
Bwthyn hunan ddarpar helaeth mewn lleoliad tawel gyda golygfeydd anhygoel dros Ddyffryn Dyfrdwy. Milltir o dref farchnad y Bala yn Eryri.
- £703 yr wythnos
- £100 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Smart TV
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Mwynhewch y bwthyn hunan ddarpar hwn sydd wedi ei leoli mewn ardal wledig a thawel. Un filltir o dref farchnad groesawgar y Bala, mae'n cynnig golygfeydd anhygoel dros ddyffryn Dyfrdwy a chefn gwlad agored. Man delfrydol i ddarganfod Eryri ac ystod eang o atyniadau Gogledd Cymru, mae'r bwthyn 5 seren hwn hefyd yn leoliad perffaith i ymlacio mewn steil.
Llawr Gwaelod
Ystafell Fyw - ystafell helaeth gyda llawr derw, soffa a chadeiriau lledr a dodrefn derw. Tân trydan ffasiynol a theledu 40 modfedd, chwaraewr DVD, dewis o lyfrau a golygfeydd trawiadol drwy'r drysau patio i'r ardd a'r patio tu allan.
Cegin - cegin fawr gyfoes gyda ardal bwyta, gyda golygfeydd agored o gefn gwlad drwy'r drysau patio, yn arwain i'r ystafell haul gyffiniol. Mae'r gegin hardd gyda'r holl offer angenrheidiol gan gynnwys oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri, meicrodon, popty a hob trydan.
Ystafell haul - golygfeydd anhygoel i lawr dyffryn Dyfrdwy a golygfeydd 180 gradd o dir fferm agored. Dwy soffa ledr a bwrdd coffi.
Ystafell wely 1 gyda ystafell ymolchi ynghlwm - gwely maint king a golygfeydd i lawr i ddyffryn Dyfrdwy. Dodrefn derw yn cynnwys cwpwrdd hongian dillad, droriau dillad, drych a byrddau bach bob ochr i'r gwely. Teledu.
Ystafell ymolchi - ystafell gyda dau fynediad fel y gellir ei defnyddio fel ensuite i ystafell wely 1 neu fel prif ystafell ymolchi. Ystafell gyda digon o le ac wedi ei theilio yn gyfangwbl, baddon, uned gawod arwahan, toiled a basn.
Ystafell wely 2 gyda ystafell ymolchi ynghlwm - 2 wely sengl mawr, dodrefn derw a theledu. Mae'r ystafell ymolchi yn cynnwys cawod, basn a thoiled.
Ystafell iwtiliti arwahan gyda nifer o unedau, sinc, peiriannau golchi a sychu dillad, ac ystafell sychu.
Gardd
Bwthyn arwahan ger y Bala gyda gardd fawr gaeedig a golygfeydd anhygoel dros dir fferm agored i lawr i ddyffryn Dyfrdwy. Dodrefn gardd, bwrdd pren gyda 4 cadair, 2 fainc, barbaciw a lein ddillad.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn Croeso yn cynnwys Bara Brith a bisgedi lleol, diod ysgawen, creision Jones, te a choffi, siwgr a llaeth
- Gwres a thrydan yn gynwysedig. Gwresogi dan y llawr, dim rheiddiaduron.
- 2 sychwr gwallt ar gael
- Wifi ar gael
- Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Dim anifeiliad anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn
- Digon o le parcio preifat y tu allan i'r bwthyn
- Lle i storio beiciau
- Eitemau eraill yn cynnwys:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau glan, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur toiled ar gyfer pob toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol: cannydd, glanhawr cawod, chwistrellydd gwrth-facteria ayb
Gwybodaeth i bobl Anabl a Llai Abl
-
Adeilad un llawr gyda'r ystafelloedd i gyd ar y llawr gwaelod
-
Parcio cyfleus gyda'r wyneb yn slabiau
-
Does dim cyfyngiad taldra i bobl dros 6' 6"
-
Does dim stepiau i gael mynediad ac mae'r drws yn 800mm o led
-
Mae pob drws a choridor oddi mewn yr adeilad yn 750mm o led
-
Mae lle o dan y bwrdd bwyta ar gyfer cadair olwyn
-
Gellir cael mynediad i'r ardd
-
Mae doleni'r drysau a'r switshis golau i gyd o fewn cyrraedd
-
Mae adnoddau ar gael ar gyfer pobl sydd â nam ar y clyw neu'r golwg
-
Mae cylch dro yn yr ystafell wely a'r ystafell ymolchi o 1200mm a gellir cael mynediad i'r gwely o gadair olwyn ar yr ochr chwith
- Mae croeso i gŵn tywys
Lleoliad
Mwynhewch amgylchedd tawel a gwledig yn y bwthyn cyfoes hwn. Un filltir o dref farchnad groesawgar y Bala - cartref i'r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru o'r enw Llyn Tegid (Llyn Bala), a gellir ei weld o'r tir sy'n codi o amgylch eich bwthyn. Mae Bala'n cynnig ystod o adnoddau, gan gynnwys amrywiaeth o siopau, archfarchnad fach, banc a garej. Mae yno hefyd sinema draddodiadol a Chanolfan Hamdden sy'n cynnwys ystafell ffitrwydd a phwll nofio gyda llithren. Heb anghofio'r trên stêm sydd yn rhedeg ar hyd ymyl Llyn Tegid drwy olygfeydd hardd Eryri.
