
Wedi ei leoli ar lannau afon Ceri, mae'r bwthyn hwn yn sefyll ar ben ei hun ac yn derbyn anifeiliaid anwes
- £649 yr wythnos
- £93 y noson
- 5 Guests
- 3 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Dringo
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Golygfeydd o'r afon
- Golygfeydd cefn gwlad
- Smart TV
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 3 o welyau sengl
- 1 gwely sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Ystafell wlyb
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Wedi ei leoli ar lannau afon Ceri, mae'r bwthyn hwn yn sefyll ar ben ei hun ac yn derbyn anifeiliaid anwes (mwyafrif 2 gi - noder efallai bydd anifeiliaid fferm yn pori yn y caeau cyfagos), ychydig o filltiroedd o arfordir gwych Ceredigion sydd yn enwog am ei ddolffiniaid a thraethau euraidd. Mae'r bwthyn yn cynnwys hawliau pysgota ar yr afon Ceri (isafon yr afon Teifi sy'n enwog am ei heogiaid). Gyda gardd gaeedig a mynediad i gaeau, mae yna ddigon o lefydd i'w mwynhau a'u darganfod.
Llawr Gwaelod
Cegin, lle bwyta a lolfa ar gynllun agored. Teledu, chwaraewr DVD a system gerddoriaeth.
Ystafell wely 1 - gyda dau wely sengl (neu gwely maint king - noder eich dewis pan yn archebu) ac en-suite. Mae drws gyda mynediad uniongyrchol i'r ystafell hon.
Ystafell iwtiliti gyda pheiriannau golchi a sychu dillad.
Ystafell hongian cotiau gyda toiled.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl.
Ystafell wely 3 - gwely sengl, gyda gwely tynnu allan os oes angen.
Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod oddi mewn, toiled a basn.
Tu Allan
Gardd gaeedig gyda lawnt a graean. Gât yn arwain o'r ardd i nifer o gaeau sy'n cynnwys yr afon Ceri, ond gall rhain gynnwys anifeiliad fferm yn pori ar rai adegau o'r flwyddyn. Mae glannau'r afon heb eu ffensio felly dylai plant gael eu goruchwylio ar bob adeg.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwres a thrydan yn gynwysedig
Cot trafeilio a chadair uchel ar gael - dewch â dillad eich hun i'r cot
Gellir trefnu i Tesco neu Asda ddanfon nwyddau i'r bwthyn
Dim ysmygu
Anifeiliaid anwes - mwyafrif o 2 gi
Deunyddiau glanhau, clytiau a thywel sychu llestri ar gael
Parcio ar gyfer nifer o geir
Gwybodaeth Hygyrchedd
Mynediad uniongyrchol drwy ddrws i'r ystafell wely ar y llawr gwaelod
Y llawr gwaelod ar un lefel gyda cawod y gellir cerdded i mewn iddi
Lleoliad
Mae Murmur y Ceri yn sefyll ar ben ei hun ger afon Ceri. Mae pentref Rhydlewis lai na milltir i ffwrdd gyda siop gigydd. Mae arfordir hardd Ceredigion ond 5 milltir i ffwrdd gyda dewis eang o draethau gwych yn cynnwys Llangrannog, Penbryn a Tresaith. Mae'r arfordir hwn yn enwog am ei ddolffiniaid gyda tripiau yn bosib o'r harbwr yn Cei Newydd.
Mae'n werth ymweld â Gwarchodfa Natur Caron, yn ogystal â thref Aberteifi gyda'i chastell, siopau, caffis a bwytai, a Chastell Newydd Emlyn gyda'i siopau unigryw. Mae Parc Fferm Arfordirol Ynys Aberteifi, Fferm Ceffylau Gwedd Dyfed, Parc Bywyd Gwyllt Cilgerran, Castell ac Amgueddfa Wlan Genedlaethol Cilgerran yn atyniadau a gweithgareddau poblogaidd hefyd.
Traethau
Nifer o draethau gwych gerllaw yn cynnwys Llangrannog (5.5 milltir)
Chwaraeon Dwr
Clwb Canwio Padlwyr Llandysul - yn cynnig caiacio a canwio ar yr afon Teifi (8 milltir)
Canolfan Chwaraeon Dwr Ceredigion, Cei Newydd (9 milltir)
Cerdded
Nifer o lwybrau cerdded lleol yn cynnwys llwybr Arfordirol Ceredigion.
Pysgota
Pysgota ar y safle yn afon Ceri, ond hefyd mae Cymdeithas Pysgota Llandysul yn cynnig trwyddedau pysgota ar yr afon Teifi (4 milltir)
Gellir trefnu pysgota môr o Cei Newydd (9 milltir)
Golff
Cwrs 9 twll yn Cwmrhydneuadd Pentregat (3 milltir)
Beicio
Mae yna lwybrau teithio ar gyfer pob oed a gallu. Mae lle i gadw'r beic yn ddigoel yn y bwthyn, neu gellir trefnu i hurio beic o flaen llaw. Lonydd gwledig tawel yn cychwyn o'r bwthyn. Llwybr Teifi (6 milltir)
Marchogaeth
Marchogaeth ar gael mewn nifer o leoliadau yn cynnwys Gilfach yr Halen, Llwyncelyn (10 milltir)