- £630 yr wythnos
- £90 y noson
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 3 o welyau dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Bwthyn hunan ddarpar hyfryd ger Dolgellau wedi ei osod mewn lleoliad dyrchafedig gyda’i ardd amgaeedig ei hun a golygfeydd gwych o Gadair Idris. Yn ganolog i fynyddoedd Eryri a thraethau hyfryd Gogledd Cymru, mae’r bwthyn hwn ddwy filltir i ffwrdd o Ddolgellau ac 8 milltir o draeth tywod y Bermo.
Llawr Gwaelod
Lolfa drawiadol, groesawgar gyda ffenestr fawr sy’n cynnig golygfeydd gwych o gadwyn mynyddoedd Cadair Idris. Tân trydan gyda fflam fyw, teledu a chwaraewr DVD.
Cegin/ystafell fyw helaeth gyda pheiriant golchi llestri, microdon, oergell a rhewgell. Bwrdd bwyta sy’n eistedd 8 o flaen y drysau patio mawr sydd yn arwain yn uniongyrchol i’r patio gyda’i ddodrefn pwrpasol y gellwch eu defnyddio i fwynhau’r golygfeydd gwych. Ceir hefyd peiriant golchi dillad yn y porch cefn drws nesaf.
Ystafell wely ddwbl 1 – ystafell wely gyda golygfa , hefyd yn wynebu Cadair Idris.
Ystafell wely ddwbl 2 – ystafell eang, hyfryd yn edrych dros yr eiddo preifat, amgaeedig.
Ystafell wely ddwbl 3 – ystafell wely glyd gyda chwpwrdd dillad, byrddau bob ochr i’r gwely, lampau a basn golchi dwylo.
Ystafell wely twin gyda’r un golygfeydd gwefreiddiol ag ystafell wely 1.
Ystafell ymolchi gyda bath, sinc a thoiled.
Ystafell gawod helaeth ar wahân, gyda sinc a thoiled.
Gardd
Mae’r patio amgaeedig a’r lawnt ar du blaen yr eiddo hunan-ddarpar hwn yn Nolgellau yn lleoliad perffaith i eistedd yn ôl a mwynhau golygfeydd hyfryd panoramig.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Darperir dillad gwlâu, tywelion bath a llaw a sychwr gwallt.
- Gwres olew canolog a thrydan yn gynwysedig.
- Cot a chadair uchel ar gael ar gais.
- Wifi ar gael.
- Croesewir hyd at ddau anifail anwes.
- Digonedd o le parcio preifat.