Wedi eu lleoli ger y Barri ac ond 20 munud o ganol Caerdydd, mae'r ddau lety hunan ddarpar hyn yn cysgu 8 gyda'i gilydd.
- £1,185 yr wythnos
- £169 y noson
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 4 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau dwbl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 4 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Wedi eu lleoli ger y Barri ac ond 20 munud o ganol Caerdydd, mae'r ddau lety hunan ddarpar hyn yn cysgu 8 gyda'i gilydd. Gellir archebu Y Cudyll Coch ac Y Golomen arwahan, ond gyda'i gilydd maent yn ddelfrydol ar gyfer dau deulu neu grwp o ffrindiau. Mae'r golygfeydd yn y cefn yn ymledu allan dros gefn gwlad Bro Morgannwg gydag arfordir Treftadaeth Morgannwg ar stepen y drws, yn cynnig llwybrau cerdded gwych, traethau a golygfeydd. Mae traeth Ynys y Barri gerllaw, sydd wedi dod i enwogrwydd yn dilyn y gyfres deledu Gavin a Stacey, yn ogystal â Pharc Gwledig Porthkerry. Ar gyfer digwyddiadau chwaraeon a chyngherddau cerddorol mae Stadiwm Principality, Stadiwn Dinas Caerdydd, a Maes Criced Rhyngwladol Gerddi Soffia ond taith fer i ffwrdd.
Uned 1 - Y Golomen
Llawr Gwaelod
Cegin, ystafell fwyta ac ystafell fyw ar gynllun agored. Mae’r gegin chwaethus yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch - popty trydan, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell, peiriant golchi a pheiriant sychu dillad a meicrodon.
Mae’r ardal fyw yn cynnwys soffas cyfforddus, teledu, DVD, doc ipod a chonsol gemau. Mae’r drysau sy’n plygu yn agor at falconi sy’n cynnig golygfeydd anhygoel ar draws y dyffryn.
Ystafell wely 1 – Ystafell wely maint king gydag ystafell ymolchi en-suite â chawod dros y bath.
Ystafell wely 2 – Ystafell wely ddwbl gydag ystafell gawod en-suite.
Uned 2 - Y Cudyll Coch
Llawr Gwaelod
Cegin - ystafell fwyta ac ystafell fyw ar gynllun agored. Mae’r gegin chwaethus yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch - popty trydan, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell, peiriant golchi a pheiriant sychu dillad a meicrodon.
Mae’r ardal fyw yn cynnwys soffas cyfforddus, teledu, DVD, doc ipod a chonsol gemau. Mae’r drysau sy’n plygu yn agor at falconi sy’n cynnig golygfeydd anhygoel ar draws y dyffryn.
Ystafell wely 1 – Ystafell wely maint king gydag ystafell ymolchi en-suite â chawod dros y bath.
Ystafell wely 2 – Ystafell wely ddwbl gydag ystafell gawod en-suite.
Gardd
Lawnt fawr yn cynnig haul drwy'r dydd. Barbaciw ar y safle ac mae sied ddiogel i gadw beics a digon o le ar gyfer unrhyw ddeunydd chwaraeon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Pecyn i’ch croesawu i’r bwthyn gwyliau hwn yn y Barri yn cynnwys te, coffi, siwgr, llefrith, cacennau cartref a bisgedi. Gadewch i ni wybod os ydych yn dathlu achlysur arbennig ac fe fydd rhywbeth bach ychwanegol yn eich pecyn croesawu.
Dillad gwely a thywelion yn gynwysedig.
Trydan a gwres yn gynwysedig a gwres o dan y llawr drwy’r bwthyn.
Cadair uchel, cot teithio a gât i'r grisiau ar gael ar gais. Dewch a’ch dillad eich hunain ar gyfer y cot.
Wi-fi ar gael.
Dim anifeiliaid nac ysmygu (cytiau ar gael ar y safle ar gyfer cwn os oes angen).
Os dymunwch, gallwn hefyd archebu bwrdd i chi o flaen llaw yn un o’r bwytai a argymhellir. Gadewch i ni wybod pa fath o fwyd y dymunwch ac mi wnawn ni’r gweddill.
Darperir y canlynol yn y bwthyn ar gyfer eich arhosiad... Cegin: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi peiriant golchi, cadachau newydd, ffoil a cling film. Ystafell ymolchi: sebon golchi dwylo a 2 bapur toiled i bob toiled. Nwyddau glanhau cyffredinol: cannydd, hylif golchi cawod, chwistrellydd gwrth facteria ayyb.