
Lleoliad heddychlon yn un o gymoedd harddaf Eryri, ger Porthmadog ac ystod eang o atyniadau. Addas ar gyfer gwesteion anabl.
- £760 yr wythnos
- £109 y noson
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 4 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Ystafell wlyb
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Wedi ei leoli mewn dyffryn godidog, mae'r llety helaeth hwn yn cynnig mangre heddychlon a thawel yn Eryri. Mae'r golygfeydd o fynyddoedd a chefn gwlad yn syfrdanol, gyda'r ardal wedi derbyn statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Cenedlaethol. Mae'r llety hwn, sydd yn sefyll ar ben ei hun, hefyd yn cynnig cyfleusterau anabl rhagorol, ac mae'n agos i Borthmadog, Criccieth ac ystod eang o atyniadau poblogaidd.
Llawr Gwaelod
Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys popty rangemaster, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriannau golchi llestri a golchi/sychu dillad. Bwrdd bwyta derw gyda digon o le i'r holl westeion. Golygfeydd gwych o'r gwyrddni o gwmpas.
Lolfa eang gyda golygfeydd drwy'r ffenestri a'r drysau sy'n arwain allan i'r patio. Digon o le i bawb eistedd gyda teledu 42", chwaraewr DVD, a thân coed i'ch cadw yn gynnes.
Ystafell wely 1 - gyda dau wely sengl (gall un o'r rhein fod yn wely proffilio os oes angen). Mae'r ystafell gawod en-suite yn addas ar gyfer gwesteion anabl (gyda llawr sydd ddim yn llithrig, handlenni addas, plinth newid ayb). Mae gwres o dan y llawr yn yr ystafell wely a'r ystafell gawod gyda drysau yn arwain allan i'r ardd a'r patio.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 - gwely king gyda digon o le i storio dillad, a golygfeydd gwych sy'n cynnwys melin lechi hynafol ychydig i fyny'r dyffryn.
Ystafell wely 3 - gwely king gyda lle storio dillad a golygfeydd godidog.
Ystafell wely 4 - dau wely sengl, eto gyda lle storio a golygfeydd anhygoel.
Ystafell ymolchi - baddon gyda cawod oddi mewn, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Gardd
Lawnt gaeedig a patio gyda Barbaciw a dau fwrdd picnic i fwynhau harddwch Eryri.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth, Bara Brith/cacennau cri, Siocled/Cyffug lleol, caws, creision, cwrw a wyau lleol (noder mai esiampl o'r pecyn yw hyn ac fe all amrywio ryw ychydig)
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig (gwres o dan y llawr yn yr ystafell wely ar y llawr gwaelod)
- Coed ar gael ar gyfer y stôf
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- 4 sychwr gwallt ar gael
- Cot trafeilio, cadair uchel a monitor babi ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot.
- Wifi
- Cyfleusterau anabl gwych - yn cynnwys hoist symudol os dymunir, yn ogystal â gwely proffilio/codwyr gwely os rhoddir digon o rybudd ymlaen llaw (am gost ychwanegol).
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn
- Ysbienddrych ar gael i edmygu'r golygfeydd pell-gyrhaeddol yn ogystal â'r sêr yn y nos
- Digon o le parcio
- Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau sychu llestri Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled ar gyfer pob toiled
Lleoliad
Ffermdy traddodiadol yng Nghwm Ystradllyn; un o gymoedd harddaf Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r ffermdy yn cynnig mangre dawel a heddychlon gyda golygfeydd gwych i bob cyfeiriad. Ystafelloedd gwely hardd ac ardaloedd byw cyfforddus yn ei wneud yn leoliad delfrydol, ble gall cerddwyr gychwyn i ffwrdd o stepen y drws, neu yrru lawr i Borthmadog a Chriccieth i fwynhau'r traethau (y ddau le 5 milltir i ffwrdd).
Mae tref harbwr Porthmadog yn cynnig ystod eang o adnoddau, o siopau a chaffis bach unigryw i'r archfarchnadoedd mwy. Ar ôl cael digon o siopa gellir ymlacio ger yr harbwr gyda hufen iâ o siop enwog Cadwaladers.
