- £379 yr wythnos
- £54 y noson
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Cawod
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Gellir mwynhau Eryri mewn steil yn y bwthyn hwn i 2 yn y Bala, tref farchnad Gymreig ar lannau'r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Mae Beudy Llew Coch yn un o bedwar bwthyn gwyliau 5 seren oddi mewn i gyn fuarth fferm, wedi eu hadnewyddu'n gywrain gan y perchnogion i ddarparu cuddfan hyfryd ar gyrion y dref. Mae bwytai, caffis, siopau a thafarndai ar stepen y drws, tra fod trên stêm yn cychwyn ar ei daith gydag ymyl y llyn o fewn milltir i'r bwthyn.
Gellir mwynhau chwaraeon dwr, cerdded a beicio o gwmpas Llyn Tegid, tra fod Eryri, sydd heb fod ymhell, yn cynnig mwy, o Zip World a Bounce Below i rafftio dwr gwyn a beicio mynydd.
Os hoffech aduniad mwy gyda'ch teulu neu ffrindiau, yna mae tri bwthyn arall ar yr un safle - Stabal Llew Coch (cysgu 4), Côr Llew Coch (cysgu 2) ac Ysgubor Llew Coch (cysgu 6).
Llawr Gwaelod
Ardal fyw cynllun agored gyda gwres dan y llawr.
Mae'r gegin yn cynnwys popty, hob serameg, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriannau golchi llestri a golchi dillad. Bwrdd bwyta a chadeiriau.
Lolfa gyda soffa siap-L a theledu ar y wal.
Llawr Cyntaf
Ystafell gyda gwely dwbwl, dodrefn derw, teledu ar y wal a thrawstiau.
Ystafell ymolchi gyda chawod fawr, basn modern, toiled, rheilen sychu tywelion, drych gyda goleuadau a pwynt siafio.
Gardd
Patio bychan yng nghefn ac o flaen y bwthyn gyda bwrdd a chadeiriau i ddau.
Barbaciw siarcol ar gael - gellir gwneud cais amdano gan y perchennog yn ystod eich arhosiad. Bydd yn rhaid talu blaendal o £20 fydd yn cael ei ad-dalu os bydd y barbaciw yn cael ei ddychwelyd yn yr un cyflwr. Siarcol ar gael yn nhref Bala.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth a chacennau cri
- Dillad gwelyau, tywelion a sychwr gwallt ar gael
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Cot a chadair uchel ar gael os dymunir
- Haearn a bwrdd smwddio ar gael
- Digon o le parcio y tu allan i'r bwthyn
- Mae'r perchnogion ar gael ar y safle i ateb unrhyw gwestiynau, gwybodaeth lleol ayb os oes angen
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn
- WIFI ar gael
- Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad -
- Cegin - pupur a halen, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, hylif/tabledi i'r peiriant golchi dillad, clytiau newydd, tywel sychu llestri a ffoil
- Ystafell ymolchi - sebon hylif a 2 rolyn papur toiled