Ysgubor Tawe, dim ond wyth milltir o Abertawe wedi ei osod ar fferm fryniog dawel yng Nghwm Tawe a'i olygfeydd godidog.
- £578 yr wythnos
- £83 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 3 o welyau dwbl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Ystafell wlyb
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Yn nythu rhwng mynyddoedd y Bannau Brycheiniog a hafan arfordirol Gwyr, mae’r bwthyn gwyliau hwn ym Mhontardawe wedi’i leoli ar fferm heddychlon ym Mro Tawe. Mae’r bwthyn mewn lle perffaith i ymlacio a gwneud y mwyaf o atyniadau a gweithgareddau’r ardal. Dim ond 8 milltir i ffwrdd o Abertawe.
Llawr Gwaelod
Cegin ac ystafell fwyta agored gyda chegin osod ffasiynol, popty nwy, meicrodon, tostiwr, gril, peiriant coffi a theledu. Mae lle i chwech fwyta wrth y bwrdd bwyd.
Lolfa gyda theledu mawr 50”, DVD a soffas lledr moethus. Drysau dwbl yn agor allan ar ardal yr ardd a golygfeydd gwych.
Ystafell wely ddwbl gydag ystafell wlyb en-suite.
Llawr cyntaf
Dwy ystafell ddwbl en-suite gyda bath hanner-maint a chawod uwchben y bath, toiled a sinc.
Tu allan
Ardal batio, ystafell haul a mainc a chae mawr caeedig, ½ erw o lawntiau i’w mwynhau a gasebo pren ac ardal barbeciw sy’n cael ei rhannu gyda’r bwthyn arall.
Mae yna hefyd olchdy i’w rannu, gyda pheiriant golchi a sychwr dillad.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'r trydan yn cael ei fesur gan fesurydd.
Mae gwres yn gynwysedig.
Pecyn croeso wrth i chi gyrraedd yn cynnwys te, coffi, siwgr a bisgedi.
Darperir dillad gwely a thywelion
Trydan a gwres olew canolog yn gynwysedig.
Wi-Fi ar gael.
Cadair uchel, cot teithio a giat grisiau ar gael yn y bwthyn. Os gwelwch yn dda dewch â’ch lliain gwely eich hun ar gyfer y cot.
Mae’r eitemau canlynol hefyd yn gynwysedig yn y bwthyn ar gyfer eich arhosiad;
Cegin: halen a phupur, rôl cegin, hylif golchi llestri/tabledi golchi llestri, tywelion sychu llestri a sgwrwyr newydd, ffoil tin a chling ffilm.
Ystafell ymolchi: sebon hylif a dau doiled rôl ar gyfer pob toiled.
Cynnyrch glanhau cyffredinol: cannydd (bleach), glanhawr cawod, chwistrellydd gwrthfacteria a.y.y.b
Dim ysmygu tu fewn.
Croeso i anifeiliaid anwes (uchafswm o ddau gi) am £15 y ci, ond dim anifeiliaid anwes yn yr ystafelloedd gwely. Nid yw'r bwthyn hwn yn derbyn cathod.
Mae’r bwthyn hwn yn cynnig gwyliau byr ar adegau penodol o’r flwyddyn. Mwy o wybodaeth o dan ‘Prisiau’.
Lleoliad
Mae’r Stadiwm Liberty, cartref tîm pêl-droed Abertawe a thîm rygbi’r Gweilch wedi’i leoli saith milltir i ffwrdd. Mae gan Abertawe hefyd barc dwr/canolfan nofio gyda phwll 50m a nifer o lithrennau dwr a reidiau dwr. Mae Abertawe’n cynnwys nifer o siopau gwych, ac mae ganddi arwyddocad hanesyddol mawr gan mai Abertawe oedd prif gynhyrchydd copr y Byd yn yr 19eg ganrif.
Dim ond deuddeg milltir i ffwrdd mae Penrhyn Gwyr, yn adnabyddus am ei brydferthwch naturiol anhygoel, ei holl draethau a’i weithgareddau arfordirol. Mae Parc Cenedlaethol Y Bannau Brycheiniog wedi’i leoli un ar ddeg milltir i’r Gogledd gyda golygfeydd godidog, cyfleon cerdded gwych a gweithgareddau awyr agored eraill.
Cerdded
Llwybr priod a llwybrau cerdded yn rhedeg heibio’r bwthyn. Mae yna hefyd lwybr cerdded coedwigol ar y fferm. 0.1 milltir.
Chwaraeon Dwr
Mae Chwaraeon Dwr Abertawe yn darparu amryw o weithgareddau chwaraeon dwr a hyfforddiant ar gyfer pob oed a phob lefel o brofiad. 11 milltir.
Golff
Mae Clwb Golff Pontardawe mewn lleoliad dyrchafedig gyda golygfeydd gwych. 1.4 milltir.
Beicio
Beicio Mynydd - Mae Parc Coedwig Afan yn un o draciau beicio mynydd gorau Prydain gyda 4 llwybr llifo gwych a digonedd o draciau sengl aml-dywydd. 12 milltir.
Llwybrau beicio, llwybr NCN tuag at y Bannau Brycheiniog neu i’r De tuag at Abertawe. 1.5 milltir.
Pysgota
Pysgota Gêm : Afon Tawe, afon fach hyfryd sy’n cynnwys eogiaid, brithyll y môr a brithyll brown. Cysylltwch â Chymdeithas Pysgota Isafonydd Tawe am docynnau diwrnod. 1 milltir.
Pysgota Môr : Pysgota o’r lan gwych, cychod pysgota a siarter ar gael o Farina Abertawe. 9.4 millir.
Merlota
Canolfan Marchogaeth Cimla - gwersi marchogaeth, merlota a gwyliau marchogaeth ar gyfer pob oed a phob gallu. 9.8 miltir.