- £571 yr wythnos
- £82 y noson
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Ystafell chwaraeon
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 4 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Storfa tu allan
- Barbaciw
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Wedi ei leoli ond rai cannoedd o fetrau o'r dwr yn Sandy Haven, mae'r bwthyn hwn yn steilus, helaeth a pherffaith ar gyfer teuluoedd ac anifeiliaid anwes. Y bwthyn hwn yw'r lleiaf o nifer fach ar yr un safle sydd yn rhannu ystafell chwaraeon, parc chwarae plant a lawnt fawr sy'n ddelfrydol ar gyfer chwarae rownderi, pêl droed a gemau teuluol eraill. Mae yna nifer o draethau gwych a phentrefi arfordirol hyfryd yn yr ardal yn cynnwys Traeth Marloes, Dale, St Brides, Little Haven a Broad Haven. Ymhellach i ffwrdd mae yna nifer o atyniadau pob tywydd yn cynnwys Fferm Folly, Parc Deinosor, Parc Bywyd Gwyllt a Pharc Oakwood.
Llawr Gwaelod
Cegin, ardal fwyta a lolfa ar gynllun agored. Cegin gydag offer yn cynnwys popty dwbwl, hob 5 cylch, oergell/rhewgell, meicrodon, tostiwr, tegell a bwrdd bwyta i eistedd 8. Lolfa yn cynnwys 3 soffa, stôf goed nwy, a theledu ar y wal gyda DVD.
Ystafell wely 1 - gyda gwely dwbwl.
Ystafell ymolchi gyda toiled a basn.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 - dau wely sengl gydag en-suite sy'n cynnwys baddon a chawod oddi mewn.
Ystafell wely 3 - dau wely sengl.
Ystafell wely 4 - gwely maint king gyda golygfeydd o'r môr yn y pellter.
Ystafell ymolchi gydag uned cawod mawr, toiled a basn.
Tu Allan
Lawnt gyda bwrdd picnic yn ogystal â lawnt fawr arall sy'n cael ei rhannu, gyda parc chwarae plant ac ystafell chwaraeon.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Dillad gwelyau yn cael eu darparu. Dewch a thywelion eich hun
- Dewis da o lyfrau a gemau i blant
- WiFi ar gael
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dim ysmygu
- Croesewir anifeiliaid anwes (mwyafrif o 2 gi am £20 y ci). Noder y dylai'r cwn gael eu cadw ar dennyn ar y safle
- Lle parcio y tu blaen i'r llety ar gyfer 2 gar
Darperir y canlynol ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau. Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur i bob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
Gwybodaeth ar gyfer yr Anabl a'r Llai Abl
- Parcio rhwydd ar raean ac yna tir gwastad i mewn i'r llety
- Dim stepiau a gall cadair olwyn gael mynediad i'r ardd
- Ystafell wely a thoiled ar y llawr gwaelod
- Croesewir cwn tywys