
Bwthyn gwyliau yn Dolgellau yn cynnig lleoliad cyfleus tu hwnt i hyd at 6, o fewn pellter cerdded byr i fwytai, siopau unigryw a chaffis gwych y dref.
- £550 yr wythnos
- £79 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 3 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- Tywelion ar gael
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Parcio ar y stryd
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Bwthyn gwyliau yn Dolgellau yn cynnig lleoliad cyfleus tu hwnt, o fewn pellter cerdded byr i fwytai, siopau unigryw a chaffis gwych y dref. Mae Dolgellau yn dref farchnad hyfryd wedi ei lleoli ar droed Cadair Idris yn ne Eryri ac yn y dref hon mae’r nifer fwyaf o adeiladau cofrestredig yng Nghymru gyfan. Lleoliad gwych ar gyfer cerddwyr a beicwyr mynydd gyda nifer o lwybrau cerdded a beicio yn cychwyn o garreg eich drws.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw / fwyta fawr ar gynllwyn agored. Digon o lefydd eistedd cyfforddus, teledu freeview, chwaraewr DVD a stôf drydan gydag effaith tân i greu awyrgylch glud ac ymlaciol.
Mae’r ardal cegin hefyd yn fawr ac eang ac yn cynnwys popty, hob a micro-don newydd sbon.
Ystafell iwtiliti gydag oergell a rhan ohono’n rhewgell, peiriant golchi dillad, peiriant sychu dillad a digon o le i gadw beics ac offer cerdded.
Mae’r cyntedd yn eich croesawu gyda lle i hongian cotiau, pecyn gwybodaeth a thaflenni atyniadau lleol.
Llawr Cyntaf
Prif ystafell wely - ystafell wely mawr gyda gwely maint king, digon o lefydd storio, teledu a basn golchi dwylo. Mae hefyd gwely y gellir ei dynnu allan ar gais.
Ystafell wely dwbl - ystafell glud gyda gwely dwbl a chypyrddau yn y waliau.
Ystafell twin - clud gyda dau wely sengl a chwpwrdd.
Ystafell ymolchi deuluol gyda chawod fawr y gellir cerdded i mewn iddo.
Tu Allan
Path leading to back door, providing access for bikes and other outdoor equipment to utility room.
Llwybr yn arwain i’r drws cefn, yn darparu mynediad ar gyfer beics ac offer tu allan eraill i’r ystafell iwtiliti.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Darperir dillad gwely, tyweli bath a dwylo ac 1 sychwr gwallt.
- Gwres a thrydan yn gynwysiedig.
- Wifi ar gael.
- Dau got deithiol a giât i’r grisiau ar gael ar gais, ond dim cadair uchel.
- Caniateir anifeiliaid yn Nolgellau (anifeiliaid ar y llawr gwaelod yn unig)
- Parcio am ddim ar y lôn o fewn pellter cerdded byr (tua 50 metr). Mae hefyd yn bosib parcio o flaen y bwthyn rhwng 6pm – 9pm.
Lleoliad
Mae amrywiaeth o siopau o fewn 2 funud o gerdded ac mae dwy archfarchnad yno hefyd: Coop (sydd o fewn pellter cerdded) ac Eurospar. Ymhlith y bwytai sy’n cael eu hargymell yn agos i’ch bwthyn gwyliau yn Dolgellau mae Bar Tapas Tafarn y Gader, Meirionnydd a Dylanwad Da i gyd wedi eu lleoli yng nghanol y dref ei hun dra fo Bwyty Mawddach 2 filltir union i ffwrdd. Y mae’r bars gorau yn y dref yn cynnwys Llwybr Clywedog a Bar Gwin Dylanwad.
Mae gan dref hardd ac unigryw Dolgellau fwy na 200 o adeiladau cofrestredig - mwy nac unrhyw dref arall yng Nghymru. Mae rhai o’r atyniadau poblogaidd yn yr ardal yn cynnwys Big Bounce (y trampolîn tanddaearol mwyaf yn Ewrop) a’r Zip Wire ym Mlaenau Ffestiniog (16 milltir). Mae yna hefyd gwrs rhaffau uchel Go Ape 7.5 milltir i ffwrdd a Chanolfan Genedlaethol Rafftio Dwr Gwyn (22 milltir) ger y Bala. Ar gyfer dyddiau fwy ymlaciol, ewch i ymweld â’r traethau, safle Dreftadaeth y Byd yng Nghastell Harlech neu ewch ar drên stêm ar hyd rheilffordd Tal-y-llyn.
Cerdded
Llwybr Mawddach - Dolgellau - addas i bob oedran - cerddwyr, beicwyr, a defnyddwyr cadair olwyn - wrth stepen eich drws
Llwybr Cynwch - Llanfachraeth - addas i bob oedran - 2 filltir oddi wrth eich bwthyn gwyliau yn Nolgellau.
Llwybr Cynwch Newydd - Llanelltud - addas i bob oedran. 2 filltir.
Cadair Idris (mynydd) - 3 prif lwybr yn dechrau o Ddolgellau (wrth garreg eich drws), Minffordd (7 milltir) ac Abergynolwyn (16 milltir).
Llwybr Clywedog – Brithdir – taith gweddol hamddenol tua 2.5 milltir ar hyd yr afon. 3.5 milltir.
Llwybr Panorama – Bermo – addas i bob oedran – 10 milltir o’r bwthyn
Beicio
Llwybr Mawddach - fel uchod, o garreg eich drws
Canolfan Beicio Mynydd Coed y Brenin - Llwybrau addas i bob oedran - 7.5 milltir
Golff
Cwrs Golff Dolgellau - cwrs golff 9 twll - 1 milltir
Pysgota
O bysgota afon i bysgota llyn yn Llyn Cynwch, mae amrywiaeth o gyfleoedd i fynd i bysgota yn ardal Dolgellau - opsiynau addas ar gyfer pob oedran.
Marchogaeth
Canolfan Farchogaeth Fferm Bwlchgwyn, Arthog - addas i unrhyw un dros 4 mlwydd oed - 9 milltir
Traethau
Y Friog - traeth tywodlyd - 9 milltir
Bermo - traeth hir a thywodlyd, gwobr baner las - 9 milltir
Chwaraeon Dwr
Llyn Tegid - hwylio, canwio, caiacio, syrffio gwynt, adeiladu rafft ayyb. 18 milltir.
Canolfan Dwr Gwyn Cenedlaethol, Bala – rafftio dwr gwyn, caiacio a chanwio. 22 milltir