    
  • Ardal fyw - clyd gyda soffa gysurus (sy'n trawsnewid o'r gwely dwbwl) o flaen stof trydan.   
  • Dau hob nwy a sinc. Mae yma hefyd ardal gymunedol dan do (rhwng 3 pod ac 1 caban arall) gyda popty pitsa. Hefyd, rhewgell fawr yn cael ei rhannu yn yr ystafell chwaraeon    
  • Yatafell ymolchi en-suite (cawod, basn a thoiled). 
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn 
  • Dim yn addas ar gyfer plant a babanod 
  • Trydan a nwy yn gynwysedig. Soced USB ar gael    
  • Gall gwesteion hefyd ddefnyddio'r golchdy sydd ar y safle gyda peiriannau golchi/sychu dillad a storfa beiciau diogel    
  • Twb poeth ar y safle - gellir archebu amseroedd penodol ynddo ar ól cyrraedd.

Lleoliad

Mae Caban y Nen yn cynnig encil hardd ac unigryw i ddau, ar lannau llyn prydferth ar fferm deuluol yng Ngorllewin Cymru. Gyda golygfeydd anhygoel o gefn gwlad a'r awyr dywyll, mae'r caban yn mwynhau nodweddion ychwanegol ar y safle, yn cynnwys twb poeth, ardal gymunedol, ac uned arwahan gydag adnoddau cawod a thoiledau, yn cael eu rhannu gyda caban a tri pod arall. Mae Caban y Nen yn agosach i'r llyn ac yn mwynhau ardal patio preifat i wneud y mwyaf o'r lleoliad hardd.

O fewn ychydig filltiroedd mae gennych chi dref arfordirol hardd Cei Newydd gyda’i llwybrau cerdded, pysgota, traethau tywod, bwytai sydd yn tynnu dwr i’ch dannedd a thripiau cwch ym Mae Ceredigion i weld y dolffiniaid ac yn y blaen. Mae gwersi caiacio a hwyl fyrddio hefyd ar gael yng Nghei Newydd. Os ydych chi’n chwilio am wyliau llawn gweithgareddau, mae’r bwthyn 4 milltir i ffwrdd o Ganolfan Weithgareddau Llain, Go-cartio Bae Ceredigion a Chanolfan Saethu Paent.

Mae Bae Ceredigion a’i Arfordir Treftadaeth, sydd yn frith o gyrchfannau gwyliau, yn gartref i’r dolffin trwynbwl, llamhidyddion a morloi. Mae tref borthladd Sioraidd Aberaeron saith milltir i’r Gogledd. Mae’r dref hon yn berl amaethyddol ac yn fwrlwm o ddiddordeb, gyda’i Acwariwm Môr, bwyty enwog yr Harbourmaster ac ystâd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Llanerchaeron. Teithiwch i mewn i’r wlad o Aberaeron i Ddyffryn Teifi. Yn ffefryn gydag ymwelwyr, mae Rhaeadr Cenarth yn llecyn o harddwch enwog. O Aberystwyth, teithiwch ar drên bach Rheidiol er mwyn profi rhaeadr Pontarfynach neu ymweld ag adfeilion hen Abaty Ystrad Fflur, ger Pontrhydfendigaid ym Mynyddoedd y Cambrian. Yn ganolog ar gyfer teithio Cymru ac yn berffaith ar gyfer gorchwylion megis pysgota gyda gwialen, hwylio, gwylio adar, beicio a cherdded.

Traethau

Mae traeth Cei Newydd yn draeth helaeth, tywodlyd ac wedi ei gysgodi’n dda gan yr awel. Mae’r traeth Baner Las (traeth yr harbwr) yn boblogaidd yn ystod misoedd yr haf, 7.5 milltir.

Mae Cei Bach yn draeth hyfryd, tipyn tawelach na thraeth Cei Newydd, 6.1 milltir.

Gellwch ddewis o hwylio gyda dingi, mordaith ar fad hwylio, cwch bwer, hwylfyrddio a chaiacio gyda sesiynau byr a hir ar gael sydd yn addas ar gyfer pob lefel a gallu. Chwaraeon Dwr Ceredigion, 7.5 milltir.

Mae Tresaith mewn bae bychan cysgodol ac wedi ei enw ar ôl yr Afon Saith sydd yn trochi fel rhaeadr dros y clogwyni i’r traeth. Mae’r gan y traeth lithrfa ac mae’n gyrchfan hwylio poblogaid. Traeth gwych ar gyfer chwaraeon dwr, llydan a thywodlyd. Parcio cyfyngedig, 12 milltir.

Cerdded

Mae Llwybr Cerdded Ceredigion yn cysylltu gyda holl gyfoeth amgylcheddol, naturiol a threftadaeth un o ardaloedd arfordirol harddaf Cymru, 7.5 milltir.

Pysgota

Llyn brithyll ar y safle, perffaith ar gyfaint rhywfaint o bysgota pry, denu ac abwyd, 0 milltir.

Mae yna bysgota môr gwych o amgylch ardal Cei Newydd, ac mae wal yr harbwr yn parhau i fod yn fan poblogaidd gan blant. Mae’r ardal yn enwog fel llecyn da am ddraenogiaid y môr. Mae cychod ar gael o borthladd Cei

Newydd, derbynnir archebion ar y cei, 7.5 milltir.

Pysgota bras - llawer o lynnoedd ac afonydd gan gynnwys Pysgodfa Fras Llanarth, 5.4 milltir. 

Pysgota Gêm - Afon Teifi yw un o afonydd eog enwocaf y Deyrnas Unedig.

Golff

Clwb golff Cwmrhydneuadd - Cwrs golff cyhoeddus naw twll Par 31. Mae’r cwrs golff yn agored gydol y flwyddyn ac anaml iawn y bydd ar gau oherwydd tywydd garw a gan amlaf nid oes angen archebu ymlaen llaw, 11.6 milltir

Clwb Golff Penros, 150 acer o gefn gwlad hyfryd gwyrdd yn Nyffryn Wyre yng Ngorllewin Cymru, 15.8 milltir.

Beicio

Llawer o lwybrau a lonydd lleol distaw yn yr ardal sy’n ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer beicio. Mae Lôn Teifi yn rhedeg rhwng Aberystwyth ac Abergwaun, rhan o Lwybr Cenedlaethol 82 a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae’r llwybr beicio 98 milltir (158 km) yn dilyn lonydd gwledig ar hyd dyffryn yr Afon Teifi drwy bentrefi gwledig Tregaron, Llanbedr, Castellnewydd Emlyn a Chaerfyrddin cyn cyrraedd Abergwaun ar arfordir Gorllewin Cymru, 14 milltir.

Merlota

Mae Marchogaeth ar gael mewn sawl lleoliad, gan gynnwys Cilfach yr Halen, Llwyncelyn, 19.3 milltir.