- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
- Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
- Special Offer15% offer 28th June – 18th July
- Special Offer10% offer w/c 19th July
- Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
- Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August
- £437 yr wythnos
- £62 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 3 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Dim tywelion ar gael
- Baddon
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Bwthyn gwyliau moethus yn Nhy Ddewi, Sir Benfro sydd hefyd yn croesawu cwn. Lleolir bwthyn yr Ysgubor ar fferm deuluol a cheir pwll brithyll ar y tir. Os ewch chi am dro am hanner milltir ar hyd tir y fferm fe ddewch chi at Lwybr hyfryd Arfordirol Sir Benfro sy’n dilyn y clogwyni ar hyd ymyl gogleddol penrhyn prydferth Ty Ddewi. Mae’r bwthyn hefyd yn agos i draeth Baner Las Porthmawr.
Llawr Gwaelod
Mae gan y bwthyn gegin/lle bwyta eang gydag unedau a bwrdd teuluol a all eistedd chwech o bobl yn gyfforddus. Mae’r gegin yn cynnwys hob nwy gyda ffan uwchben, popty trydan a gril, microdon, tegell a thostiwr, oergell gydag adran rhewi, peiriant golchi, haearn a bwrdd smwddio. Ceir digonedd o offer, llestri a gwydrau (hyd yn oed llestri picnic!) ar gyfer eich anghenion.
Yn yr ystafell fyw ceir dwy soffa helaeth, teledu sgrin lydan gyda sianeli am ddim, chwaraewr DVD, chwaraewr CD/radio/casét a chasgliad da o lyfrau a gemau. Mae’r bwthyn gwyliau wedi cadw tipyn o’i arweddion gwreiddiol ac mae wedi ei addurno gyda gwaith artistiaid lleol a chelf sy’n darlunio’r ardal leol.
Llawr Cyntaf
Dwy ystafell wely glyd - un twin ac un dwbl.
Mae’r bathrwm wedi ei leoli rhwng y ddwy ystafell wely ac mae ganddo lawr a waliau teils yn ogystal â bath a chawod bwerus uwch ei ben, toiled a basn golchi dwylo.
Gardd
Patio amgaeedig a phreifat gyda bwrdd picnic a chadeiriau, grisiau graddol yn arwain i ardal laswelltog gyda lein ddillad.
Mae croeso i westai gerdded trwy dir y fferm i ymuno â’r llwybr, sydd ond dri chae i ffwrdd. Ceir llyn ar y fferm hefyd a’i lond o frithyll, os hoffai gwestai ddod a’u ffyn pysgota gyda nhw.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nwy, trydan, gwres canolog/dwr poeth yn gynwysedig.
Darperir dillad gwely a sychwr gwallt. Dewch a thywelion a thywelion llestri gyda chi os gwelwch yn dda.
Gellir darparu cot a chadair uchel ar eich cais (dewch a’ch dillad gwely eich hun i’r cot os gwelwch yn dda).
Croesewir cwn.
Gellir archebu’r bwthyn ar gyfer gwyliau byr ar adegau penodol o’r flwyddyn, gweler mwy o wybodaeth o dan ‘Prisiau’.
Mae’r Ysgubor wedi ei uno â bwthyn Ty Blawd a gellir archebu’r ddau i letya 8 o bobl.
Lleoliad
Saif bwthyn Ysgubor ar fferm weithredol, 2 filltir i’r gogledd o Dy Ddewi, dinas leiaf Prydain. Mae’r fferm yn ymestyn draw at Lwybr Cerdded enwog Arfordir Sir Benfro, a cheir nifer o lwybrau beicio yn pasio gerllaw.
Mae dinas hardd ac unigryw Ty Ddewi wedi ei hamgylchynu gan un o’r arfordiroedd gorau yn Ewrop. Derbyniodd statws dinas gan Frenhines Elisabeth II oherwydd presenoldeb yr eglwys gadeiriol, ond mewn gwirionedd, pentref bychan hardd yw Ty Ddewi. Wedi ei leoli o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, mae Ty Ddewi wedi ei amgylchynu gan olygfeydd arfordirol trawiadol ac mae’n adnabyddus am ei harddwch a’i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Mae Ty Ddewi wedi swyno llawer yn cynnwys hyfforddwr presennol tîm rygbi Seland Newydd sy’n cyfeirio at Dy Ddewi fel ei hoff le yn y byd.
