- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- £734 yr wythnos
- £105 y noson
- 10 Guests
- 4 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 3 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Smart TV
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau sengl
- 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Mae’r bwthyn gwyliau hunan arlwyo hyfryd hwn yn Eryri, wedi ei leoli yn Nyffryn Dysynni, ardal o harddwch eithriadol ger Tywyn, Gogledd Cymru. Mewn llecyn o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, mae’r bwthyn neilltuedig hwn yn mwynhau golygfeydd godidog o odre Cadair Idris. Mae’n safle perffaith ar gyfer cerdded a chrwydro gyda milltiroedd o lwybrau cerdded tawel a diddorol i bob cyfeiriad.
Llawr Gwaelod
Adeiladwyd y bwthyn hunan arlwyo teuluol hwn ym 1994 ac mae ganddo brif lolfa gysurus gyda thân agored coed neu lo a theledu Smart. Ceir ffenestr fawr yn edrych i lawr y dyffryn tuag at Graig yr Aderyn. Mae’r ystafell fwyta, drws nesaf i’r patio, yn rhannu’r golygfeydd trawiadol rhain hefyd.
Mae’r gegin helaeth a modern yn edrych dros yr ardd a’r patio ac yn cynnwys popeth o ficrodon a phopty trydan i rewgell a rayburn. Mae iwtiliti’r bwthyn yn cynnwys yr holl offer angenrheidiol am wyliau cysurus ac ymlaciol, megis golchwr llestri a pheiriant golchi a sychu dillad.
Mae’r bwthyn yn cysgu hyd at 10 o bobl yn gyfforddus gyda’r dewis o gael un gwely ychwanegol wedi ei osod ar gais i gysgu 11.
Mae gan yr ystafell wely gyntaf wely maint super king (neu gellir ei wneud yn ddau wely twin ar gais) gyda chyfleusterau en-suite a theledu Smart.
Mae gan yr ail ystafell welyau twin, neu gellir eu gwneud yn wely dwbl ar gais. Teledu a chwaraewr DVD yn gynwysedig.
Mae gan y drydedd ystafell wely dwbl.
Mae’r bedwaredd ystafell wely yn ystafell deuluol gyda gwely dwbl a gwely sengl, ynghyd â chot Mothercare. O’r ystafell hon mae yna hefyd ystafell arall wedi ei chysylltu gydag un gwely sengl sydd yn gwneud yr ystafell yn berffaith ar gyfer teulu o ddau oedolyn, dau o blant a baban.
Mae gan y bwthyn hefyd ystafell ymolchi fawr gyda bath a chawod.
Gardd
Mae’r ardd amgaeedig wedi ei chynllunio’n chwaethus gydag ardaloedd preifat i ymlacio, a barbeciw i fwynhau'r golygfeydd. Perffaith ar gyfer gwyliau teuluol, mae ardal i’r plant yn ddiogel gydag amryw o gyfleusterau awyr agored gan gynnwys ty chwarae hyfryd. Ceir ardal ddiogel i’r plant chwarae sy’n cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau chwarae awyr agored ty pren/den chwarae yn y goeden.
Mae shed yr ardd yn cynnwys dingi, byrddau syrffio bychain, gwialenni pysgota a beiciau i bob oed.
Gwybodaeth Ychwanegol
Llefydd parcio ar gael o fewn ffiniau diogel y bwthyn.
Mae Maes Mihangel yn cynnig lleoliad gwledig a heddychlon, yn gwbl ddi-draffig, gyda golygfeydd gwefreiddiol a thraethau poblogaidd Tywyn ac Aberdyfi o fewn saith milltir.
Dau got a dwy gadair uchel ar gael ar gais. Dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig. Coed a glo ar gyfer y stôf yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim.
Darperir dillad gwely, tywelion a sychwr gwallt.
Darperir Wifi
Fideos a dvd’s plant ar gael
Dim ysmygu
Croesewir anifeiliaid anwes.
Hawl i bysgota am ddim
Caniateir gwyliau byr (dros benwythnos / canol wythnos) yn ystod y tymor tawel. Gweler yr holl fanylion o dan 'Prisiau’.
Pecyn croeso wrth i chi gyrraedd gyda the, coffi, siwgr a siocled poeth. Gall y cynnwys amrywio yn ddibynnol ar beth sydd ar gael, ond mae’r pecyn fel arfer yn cynnwys Bara Brith neu gacennau cri a photel o win. *Pecyn arbennig yn cael ei ddarparu ar gyfer archebion y Pasg a’r Nadolig.