Mae tref Bala yn cynnig nifer o gaffis, tafarndai a bwytai megis Plas yn Dre, Gwesty'r Llew Gwyn, Plas Coch, Y Cwrt a Bala Spice. Ymysg y llefydd gorau i fwyta yn yr ardal mae bwyty Pale Hall (3.5 milltir) - hen gartref hynafol ac adeilad gwych; bwyty Tyddynllan yn Llandrillo sydd gyda seren Michelin (6.5 milltir), a bwyty Llyn Efyrnwy (14 milltir ar hyd ffordd fynyddig). Os am dafarn leol/bwyty dylid ymweld â Thafarn yr Eryrod yn Llanuwchllyn (5.5 milltir), neu Dafarn Bryntirion yn Llandderfel am gwrw gwych.
Os ydych yn hoff o'r awyr agored, dyma'r lleoliad i chi gan fod Bala a'r ardal gyfagos yn brysur sefydlu ei hun fel prifddinas 'antur' Cymru. O ddarpariaeth chwaraeon dŵr anhygoel ar Lŷn Tegid (canwîo, hwylio, syrffio gwynt) a'r Ganolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol (5 milltir), i ganolfan gwib-gartio cyflymder uchel yng Ngherrigydrudion (12 milltir). Mae gennych hefyd y Zip Wire a'r Bounce Below yn Blaenau Ffestiniog (22 milltir) a nifer o atyniadau eraill megis Tree Tops Adventure ym Metws y Coed, a Chanolfan Beicio Mynydd byd-enwog yng Nghoed y Brenin - i gyd o fewn cyrraedd.
Os ydy'n well gennych ymlacio ar eich gwyliau, mae yna nifer o lwybrau cerdded trawiadol yn y mynyddoedd ac ar hyd glannau'r llynnoedd gerllaw, heb anghofio'r llwybr beiciau ar hyd lannau Llyn Tegid. Neu beth am sbwylio eich hun a mynd am noson allan gyda popcorn i'r sinema? Mae eich bwthyn hunan ddarpar ger y Bala yn cynnig lleoliad canolog i ddarganfod Eryri a Gogledd Cymru. Mae'n werth ymweld hefyd â Ceudyllau Llechi Llechwedd (22 milltir), Portmeirion (29 milltir) a'r rheilffordd Fynyddig Gymreig (30 milltir).
Cerdded
- Llyn Tegid - llwybr 10 milltir o hyd o amgylch y llyn (1 milltir)
- Arenig - 13 o gopaon dros 2,000 troedfedd, yn cynnwys Arenig Fawr a Moel Llyfnant. Mae'r llwybr yn cychwyn ger Llyn Celyn (5 milltir)
- Aran - gyda 14 o gopaon dros 2,000 troedfedd. Mae'r grib yn gwneud taith gerdded wych ac yn cynnwys y ddau brif gopa - Aran Fawddwy (2969 troedfedd) ac Aran Benllyn (2904 troedfedd). Mae'r daith yn cychwyn o Lanuwchllyn (5.5 milltir)
Beicio
- Llwybr Mynyddig Aberhirnant - o garreg y drws ar hyd ffordd cefn gwlad
- Llyn Tegid - gellir hefyd feicio y 10 milltir o amgylch y llyn - gellir beicio'r llwybr hwn yn hawdd o'ch bwthyn gwyliau
- Llyn Celyn - llwybr cylchol 15 milltir o gwmpas llyn hardd arall (5 milltir)
- Canolfan Feicio Mynydd Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog (22 milltir)
- Canolfan Feicio Mynydd Coed y Brenin - addas ar gyfer pob oed (24 milltir)
- Gellir hefyd logi beiciau yn yr ardal
Pysgota
- Y lleoliad agosaf yw Llyn Tegid (1 milltir)
Chwaraeon Dŵr
- Llyn Tegid - hwylio, canwîo, syrffio gwynt, adeiladu rafft ayb (1 milltir)
- Canolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol, Canolfan Tryweryn – Rafftio Dŵr Gwyn, Caiacio a Chanwîo (5 milltir)
Golff
- Clwb Golff y Bala - cwrs 10 twll gyda golygfeydd anhygoel dros gefn gwlad Gogledd Cymru (2 filltir)
Marchogaeth
- Canolfan Farchogaeth Bwlchgwyn - addas i unrhyw un dros 4 oed (26 milltir)
Traethau
- Traeth Abermaw - traeth tywod gyda gwobr y Faner Las (28 milltir)
- Morfa Bychan a Traeth Black Rock - 3 milltir o draeth tywodlyd (31 milltir)