
Bwthyn gwyliau yn Nhrefdraeth Sir Benfro o fewn pellter cerdded i'r traeth a'r pentref bach glan môr
- £479 yr wythnos
- £68 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 4 o welyau sengl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Mae Ael y Bryn yn fwthyn o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, sydd wedi ei adnewyddu yn drawiadol i gadw ei gymeriad. Mae'r bwthyn wrth droed Castell Trefdraeth ac o fewn pellter cerdded i bentref arfordirol Trefdraeth, gyda'i ddewis o gaffis, siopau lleol, bwytai a thafarndai. Mae'n leoliad gwyliau delfrydol sydd yn cynnig traeth gwych, llwybr arfordirol a cwrs golff trawiadol gerllaw. Mae'n cynnwys 3 man parcio. Adeiladwyd y ty yn wreiddiol fel cartref i reolwr y felin wlan a leolir drws nesaf, ac fe welir addurn stensil unigryw ar wal y cyntedd.
Llawr Gwaelod
Cegin ac ardal fwyta agored. Cegin fodern llawn offer, yn cynnwys popty a hob nwy, meicrodon, peiriant golchi llestri ac oergell. Bar brecwast ac hefyd bwrdd bwyta gyda lle i 6 eistedd.
Lolfa gyda thân coed o fewn y lle tân gwreiddiol, teledu a soffas cyfforddus.
Ail ystafell eistedd, yn ddelfrydol ar gyfer ymlacio, gyda dewis eang o lyfrau a gemau bwrdd, chwaraewr CD a radio
Ystafell arwahan gyda rhewgell, oergell ychwanegol a pheiriant golchi dillad, lle i sychu a storio
Toiled lawr grisiau
Llawr Cyntaf
Llofft wely ddwbl - ystafell ymolchi ynghlwm gyda chawod a thoiled
Llofft twin
Prif ystafell ymolchi gyda thoiled, basn, bath â chawod uwchben
Llofft twin yn yn cefn gyda golygfeydd o’r môr
Gardd
Drysau dwbl yn agor allan o’r ystafell fwyta i’r ardd lle ceir bwrdd a chadeiriau, yn ogystal â Barbaciw braf. I’r cefn mae ardal helaeth o laswellt yn codi ar i fyny gyda mynediad ato drwy gât (sylwer, mae angen gofal o blant bach yn yr ardal yma). Gellir mwynhau golygfeydd o’r môr dros doeon y tai oddi yma. Mae yna hefyd garej ar gyfer storio beiciau, caiacau, ayb yn ddiogel
Gwybodaeth ychwanegol
- Pecyn croeso Cymreig yn gynwysedig
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Cyflenwad gwreiddiol o goed tân yn gynwysedig, gellir prynu rhagor os dymunir
- Cot a chadair uchel ar gael os dymunir (bydd yn rhaid dod â dillad eich hun i’r cot)
- Dim ysmygu
- Dim anifeiliad anwes
- Wi-Fi yn gynwysedig
- Gellir trefnu angorfa i ymwelwyr gyda’r gymdeithas angorfa annibynnol leol gyda rhybudd ymlaen llaw (darperir manylion ar ôl bwcio)
- Man diogel i storio beiciau ayb
- 3 man parcio oddi ar y ffordd (caffaeliad mawr yn Nhrefdraeth)
Lleoliad
Mae’r arfordir yn adnabyddus am ei ddolffiniaid, a gellir archebu trip ar long o dref Aberteifi. Fe geir nifer o atyniadau gwych yn yr ardal gan gynnwys Cardigan Island Coastal Farm Park, Dyfed Shire Horse Farm, Folly Farm a Parc Thema Oakwood. Fe welir adfeilion Castell yn Nhrefdraeth, gyda llawer o gestyll eraill gerllaw yn cynnwys Castell Aberteifi a Chilgerran. Mae Pentref Oes Haearn Castell Henllys yn fan sy’n werth ymweld ag ef - yma gellir teithio yn nol 2000 o flynyddoedd mewn amser
Mae Mynyddoedd y Preseli i mewn i’r tir o Drefdraeth a ceir llawer o chwedleuon a storiau yn ymwneud â’r mynyddoedd hudol hyn. Dywedir i gerrig gleision byd enwog Stonehenge darddu o’r bryniau hyn. Mae Mynydd Carningli yn gorwedd gerllaw Trefdraeth, ac er ei fod ond 400 metr o uchder, mae ei leoliad ger yr arfordir yn ei wneud yn fan unigryw gyda golygfeydd anhygoel o’i gopa. Ar ddiwrnod clir gellir gweld y Wyddfa a Gogledd Cymru oddi yno, ac ar adegau gellir gweld drosodd i Iwerddon a Mynyddoedd Wiclow. I gerddwyr, mae’r bws gwennol ‘Poppit Rocket’ yn teithio ar hyd yr arfordir o Drefdraeth tuag at Aberteifi, a gyda llawer o arhosiadau ar hyd y ffordd, mae’n ddull delfrydol i gerdded rhannau o Lwybr Arfordirol Cymru
Traethau
- Traeth Mawr yw’r mwyaf o’r traethau gyda bron i filltir o dywod euraidd. Yn ystod yr haf fe geir parth nofio diogel sydd yn cael ei oruchwylio gan warchodwyr (0.6 milltir)
- Gellir trefnu angorfa i ymwelwyr gyda’r gymdeithas angorfa annibynnol leol gyda rhybudd ymlaen llaw (0.6milltir)
- Gellir mwynhau teithiau cerdded ar hyd Llwybr Arfordirol Cymru heb lawer o ymdrech (0.6 milltir)
- Mae yno hefyd lwybrau lleol eraill uwchben y bwthyn sydd yn cynnig golygfeydd gwych dros yr arfordir (0.1 milltir)
- Mae yna bysgota gwych o gwmpas ardal Trefdraeth
- Pysgota Môr - mae aber yr afon Nanhyfer yn fan poblogaidd am ddraenogiaid y môr (sea bass) a pysgod fflat (flat fish) (0.5 milltir)
- Pysgota garw (coarse) - llawer o lynnoedd gan gynnwys Pysgodfa Yet-y-Gors (7 milltir)
- Pysgota Gêm (game) - gellir ceisio dal brithyll brown, eogiaid a brithyll y môr yn Afon Nanhyfer (0.5 milltir)
- Mae un o’r cyrsiau linc gorau ym Mhrydain Fawr wedi ei leoli yn Nhrefdraeth (1.2 milltir)
- Mae’r llwybrau a’r lonydd cefn tawel sydd yn yr ardal yn fannau delfrydol ar gyfer beicio. Mae taith feicio blynyddol Sir Benfro yn pasio drwy Drefdraeth bob mis Ebrill (0.1 milltir)
- Mae Crosswell Horse Agency yn darparu ar gyfer marchogion di-brofiad yn ogystal â’r profiadol (3 milltir)