- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
- Special Offer10% October Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
- Special Offer15% offer 28th June – 18th July
- Special Offer10% offer w/c 19th July
- £360 yr wythnos
- £51 y noson
- 4 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Dringo
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Smart TV
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Saif bwthyn gwyliau Bwthyn y Wennol ynghanol cefn gwlad hardd, agored ar ffin ddeheuol cadwyn Mynyddoedd y Cambrian. Gyda Bae Ceredigion, Dyffryn Tywi a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o fewn cyrraedd hawdd, mae’r bwthyn wedi ei leoli mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae'n ddelfrydol ar gyfer gwylio adar (gyda’r Barcud Coch yn atyniad mawr), cerdded, marchogaeth, ac i ymweld â gerddi. Yn swatio rhwng trefi gwledig Llandeilo, Llanymddyfri a Llanbedr, mae’n fan delfrydol ar gyfer atyniadau megis Gerddi Aberglasney, Parc Dinefwr, Cloddfa Aur Dolaucothi, Canolfan Fwydo’r Barcud Coch a Llyn y Fan Fach.
Llawr Gwaelod
Lolfa ac ystafell fyw gyda stôf llosgi coed, soffas a chadair, dreser traddodiadol Cymreig, bwrdd bwyd a chadeiriau.
Cegin yn cynnwys unedau derw, popty trydan, oergell a microdon.
Ystafell iwtiliti / cawod - yn cynnwys peiriant golchi a sychu dillad, rhewgell, cawod, sinc a thoiled.
Ystafell wely 1 – Gwely sengl gyda bwrdd, cist o ddroriau a chwpwrdd dillad.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 – Gwely dwbl, bwrdd ger y gwely, cwpwrdd dillad a chwpwrdd eirio.
Ystafell wely 3 – Gwely sengl, bwrdd ger y gwely, cist o ddroriau a chwpwrdd dillad.
Ystafell gyda chawod, toiled a sinc
Gardd
Teras gyda dodrefn gardd, delfrydol ar gyfer barbeciw, ac i edmygu’r dyffryn a’r tir fferm bryniog.
Gardd fechan o flaen y bwthyn a rhyddid i gerdded ar hyd tir y fferm (darperir map).
Gwybodaeth Ychwanegol
Dillad gwely, tyweli a sychwr gwallt yn gynwysedig.
Gwres a thrydan yn gynwysedig.
Wi-fi ar gael
Darperir cot a chadair uchel. Dewch a'ch dillad gwely ei hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
Croeso i ddau gi, £30 y ci. Nid yw cathod yn cael aros yma.
Parcio ar gyfer dau gerbyd neu fwy.
Fferm weithredol yw hon - byddwch yn ofalus o amgylch anifeiliaid a pheiriannau.
Pecyn croeso i ymwelwyr wrth gyrraedd - bara, ham, llefrith, te, coffi, siwgr, cacennau cri a photel o win.
Lleoliad
Mae Bwthyn y Wennol wedi ei leoli mewn bro agored fryniog ar ffin ddeheuol cadwyn Mynyddoedd y Cambrian ar gyrion pentref Ffarmers, yn swatio rhwng trefi marchnad Llanbedr, Llanymddyfri a Llandeilo yng Ngorllewin Cymru. Ceir dyffrynnoedd godidog, mynyddoedd trawiadol, llynnoedd bendigedig , gerddi prydferth a bwyd blasus o farchnadoedd y ffermwyr yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Llanymddyfri.
Mae’r bwthyn yn adeilad sydd wedi ei adnewyddu ar fferm â chymysgedd o dda byw arni, gan gynnwys gwartheg, defaid a cheffylau. Mae hen ffyrdd y porthmyn yn eich gwahodd i’w cerdded a’u darganfod ar droed neu mewn car tra bod pysgota, merlota a golff ar gael hefyd gerllaw. Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Gerddi Aberglasney yn daith fer yn y car, gan eu gwneud yn atyniadau perffaith i’r garddwyr brwd yn eich plith.
Mae’r bwthyn o fewn cyrraedd i Fae Ceredigion ac i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (gan gynnwys Bannau Sir Gâr a Llyn y Fan Fach), tra bod Arfordir Penfro a Phenrhyn Gwyr hefyd yn ardaloedd poblogaidd i’r rhai sy’n ymweld â Gorllewin Cymru. Dyma ardal o gryn ddiddordeb hanesyddol gyda Chloddfa Aur Dolaucothi sydd dair milltir i ffwrdd yn ogystal â’i chestyll, ei heglwysi, ei hadeiladau hanesyddol a’i llefydd diddorol niferus eraill gyda sawl un yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol, mae’n fan delfrydol ar gyfer gwylio adar gyda’r Barcud Coch yn un o’r prif atyniadau.
Chwaraeon Dwr - Mae Clwb Rhwyfo Canw Llandysul yn cynnig rafftio dwr gwyn, canwau a chaiacau gyda golygfeydd ysblennydd ar hyd afon Teifi ar gyfer y rhai sy’n mwynhau chwaraeon dwr, 21.6 milltir.
Canolfan Chwaraeon Dwr Ceredigion Cei Newydd, 28.5 milltir.
Cerdded - Llawer o lwybrau cerdded lleol o drothwy’r drws yn addas ar gyfer pob lefel a gallu. Clwb cerdded lleol a llawer o lwybrau cerdded. Teithiau tywys ar gael. Ffordd y Porthmyn, 3 milltir.
Pysgota - Afon Cothi (llednant i afon hudol Tywi, sydd yn enwog am eogiaid) gerllaw, gyda thrwyddedau ar gael o’r clybiau lleol, 2.8 milltir.
Pysgodfa Frithyll Troed y Bryn a phyllau pysgota bras, 15.2 milltir
Golff - Clwb Golff Cilgwyn wedi ei leoli mewn dyffryn neilltuedig a hynod o pictiwrésg. Mae’r tir chwarae yn wastad ond mae digonedd o goed, pyllau a nentydd i’ch herio wrth i chi geisio gwneud eich ffordd o amgylch y cwrs, 13.5 milltir.
Beicio - Hafan feicio ar hyd llwybrau gwledig tawel 0.2 milltir, 0.2 milltir. Safle Adnoddau Naturiol Cymru yng Nghwm Rhaeadr gyda’i lwybr beicio mynydd, 11.5 milltir.
Merlota - Canolfan Farchogaeth Caeiago wedi ei leoli ar ffin mynyddoedd hardd y Cambrian yng nghalon y Gymru wledig, yn sicrhau bro farchogaeth ysblennydd gydag amrywiaeth o fywyd gwyllt.