
Mwynhewch olygfeydd anhygoel o'r môr, mynyddoedd a choedwig yn y llety hwn i 6 yn Nant Gwrtheyrn. Lleoliad arbennig a thu hwnt o heddychlon i'ch gwyliau.
- £673 yr wythnos
- £96 y noson
- 6 Guests
- 4 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Mwynhewch olygfeydd anhygoel o’r môr, mynyddoedd a choedwig yn y llety hwn yn Nant Gwrtheyrn. Wedi ei osod mewn pentref Fictorianaidd unigryw mewn lleoliad arbennig, mae’r bwthyn hwn yn darparu llecyn tu hwnt o heddychlon i’ch gwyliau. Gyda’i ardd ei hun yn arwain i lawr at draeth preifat a chyfleusterau caffi ar y safle, mae Nant Gwrtheyrn yn le hudolus - encil perffaith ar gyfer gwyliau ymlaciol ac ysbrydoledig.
Llawr Gwaelod
Ystafell Fyw – Ystafell fyw, cegin ac ardal fwyta ar gynllwyn agored siâp L. Dodrefn derw moethus wedi eu gwneud â llaw, soffas lledr (yn cynnwys gwely soffa dwbl) a llawr derw gyda gwres o dan y llawr. Dim teledu yn y bwthyn felly’r cyfle perffaith i fwynhau amser arbennig gyda’ch gilydd mewn lleoliad gwirioneddol anhygoel.
Ardal cegin gyda phopty trydan a hob, micro-don ac oergell gyda rhewgell ynddo.
Peiriant golchi dillad a pheiriant sychu dillad mewn adeilad ar wahân.
Ystafell wely 1 – Ystafell wely dwbl hyfryd gyda gwely maint king, gwres o dan y llawr, golygfa o'r môr a chyfleusterau ensuite.
Llawr Cyntaf
Ystafell Wely 2 - Ystafell wely dwbl, eang gyda gwely maint king, dodrefn o dderw Cymreig a gwres o dan y llawr (fel pob ystafell wely arall). Golygfa hyfryd o'r môr.
Ystafell Wely 3 - Ystafell wely sengl. Mae’r holl ystafelloedd gwely hefyd yn cynnwys blancedi a chlustogau o dapestri Cymreig gwreiddiol o Felin Wlân Trefriw.
Ystafell Wely 4 – Ystafell wely sengl arall gyda golygfa o'r môr.
Ystafell ymolchi gyda chawod, toiled a basn ymolchi.
Tu Allan
Yn uniongyrchol o flaen y llety hwn yn Nant Gwrtheyrn mae gardd fawr gymunedol a golygfa arbennig o’r môr ble gallwch eistedd ac ymlacio ar eich cadeiriau patio drwy’r dydd pe dymunwch. O’r ardd, mae llwybr sy’n arwain lawr i draeth preifat Nant Gwrtheyrn. Mae hefyd mantais arbennig o gael caffi ar y safle. Mor berffaith, fel bod cyplau yn dewis dathlu eu priodas yn y Nant.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwres a thrydan yn gynwysedig (yn cynnwys gwres o dan y llawr trwy’r bwthyn)
- Dillad gwely gwyn hyfryd, darperir tyweli dwylo a bath.
- Pecyn i’ch croesawu ar eich cyrhaeddiad ar gais am £15 y person.
- Cot teithio, cadair uchel a giât diogelwch ar gael ar gais - rhowch gwybod wrth archebu. Dewch a’ch dillad gwely eich hun ar gyfer y cot.
- Wi-fi ar gael yn y caffi (100 llath) yn ogystal â’r bwthyn ei hun.
- Golchdy ar gael ar y safle i’r holl westeion, am gost ychwanegol.
- Digon o lefydd parcio ar gael
- Nodwch, os gwelwch yn dda, mae Nant Gwrtheyrn yn lleoliad amlbwrpas. Efallai bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar y safle yn ystod eich arhosiad. Awgrymwn eich bod yn cysylltu â Nant Gwrtheyrn yn uniongyrchol
Lleoliad
Wedi ei leoli ym mhentref Fictorianaidd unigryw ac anghysbell Nant Gwrtheyrn, mae bwthyn Llandaf yn cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer eich gwyliau ger y môr. O fewn pellter cerdded i draeth preifat, mae Llandaf mewn rhes o fythynnod chwarelwyr gyda golygfeydd gwych dros yr ardd ac allan i’r môr. Mae digon o lefydd eistedd gyda golygfeydd hyfryd, a byrddau picnic ar hyd y lle, yn ogystal â’r caffi hyfryd.
