Pen Cei Apartment

Aberaeron, West Wales

  • 4 Star Gold
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £708 yr wythnos
  • £101 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r harbwr
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd

Awyr Agored

  • Parcio ar y stryd

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Lleoliad â digon o steil. Mae Pen Cei Apartment yn lety hunan ddarpar ar lawr cyntaf ac ail adeilad sydd ag un o'r lleoliadau gorau yn Aberaeron, tref fach hardd ar arfordir Gorllewin Cymru. Drws nesaf i westy eiconig yr Harbwrfeistr, mae'r ty 3 llawr hwn yn mwynhau golygfeydd anhygoel dros yr harbwr. Mae'r llety ei hun yn cynnig lleoliad llawn steil ble gellir eistedd nol ac ymlacio gyda paned da o goffi neu lasied o win tra'n edrych yn freuddwydiol ar y cychod yn siglo'n araf yn yr harbwr.

Mae tref Aberaeron, gyda'i chymeriad Sioraidd, yn cynnig dewis eang o fwytai a chaffis. I ddechrau, gellir cael coffi boreol drws nesaf yn yr Harbwrfeistr, yna pryd o fwyd ym Mwyty a Bar y Cellar, neu de prynhawn yn yr Hive ar y Cei. Mae traeth Aberaeron a Llwybr Arfordirol Cymru ar stepen y drws gyda golygfeydd ar hyd Bae Ceredigion, tra fod atyniadau'r dref, yn cynnwys nifer o siopau annibynnol.

Mae digon i gadw'r teulu oll yn ddiddan, megis taith ar gwch i ddarganfod Arfordir Treftadaeth Bae Ceredigion. Ewch am dro 3km ar hyd llwybr yr hen drac rheilffordd i ymweld â phlasdy a gardd yr Ymddiriedaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron, neu daith fer ar hyd yr arfordir i'r de i bentref Cei Newydd, i gael cip ar y dolffiniaid neu fwynhau diwrnod hamddenol ar y traeth euraidd.

Llawr Cyntaf

  • Lolfa/Ardal fwyta: Soffas cyfforddus, teledu Smart, bwrdd coffi a bwrdd bwyta gyda golygfeydd anhygoel dros yr harbwr. 
  • Cegin: Modern, gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys popty trydan a hob anwytho, peiriant golchi llestri ac oergell/rhewgell fach.

Ail Lawr

  • Ystafell wely 1: Ystafell fawr gyda gwely maint king, teledu a golygfeydd i gefn y llety tuag at Aberystwyth ar hyd yr arfordir. Ystafell ymolchi ensuite gyda chawod wlaw, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
  • Ystafell wely 2: Ystafell hardd arall gyda dau wely sengl, teledu a golygfeydd. Ystafell ymolchi ensuite gyda chawod wlaw, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.

Tu Allan

Mainc tu allan y llety ble gellir eistedd a mwynhau golygfeydd o'r harbwr, sydd ar stepen y drws.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te a choffi, siwgwr, llaeth a chacen
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
  • Gwasanaeth golchi dillad (casglu a dychwelyd) ar gael os dymunir
  • Dim anifeiliaid anwes
  • Llety sydd yn addas i deuluoedd, ond dylid nodi bod yna risiau serth rhwng y llawr cyntaf a'r ail yn y llety ac ni awgrymir y llety ar gyfer plant sydd yn dechrau cerdded.
  • Dim ysmygu y tu mewn i'r llety
  • Parcio ar gael i 1 car y tu ôl i'r llety ar gyfer dadlwytho, yna llefydd parcio ar gael o fewn 100 metr  

  • Noder: Mae'r harbwr bellach yn agored i geir (h.y. nid yw bellach ar gyfer cerddwyr yn unig). Gellir cael mynediad i a pharcio ar Quay Parade (h.y. wrth flaen yr adeilad)

Lleoliad