- £435 yr wythnos
- £62 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae Bwthyn Trefdraeth yn cynnig golygfa drawiadol, ddi-dor o Fae Trefdraeth. Mae ei leoliad delfrydol yn ei wneud yn safle perffaith ar gyfer cerdded llwybr arfordirol cyfagos Sir Benfro, y Parc Cenedlaethol neu i ymweld â thref glan môr hyfryd Trefdraeth, Sir Benfro. O fewn pellter cerdded mae traeth Trefdraeth, cildraethau pellach ac amrywiaeth o fwytai a thafarndai cyfeillgar. Yn ogystal mae Cwrs Meysydd Golff Trefdraeth, canolfannau merlota, gweithdai o grefftau lleol a chanolfannau chwaraeon gerllaw.
Fel mae’r enw Trefdraeth yn ei awgrymu, mae’r bwthyn a’r dref mor agos â phosib i’r traeth ac felly yn ddelfrydol ar gyfer nofio, syrffio gwynt, hwylio a chanwio. Mae gweithgareddau eraill i’w mwynhau yma megis tennis, beicio, pysgota a gwylio adar.
Llawr Gwaelod
Bwthyn croesawgar gyda chegin / ystafell fyw a’r lolfa ar gynllun agored.
Cegin - Unedau derw, peiriant golchi dillad, oergell, golchwr llestri, microdon yn ogystal â bar brecwast.
Lolfa - Llawr derw, soffa ledr i dri, teledu a chwaraewr DVD, ffenestr fawr yn edrych dros Fae Trefdraeth.
Ystafell ymolchi - gyda chawod, basn ymolchi, toiled a bidet.
Ystafell wely 1 - Gwely dwbl gyda chwpwrdd dillad yn y wal.
Ystafell wely 2 - Gwelyau twin gyda chwpwrdd dillad yn y wal.
Gardd
Gardd chwarae fawr o flaen y bwthyn, gyda dodrefn gardd ar gyfer prydau al fresco.
Patio gyda dodrefn gardd yn edrych dros y lawnt fawr, Bae Trefdraeth ac ar draws tuag at Gwrs Golff Trefdraeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Lle parcio eich hun ger y bwthyn.
Y perchnogion yn byw drws nesa ac yn hapus i gynnig cyngor am atyniadau lleol.
Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu o fewn y bwthyn.
Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig.
Storfa ddiogel i feiciau.
Cot a chadair uchel ar gael.
Darperir dillad gwely a thywelion.
Wi-fi ar gael.