Mae’r pentref hudolus hwn, Nant Gwrtheyrn (neu ‘Y Nant’ fel y gelwir ef hefyd) yn gyn bentref chwarel ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn yng Ngogledd Cymru. Mae’n atyniad ar ei ben ei hun, gyda Chanolfan Dreftadaeth ar y safle sy’n gartref i arddangosfeydd am yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig, yn ogystal â hanes y pentref. Mae hyn yn cynnwys ty arddangos o gymuned chwarel Fictorianaidd a gwybodaeth am y bywyd gwyllt unigryw y gellir ei ddarganfod yn y dyffryn arfordirol anghysbell hwn a’r traeth.
Cynigir cyrsiau preswyl Cymraeg yma yn Nant Gwrtheyrn trwy gydol y flwyddyn a gallwch brofi diwylliant a threftadaeth Gymreig, yma ar arfordir hyfryd Penrhyn Llŷn. Mae hefyd yn le gwych ar gyfer cyfarfod teulu, dathlu neu briodas. Mae’r siop a’r dafarn agosaf 1 milltir i ffwrdd ym mhentref Llithfaen a rhai o’r llefydd a argymhellir i fwyta ynddynt yw Caffi Meinir (ar y safle), Nanhoron yn Nefyn (5 milltir) a’r Ship yn Edern (7 milltir).
Mae Penrhyn Llŷn yn ardal o harddwch naturiol eithriadol, yn llawn trysorau hudolus sy’n disgwyl i gael eu darganfod. Mae rhai o’r atyniadau eraill sy’n rhaid eu gweld yn cynnwys y dafarn ar y traeth ym Mhorthdinllaen, pentref glan y môr hyfryd Aberdaron, traethau tywodlyd di-ben-draw ac Ynys Enlli sy’n ynys gysegredig. Yn ogystal mae Parc Glasfryn yn le gwych ar gyfer diwrnod llawn hwyl (go cartio bowlio deg ayyb), Castell Caernarfon, Yr Wyddfa, Mynydd Trydanol Llanberis ac Amgueddfa Lechi Llanberis.
Traethau
-
Traeth Porth y Nant – traeth preifat Nant Gwrtheyrn. Mae llwybr byr o’r pentref yn mynd â chi i’r traeth hyfryd hwn
-
Mae yna hefyd nifer o draethau gwych eraill o fewn pellter gyrru byr i Nant Gwrtheyrn.
Cerdded
-
Gellir ymuno â Llwybr Llwybr Arfordirol Llŷn (rhan o Lwybr Arfordirol Cymru Gyfan) o garreg eich drws.
-
Llwybr Nant Gwrtheyrn - taith gerdded gylchol 2-3 awr o amgylch y dyffryn unigryw hwn. O garreg eich drws.
-
Yr Eifl – cadwyn o fynyddoedd sy’n cynnwys y pwynt uchaf ar Benrhyn Llŷn. 4.5 milltir o hyd (1.5 milltir)
Pysgota
-
Pysgota môr o’r traeth preifat ar y safle. O fewn pellter cerdded.
Golff
-
Clwb Golff Nefyn a’r cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll uwchben y creigiau gyda golygfeydd arfordirol anhygoel (7 milltir)
Marchogaeth
-
Canolfan Farchogaeth Penrhyn Llŷn – Llaniestyn. Fferm styd gyda teithiau ar gyfer pob lefel arbenigedd (10.5 milltir)
-
Stablau Marchogaeth Llanbedrog – gwersi marchogaeth ayyb. Teithiau ar y traeth a’r bryniau (14 milltir)
Chwaraeon Dwr
-
Mae Porth Neigwl yn fan poblogaidd iawn i syrffwyr a chorff-fyrddwyr (19 milltir)