- £611 yr wythnos
- £87 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae’r llety hunan ddarpar hwn yn y Barri yn agos at lawer o draethau a ddim ond 20 munud o ganol Caerdydd. Mae golygfeydd hyfryd o Fro Morgannwg i’w gweld o’r balconi. Mae yna hefyd lawer o weithgareddau ac atyniadau i’w mwynhau yn yr ardal yn cynnwys Arfordir Treftadaeth Morgannwg.
Llawr Gwaelod
Cegin, ystafell fwyta ac ystafell fyw ar gynllun agored. Mae’r gegin chwaethus yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch - popty trydan, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell, peiriant golchi a pheiriant sychu dillad a meicrodon.
Mae’r ardal fyw yn cynnwys soffas cyfforddus, teledu, DVD, doc ipod a chonsol gemau. Mae’r drysau sy’n plygu yn agor at falconi sy’n cynnig golygfeydd anhygoel ar draws y dyffryn.
Ystafell wely 1 – Ystafell wely maint king gydag ystafell ymolchi en-suite â chawod dros y bath.
Ystafell wely 2 – Ystafell wely ddwbl gydag ystafell gawod en-suite.
Gardd
Lawnt fawr yn cynnig haul drwy’r dydd. Barbaciw ar y safle ac mae sied ddiogel i gadw beics a digon o le ar gyfer unrhyw ddeunydd chwaraeon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Pecyn i’ch croesawu i’r bwthyn gwyliau hwn yn y Barri yn cynnwys te, coffi, siwgr, llefrith, cacennau cartref a bisgedi. Gadewch i ni wybod os ydych yn dathlu achlysur arbennig ac fe fydd sypreis ychwanegol yn eich pecyn croesawu.
Lleiniau gwely a thywelion yn gynwysedig.
Trydan a gwres yn gynwysedig a gwres o dan y llawr drwy’r bwthyn, a rheolyddion ym mhob ystafell.
Cadair uchel a chot teithio ar gael ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
Wi-fi ar gael.
Dim anifeiliaid nac ysmygu (cytiau ar gael ar y safle os oes angen).
Os dymunwch, gallwn hefyd archebu bwrdd i chi o flaen llaw yn un o’r bwytai a argymhellir. Gadewch i ni wybod pa fath o fwyd y dymunwch ac mi wnawn ni’r gweddill.
Darperir y canlynol yn y bwthyn ar gyfer eich arhosiad... Cegin: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi peiriant golchi, cadachau newydd, ffoil a cling film. Ystafell ymolchi: sebon golchi dwylo a 2 bapur toiled i bob toiled. Nwyddau glanhau cyffredinol: cannydd, hylif golchi cawod, chwistrellydd gwrth facteria ayyb.