- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
- Special Offer15% offer 28th June – 18th July
- Special Offer10% offer w/c 19th July
- £871 yr wythnos
- £124 y noson
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 4 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 4 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Trwydded parcio ar gael
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Yn meddiannu'r adain orllewinol breifat, oddi mewn i blasdy Fictorianaidd Gothig ger y traeth yn Llanbedrog, mae Llety'r Plas yn cynnig llety hunan ddarpar mewn lleoliad trawiadol i grwpiau hyd at 10 ar Benrhyn Llyn. Wedi ei adeiladu yn 1857 ac yn wreiddiol yn rhan o ystâd enwog Madryn, mae hefyd yn gartref i oriel gelf a chanolfan treftadaeth, yn ogystal â chaffi gwych. Yn cael ei redeg gan ymddiriedolaeth elusennol, annibynnol, dyma'r lle am Groeso Cynnes Cymreig, gyda tywod euraidd heb fod ymhell.
Drwy fod drws nesaf i oriel gelf, fe fyddwch yn elwa o fod â'ch arddangosfa lluniau preifat eich hun, y rhan fwyaf gan artistiaid lleol, ar hyd wal eich llety. Mae byw mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ysbrydoli'r artistiaid hyn. O draethau cuddiedig a phentrefi arfordirol trawiadol i Ynys Enlli a mynyddoedd Eryri, mae yma gymaint i'w weld. Gellir hefyd ymuno â Llwybr Arfordirol Cymru o stepen y drws.
Mae Abersoch (2.5 milltir) yn gyrchfan poblogaidd gyda'i ddewis gwych o fwytai, siopau a thafarndai. Mae tref a harbwr Pwllheli (4 milltir), sy'n gartref i Farina Hafan Pwllheli a'i ddigwyddiadau hwylio niferus, hefyd yn cynnig ystod eang o adnoddau. Mae yna nifer o atyniadau poblogaidd gerllaw yn cynnwys Parc Glasfryn, Rheilffordd Stêm Ffestiniog, Castell Criccieth, a phentref Eidalaidd Portmeirion.
Llawr Gwaelod
Mynedfa breifat yng nghefn yr adeilad yn agor allan i gyntedd mawr gyda grisiau llydan a lifft stair ar gyfer unrhyw un gydag anhawsterau symud.
Ar ol mis Medi 2024, ni fydd llofft nac ystafell molchi ar gael ar y llawr gwaelod ar gyfer gwesteion gan y bydd gwaith adeiladu yn digwydd er mwyn addasu'r adeilad.
Llawr Cyntaf
Ystafell fwyta olau gyda ffenestri uchel yn arwain i'r gegin, lolfa a'r mesanîn.
Cegin - yn cynnwys popty, hob, meicrodon, oergell, rhewgell, peiriant golchi llestri a pheiriant golchi/sychu dillad.
Lolfa gysurus gyda soffas o gwmpas stôf drydan, teledu a chwaraewr DVD.
Ystafell wely 1 - gwely dwbwl gydag ensuite yn cynnwys cawod, basn a thoiled.
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl gydag ensuite yn cynnwys cawod, basn a thoiled.
Ystafell wely 3 - dau wely sengl gydag ensuite yn cynnwys cawod, basn a thoiled.
Ystafell wely 4 - dau wely sengl.
Ystafell ymolchi gyda baddon, uned cawod, toiled a basn.
Ail Lawr
Mesanîn - grisiau sbiral yn arwain o'r ystafell fwyta i'r mesanîn gyda dau wely sengl i letya dau westai ychwanegol drwy gais.
Gardd
Patio preifat â lle i eistedd yng nghefn y llety, gyda barbaciw nwy. Mae caffi wedi ei leoli rownd y gornel ar gyfer te prynhawn neu ginio bach os dymunir.
Gall y gwesteion hefyd ddefnyddio'r byrddau picnic ar y prif lawnt (y tu blaen i'r adeilad) pan fydd yr oriel a'r caffi ar gau, i fwynhau golygfeydd tuag at Fae Ceredigion a mynyddoedd Eryri. Mae'r gerddi mor drawiadol a'r plasdy ei hun.
Mae Traeth Llanbedrog gerllaw gyda'i dai bach bob lliw ar y traeth - gellir cael mynediad i lawr lôn fach o'r llety. Gellir hefyd ddarganfod llwybrau sydd yn ymdroelli drwy'r coetir gerllaw'r plasdy, heb anghofio Llwybr Arfordirol Cymru sy'n pasio drwy'r gerddi.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys Bara Brith, te, coffi, siwgwr a llaeth
- Dillad gwely a thywelion yn gynwysedig
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- 1 sychwr gwallt ar gael
- Wifi ar gael
- Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Lifft stair o'r llawr gwaelod i'r llawr cyntaf
- Croesewir 2 gi am £30 y ci yn ychwanegol. Noder nad yw cwn yn cael mynediad i'r ystafelloedd gwely
- Dim ysmygu tu mewn
- Parcio ar gyfer 4 car drwy drwydded - i'w gael ar ôl cyrraedd