Ychydig filltiroedd i’r dwyrain, ar arfordir bendigedig Gorllewin Cymru saif pentref Solfach, sydd hefyd yn cael ei gydnabod fel perl Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Lleoliad delfrydol ar gyfer cerdded, hwylio, pysgota neu yn syml iawn, i ymlacio ymysg y siopau, orielau a bwytai sydd wedi eu lleoli ynghanol golygfeydd gwefreiddiol. Saif y pentref ar hafn ddofn yn aber yr Afon Solfach, sy’n cynnwys stryd hir gyda harbwr bychan ar ei phen. Ceir nifer o dafarndai lleol sy’n darparu bwyd ac awyrgylch arbennig, yn ogystal â siop leol sy’n cynnwys swyddfa bost, siop papurau newydd a nifer o eitemau gwyliau megis offer pysgota ac eitemau i’r traeth. O harbwr Solfach gallwch ddal cwch i weld y bywyd gwyllt lleol neu hyd yn oed drip pysgota i ddal ychydig o bysgod ffres ar gyfer y barbiciw. Mae neidio o’r cei a physgota am grancod yn rai o hoff ddiddordebau’r plant lleol. Gellir hefyd archebu cyrsiau cychod hwylio a gweithgareddau dwr yn y cei.
Mae’n werth ymweld ag Ynys Dewi (Ramsey) yn ystod eich gwyliau hefyd. Ynys ddramatig, filltir oddi ar arfordir Sir Benfro yw hon, oddeutu 600 acer mewn maint gyda chlogwyni 400 troedfedd. Mae’r rhain yn llawn adar y môr yn magu ac mae bellach yn eiddo i’r RSPB. Gellir cyrraedd Ynys Dewi gyda gwasanaeth cwch arferol o St Justinian. Mae’r ynys yn gartref i filoedd lawer o adar môr yn y tymor, yn cynnwys gweilch y penwaig, gwylanod coesddu, gwylanod y graig a phalod (puffins). Mae’r ogofau a’r traethau o amgylch Ynys Dewi yn ardal fagwraeth i’r crynodiad mwyaf o forloi llwyd sy’n rhoi genedigaeth i dros 400 o genau bychain gwynion yn ystod yr Hydref.
Traethau
Porthmawr (Whitesands) – Traeth baner las sy’n boblogaidd gan deuluoedd gan ei fod yn cynnig nofio diogel a thywod gwyn glân. Fe’i hystyrir yn un o fannau syrffio gorau Cymru hefyd. 2 filltir
Bae Caerfai – Traeth tywod hyfryd a chysgodol, perffaith i deuluoedd. 2.8 milltir
Niwgwl – Traeth tywod gwastad a llydan sy’n ymestyn am ddwy filltir gyda chlawdd cerigos enfawr y tu cefn iddo. Mae ymchwyddiadau grymus yn rholio i mewn fan hyn drwy gydol y flwyddyn. 9.2 milltir
Traeth Caerbwdi - Traeth creigiog hardd, perffaith ar gyfer snorclo. Creigiau tywodfaen coch sydd fan hyn, ac oddi yma y cafwyd y cerrig ar gyfer adeiladu Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi. 3.1 milltir.
Chwaraeon Dwr
Mae TYF Adventure yn cynnwys canwio, caiacio, neidio arfordir a llawer mwy. 2.4 milltir
Cerdded
Llwybr Cerdded Arfordirol Sir Benfro. Os ydych chi’n edrych am daith gerdded fach hamddenol neu her wythnos o hyd, mae’r dewis ar drothwy eich drws. Ymunwch â’r llwybr 0.5 milltir i ffwrdd.
Pysgota
Ceir pysgota brithyll ar y safle yn llyn y fferm (cedwir brithyll yr enfys ynddo) 0 milltir
Ar gyfer pysgota môr, gallwch gerdded ar draws tir y fferm at gildraethau a darnau caregog sy’n cynnig pysgota môr penigamp, sydd hefyd yn un o’r llefydd gorau i bysgota am ddraenogiaid y môr yn y DU. 0.5 milltir.
Teithiau Cwch Solfach - Tripiau pysgota a thripiau golygfaol o Harbwr Solfach. 5.4 milltir
Golff
Clwb Golff Dinas Ty Ddewi - un o dri chwrs naw twll nodedig o fewn 20 milltir ar hyd arfordir Gogledd Sir Benfro. 2.2 milltir
Beicio
Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 yn pasio gerllaw’r bwthyn ac yn rhedeg o Abergwaun i Lundain. Ar ffyrdd gwledig tawel yn bennaf. 0.3 milltir
Am feicio oddi ar y ffordd mae parc gwledig mawr Llys-Y-Fran tu allan i Hwlffordd. 27 milltir