Amrediad o deganau plant, llyfrau a fideos/DVD’s ar gael. Teledu ar wahân a chwaraewr fideo/DVD i’r plant.
Dim ysmygu.
Cyfleusterau parcio car ar gael o fewn ffiniau’r bwthyn gan ei wneud yn ddiogel.
Mynediad at bysgota am ddim ar afon sydd yn llifo drwy dir y perchennog.
Offer pygota a beiciau ar gael gan y perchennog gerllaw
Gall y perchnogion fynd a chi i fyny mynydd Cader Idris yn eu tryc ar gais.
Gwyliau byr ar benwythnosau neu yng nghanol yr wythnos ar gael yn ystod y tymor tawel. Mwy o wybodaeth o dan ‘Prisiau’.
Mae’r canlynol yn cael eu darparu yn y bwthyn ar gyfer eich arhosiad;
Cegin : hylif golchi llestri, powdr golchi.
Ystafell Ymolchi : sebon, hylif golchi dwylo a thoiled rôls.
Glanhau cyffredinol : bleach, glanhawr cawod, dwster, bagiau i’r hwfer, polish, chwistrellydd gwrth-facteria.
Lleoliad
Mae bwthyn gwyliau Maes Mihangel wedi’i leoli yn Nyffryn Dysynni - ardal arbennig o hardd yng nghyffiniau Tywyn (9 milltir) a thref glan môr ddeniadol Aberdyfi (13 milltir) yng ngogledd Cymru. Wrth droed Cader Idris yn ne Eryri, mae’r bwthyn 2 filltir o bentref Abergynolwyn, sydd â thafarn draddodiadol a bwyty bach da.
Mae’r gweithgareddau poblogaidd yn ne Eryri yn cynnwys Cerdded, Mynydda, Beicio Mynydd, Chwaraeon Dwr, Merlota a Physgota.
Ymhlith prif atyniadau’r ardal, mae Canolfan y Dechnoleg Amgen, Canolfan Grefftau Corris, Labyrinth y Brenin Arthur (lle delfrydol i fynd fel teulu) a nifer o reilffyrdd stêm, yn cynnwys rheilffordd Tal-y-llyn ddim ond dwy filltir i ffwrdd.
I lawer, perl y dyffryn yw llyn Tal-y-llyn. Beth bynnag fo’ch gallu a lefel eich ffitrwydd, gallwch ddod o hyd i filltiroedd o lwybrau cerdded da ble bynnag yr ewch chi. Mae llwybrau’n arwain at raeadr Dolgoch neu at Gastell y Bere, a adeiladwyd gan Lywelyn Fawr oddeutu 1221, lle mae golygfeydd godidog o’r dyffryn cyfan. Mae hon yn ardal lawn harddwch, hanes a chwedloniaeth - y cyfuniad perffaith i gael gwyliau i’ch ysbrydoli.
Cerdded
Cader Idris (mynydd) - mae un llwybr yn dechrau o’r rhiniog yn Llanfihangel-y-pennant ac yn dringo’n gyson ar ran deheuol y llwybr ceffyl. 10 milltir i’r copa - canolig/egnïol. 0 milltir (wrth y bwthyn)
Chwaraeon Dwr
Chwaraeon Dwr yn Aberdyfi yn cynnwys hwylio, hwylfyrddio, rhwyfo, canwio, pysgota a thripiau cychod. 13 milltir.
Cyrsiau Golff
Clwb Golff Aberdyfi – cwrs golff 18 twll. 13 milltir
Clwb Golff Dolgellau – cwrs golff 9 twll. 14 milltir
Clwb Golff Machynlleth – cwrs golff 9 twll. 15 milltir
Pysgota
Gyda’r môr, afonydd a llynnoedd gerllaw, mae digon o gyfleoedd pysgota o bob math ar gael yn yr ardal. Rhowch dro ar bysgota glan môr yn Nhywyn ac Aberdyfi (9 a 13 milltir) pysgota llyn yn Nhal-y-llyn (4 milltir) neu bysgota afon ar afon Dysynni (0.5 milltir).
Marchogaeth
Canolfan Farchogaeth Fferm Bwlchgwyn - addas i unrhyw un dros 4 oed. 14 milltir.
Beicio
Canolfan Feicio Mynydd Coed-y-bryn - Llwybrau addas i bob oed. 20 milltir