- Special Offer10% off Special Offer Discount on selected dates
- Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
- Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
- Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August
- £785 yr wythnos
- £112 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio ar y stryd
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Wedi ei leoli ar stryd fach dawel yng nghanol Conwy, mae'r ty pen teras hwn yn cynnig popeth sydd angen oi fewn pellter cerdded. Oddi mewn i waliau castell canoloesol, dyma leoliad trawiadol i fwynhau y gorau o Ogledd Cymru.
Mwynhewch drip ar gwch o'r Marina, ymlaciwch ar ddau draeth yn y dref, darganfyddwch y ty lleiaf ym Mhrydain, a dewis gwych o gaffis, bwytai a bariau. Yn ogystal â'r castell, mae atyniadau eraill gerllaw yn cynnwys Surf Snowdonia a Gerddi Bodnant, tref glan môr Llandudno a Pharc Cenedlaethol Eryri. Mae'r rhestr o bethau i'w gweld a'u gwneud yn faith ac ni cheir gwell lleoliad.
Llawr Gwaelod
Ardal fyw agored gyda gwres dan y llawr ar gyfer ymlacio mewn steil.
Lolfa/ardal fwyta - soffa a chadeiriau cysurus o gwmpas stôf nwy a theledu, gyda bwrdd bwyta wedi ei leoli ym mhen arall yr ystafell. Dewis o gemau hefyd ar gael.
Cegin - gyda'r holl offer yn cynnwys unedau gwenithfaen ag wyneb gweithio gwyn, popty trydan, hob nwy, meicrodon, oergell a pheiriant golchi llestri. Rhewgell yn y sied yng nghefn y ty.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - gyda gwely maint king.
Ystafell wely 2 - gyda gwely maint king.
Ystafell ymolchi gyda gwres dan y llawr, cawod fawr, 2 basn a thoiled.
Ail Lawr
Ystafell wely 3 - gyda dau wely sengl sydd ond yn addas i blant.
Cwrt
Cwrt caeedig yn y cefn gyda dodrefn gardd, yn cynnig llecyn heddychlon i ymlacio, drws nesaf i dy nodedig Plas Mawr.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, Prosseco a siocledau
- Gwres canolog nwy a thrydan yn gynwysedig
- Gwres dan y llawr gwaelod a'r ystafell ymolchi
- Dillad gwelyau, tywelion a 2 sychwr gwallt ar gael
- Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Wifi ar gael
- Croesewir hyd at 2 gi
- Dim ysmygu tu mewn
- Darperir y canlynol: Cegin - pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur toiled
- Parcio ar y stryd os oes lle. Meysydd parcio gerllaw (bydd rhaid talu yma)