Nant - Gorllwyn

Nant Gwrtheyrn, North Wales Coast

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £547 yr wythnos
  • £78 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mwynhewch wyliau ymlaciol, gyda golygfeydd o’r môr, yn y bwthyn hwn yn Nant Gwrtheyrn - pentref Fictorianaidd unigryw mewn lleoliad arbennig ar Benrhyn Llyn. Mae’r bwthyn o fewn pellter cerdded i draeth preifat a chyfleusterau caffi ar y safle. Gellir ymuno â Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan i’r ddau gyfeiriad o’r traeth, ac mae’r dafarn a’r siop agosaf filltir i ffwrdd ym mhentref Llithfaen

Llawr Gwaelod

Lolfa gysurus gyda dodrefn derw o ansawdd uchel, soffas lledr (hefyd gwely soffa dwbwl) a llawr derw gyda gwres oddi dano. Nid oes teledu yn y bwthyn felly dyma’r cyfle perffaith i fwynhau amser arbennig gyda’ch gilydd mewn lleoliad gwirioneddol braf

Cegin gyda phopty trydan a hob, meicrodon ac oergell gyda rhewgell oddi mewn. Bwrdd bwyta i bedwar. Peiriannau golchi a sychu dillad mewn adeilad ar wahân

Llawr Cyntaf

Llofft 1 - ystafell helaeth gyda gwely maint king, a golygfeydd o’r môr, dodrefn derw Cymreig a gwres dan y llawr (fel ym mhob llofft)

Llofft 2 - llofft sengl. Fe geir clustogau a blancedi o frethyn Cymreig traddodiadol Melin Wlan Trefriw ym mhob llofft

Llofft 3 - ail lofft sengl gyda golygfeydd o’r môr

Ystafell gawod gyda basn ac ystafell arwahan gyda thoiled a basn

Tu Allan

Ceir lawnt fawr gymunedol o flaen bwthyn Gorllwyn, ynghyd â golygfeydd anhygoel o’r môr. Mae caffi braf ar y safle a llwybr yn arwain i lawr i draeth preifat Nant Gwrtheyrn. 
Mor berffaith fel bod cyplau yn dewis priodi yn y Nant.

Digon o feinciau a byrddau picnic i fwynhau’r golygfeydd

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres a thrydan yn gynwysedig (yn cynnwys gwres dan y llawr)
  • Darperir dillad gwely gwyn a thywelion
  • Pecyn croeso ar gael os dymunir am bris o £15 y person
  • Cot, cadair uchel a gât ddiogelwch ar gael os dymunir - rhowch gwybod wrth archebu. Dewch a’ch dillad eich hun ar gyfer y cot
  • Wi-fi ar gael yn y caffi (100 llath) yn ogystal â’r bwthyn ei hun
  • Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes
  • Ystafell olchi dillad ar y safle at ddefnydd y gwesteion, am gost ychwanegol.
  • Digon o le parcio ar gael
  • Nodwch, os gwelwch yn dda, mae Nant Gwrtheyrn yn lleoliad amlbwrpas.  Efallai bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar y safle yn ystod eich arhosiad.  Awgrymwn eich bod yn cysylltu â Nant Gwrtheyrn yn uniongyrchol

 

Lleoliad

Mwynhewch wyliau glan môr ymlaciol yn y bwthyn clyd hwn yn Nant Gwrtheyrn, pentref Fictorianaidd unigryw ac anghysbell ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. O fewn pellter cerdded i draeth preifat, mae Gorllwyn wedi ei leoli mewn rhes o fythynnod chwarelwyr gyda golygfeydd gwych dros y lawnt ac allan i’r môr. Mae caffi braf ar y safle, a digon o feinciau a byrddau picnic ar gael i fwynhau’r golygfeydd hardd.

Mae pentref hudolus Nant Gwrtheyrn (neu ‘Y Nant’ fel y gelwir ef hefyd) yn gyn bentref chwarelwyr ac yn atyniad ar ben ei hun, gyda Chanolfan Dreftadaeth ar y safle sy’n gartref i arddangosfeydd am yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig, yn ogystal â hanes y pentref. Mae hyn yn cynnwys ty o gyfnod y chwarel Fictorianaidd a gwybodaeth am y bywyd gwyllt unigryw y gellir ei ddarganfod yn yr ardal

Gellir profi diwylliant a threftadaeth Cymreig yma ar arfordir hardd Penrhyn Llŷn. Cynigir cyrsiau preswyl Cymraeg yma yn Nant Gwrtheyrn trwy gydol y flwyddyn. Mae hefyd yn leoliad gwych ar gyfer cyfarfod teulu, dathliad neu briodas. Mae’r siop a’r dafarn agosaf un filltir i ffwrdd ym mhentref Llithfaen a rhai o’r llefydd lleol a argymhellir i fwyta ynddynt yw Caffi Meinir (ar y safle), Nanhoron yn Nefyn (5 milltir) a’r Ship yn Edern (7 milltir)

Mae Penrhyn Llŷn yn ardal o harddwch naturiol eithriadol, yn llawn trysorau hudolus sy’n aros i gael eu darganfod. Mae rhai o’r atyniadau eraill sy’n rhaid ymweld â nhw yn cynnwys y dafarn ar y traeth ym Mhorthdinllaen, pentref glan y môr hyfryd Aberdaron, traethau tywodlyd di-ben-draw, ac ardal gysegredig Ynys Enlli. Yn ogystal, mae Parc Glasfryn yn le gwych ar gyfer diwrnod llawn hwyl (cartio, bowlio deg ayyb), Castell Caernarfon, Yr Wyddfa, Mynydd Trydanol Llanberis ac Amgueddfa Lechi Llanberis

Traethau

  • Traeth Porth y Nant – traeth preifat Nant Gwrtheyrn. Mae llwybr byr o’r pentref yn mynd â chi i’r traeth hyfryd hwn
  • Mae yna hefyd nifer o draethau gwych eraill o fewn pellter gyrru byr i Nant Gwrtheyrn.

Cerdded

  • Gellir ymuno â Llwybr Llwybr Arfordirol Llyn (rhan o Lwybr Arfordirol Cymru Gyfan) o garreg eich drws.
  • Llwybr Nant Gwrtheyrn - taith gerdded gylchol 2-3 awr o amgylch y dyffryn unigryw hwn. O garreg eich drws.
  • Yr Eifl – cadwyn o fynyddoedd sy’n cynnwys y pwynt uchaf ar Benrhyn Llŷn. 4.5 milltir o hyd (1.5 milltir)

Pysgota

  • Pysgota môr o’r traeth preifat ar y safle. O fewn pellter cerdded.

Golff

  • Clwb Golff Nefyn a’r cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll uwchben y creigiau gyda golygfeydd arfordirol anhygoel (7 milltir)

Marchogaeth

  • Canolfan Farchogaeth Penrhyn Llŷn – Llaniestyn. Fferm styd gyda teithiau ar gyfer pob lefel arbenigedd (10.5 milltir)
  • Stablau Marchogaeth Llanbedrog – gwersi marchogaeth ayyb. Teithiau ar y traeth a’r bryniau (14 milltir)

Chwaraeon Dwr

  • Mae Porth Neigwl yn fan poblogaidd iawn i syrffwyr a chorff-fyrddwyr (19 milltir)