Mae digon o fwytai yn cael eu cymeradwyo yn yr ardal hefyd, gan gynnwys Dylan's a Poachers yng Nghriccieth, Y Sgwar yn Nhremadog (4 milltir), Moorings Bistro ym Mhorth y Gest (6 milltir), Hen Fecws ym Mhorthmadog, a Castell Deudraeth ym Mhortmeirion (8 milltir). Y tafarndai agosaf yw The Fleece Inn a'r Union Inn yn Nhremadog (4 milltir), tra fod yr Australia a'r Ship ym Mhorthmadog yn cynnig lleoliad braf am ddiod ymlaciol.
Ymysg yr ystod eang o atyniadau poblogaidd gerllaw mae'r trenau stêm o Borthmadog i Gaernarfon a Blaenau Ffestiniog, pentref Eidalaidd a gerddi Portmeirion, a chestyll yng Nghriccieth, Harlech a Chaernarfon. Mae nifer o draethau hyfryd gerllaw, megis yr un ym Morfa Bychan, ac mae'n werth ymweld â Blaenau Ffestiniog (16 milltir) gyda'i anturiaethau li - o Zip World a Bounce Below, i feicio mynydd a thrafeilio o dan y ddaear yng Ngheudyllau Llechi Llechwedd; hefyd Parc Fforest Gelli Gyffwrdd, Plas Glyn y Weddw a llawer mwy.
Traethau
Mae dau draeth poblogaidd yng Nghriccieth, un bob ochr i'r Castell. Maent yn gymysgedd o dywod a graean gyda ardal greigiog yn y pen pellaf (5 milltir)
Mae traeth Borth-y-Gest ger aber yr afon Glaslyn (6 milltir)
Traeth Morfa Bychan (Black Rock) - un o'r traethau hyfrytaf yng Nghymru. Fe ganiateir cŵn ar y traeth mewn rhai ardaloedd ac mae posib gyrru eich car ar y traeth am ffî fychan (6.5 milltir)
Mae yna hefyd nifer o draethau gwych ar Benrhyn Llŷn ac ardal Caernarfon
Cerdded
Cwmystradllyn - mae'r cwm hyfryd hwn ar stepen eich drws gyda nifer o opsiynau i gerdded yn y dyffryn neu'r mynyddoedd
Llwybr Arfordirol Cymru - gellir ymuno â'r llwybr yng Nghriccieth neu Borthmadog (5 milltir)
Nifer o lwybrau mynyddig i ddewis ohonynt yn Eryri. Mae'n rhaid ymweld â'r Wyddfa gyda'r llwybr agosaf yn cychwyn o Rhyd Ddu (14 milltir), neu gellir dal y trên o Lanberis (24 milltir) i'r caffi ar y copa.
Beicio
Cwmystradllyn - lonydd gwledig o stepen y drws yn ddelfrydol ar gyfer beicio
Lôn Eifion - hen drac rheilffordd o Bryncir (5.5 milltir) i Gaernarfon
Canolfan Beicio Mynydd Antur Stiniog - 7 llwybr yng nghalon Eryri (16 milltir)
Pysgota
Llyn Cwmystradllyn - dywedir ei fod yn un o'r llynnoedd harddaf yng Nghymru. Bydd angen trwydded Asiantaeth yr Amgylchedd i bysgota yma - ar gael o wefan Asiantaeth yr Amgylchedd neu o'r Swyddfa Bost leol (1 milltir)
Pysgodfa Eisteddfa, Pentrefelin - pump llyn gyda caffi a siop tacl (3.5 milltir)
Golff
Clwb Golff Porthmadog – cwrs 18 twll ym Morfa Bychan (6.5 milltir)
Marchogaeth
Canolfan Antur a Marchogaeth Porthmadog – mwynhewch filltiroedd o drecio gyda golygfeydd anhygoel. Addas ar gyfer plant 4 oed i oedolion (6.5 milltir)
Chwaraeon Dŵr
Clwb Hwylio Pwllheli, Marina Pwllheli – cyfleusterau gwych ac o bosib y dyfroedd hwylio gorau ym Mhrydain (13 milltir)
Mae traeth Abersoch yn cynnig dyfroedd llonnydd ar gyfer bordio, syrffio, hwylio ayb (20 milltir)