- £778 yr wythnos
- £111 y noson
- 6 Guests
- 4 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Wedi ei leoli mewn pentref Fictorianaidd unigryw, mae bwthyn Tre’r Ceiri yn Nant Gwrtheyrn yn cynnig golygfeydd anhygoel o’r môr a’r mynydd. Mwynhewch yr heddwch a’r llonyddwch, o bosib, gyda chwpanaid o goffi neu wydraid o wîn yn y caffi, neu i lawr ar y traeth preifat. Gellir hefyd ddilyn y Llwybr Arfordirol i ddarganfod mwy o draethau cuddiedig Penrhyn Llŷn
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw, cegin ac ystafell fwyta agored. Dodrefn derw o ansawdd uchel, soffas lledr (hefyd gwely soffa dwbwl) a llawr derw gyda gwres oddi dano. Nid oes teledu yn y bwthyn felly dyma’r cyfle perffaith i fwynhau amser arbennig gyda’ch gilydd mewn lleoliad gwirioneddol braf
Mae’r gegin yn cynnwys popty trydan a hob, meicrodon ac oergell gyda rhewgell oddi mewn. Bwrdd bwyta mawr i chwech. Peiriannau golchi a sychu dillad mewn adeilad ar wahân
Llofft 1 - ystafell helaeth gyda gwely maint king, golygfeydd o’r môr a gwres dan y llawr. Ystafell ymolchi en-suite sydd yn addas i westeion anabl
Llawr Cyntaf
Llofft 2 - ystafell fawr gyda gwely maint king, golygfeydd o’r môr, dodrefn derw Cymreig a gwres o dan y llawr (fel ym mhob llofft)
Llofft 3 - llofft sengl. Fe geir clustogau a blancedi o frethyn Cymreig traddodiadol Melin Wlan Trefriw ym mhob llofft
Llofft 3 - ail lofft sengl gyda golygfeydd o’r môr
Ystafell gawod gyda basn ac ystafell arwahan gyda thoiled a basn
Tu Allan
Ceir lawnt fawr gymunedol o flaen bwthyn Gorllwyn, ynghyd â golygfeydd anhygoel o’r môr. Mae caffi braf ar y safle a llwybr yn arwain i lawr i draeth preifat Nant Gwrtheyrn. Mor berffaith, fel bod cyplau yn dewis dathlu eu priodas yn y Nant.
Digon o feinciau a byrddau picnic i fwynhau’r golygfeydd
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwres a thrydan yn gynwysedig (yn cynnwys gwres dan y llawr)
- Darperir dillad gwely gwyn a thywelion
- Pecyn croeso ar gael os dymunir am bris o £20
- Cot, cadair uchel a gât ddiogelwch ar gael os dymunir - rhowch gwybod wrth archebu. Dewch a’ch dillad eich hun ar gyfer y cot
- Wi-fi ar gael yn y caffi (100 llath) yn ogystal â’r bwthyn ei hun
- Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes
- Ystafell olchi dillad ar y safle at ddefnydd y gwesteion, am gost ychwanegol.
- Digon o le parcio ar gael
- Nodwch, os gwelwch yn dda, mae Nant Gwrtheyrn yn lleoliad amlbwrpas. Efallai bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar y safle yn ystod eich arhosiad. Awgrymwn eich bod yn cysylltu â Nant Gwrtheyrn yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth.