
Bwthyn cyfoes yn cynnig gwyliau gwych oddi mewn i waliau hanesyddol Conwy - tref Treftadaeth y Byd ar arfordir Gogledd Cymru.
- £578 yr wythnos
- £83 y noson
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
Cegin
- Peiriant golchi llestri
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Cawod
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Parcio ar y stryd
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Bwthyn cyfoes yn cynnig gwyliau gwych oddi mewn i waliau hanesyddol Conwy - tref Treftadaeth y Byd ar arfordir Gogledd Cymru. Wedi ei leoli ar stryd dawel, mae'r bwthyn mewn lleoliad perffaith i wneud y mwyaf o bopeth sydd gan Conwy i'w gynnig. O'r castell mawreddog i'r ty lleiaf yn y wlad, traethau a thripiau ar gychod, a dewis eang o fwytai, bariau a siopau annibynnol.
Mae'r bwthyn hefyd yn ganolog i nifer o atyniadau eraill yng Ngogledd Cymru, yn cynnwys Surf Snowdonia a Gerddi Bodnant, trefi Llandudno a Betws y Coed, Zip World a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Llawr Gwaelod
Mae'r ardal fyw agored yn eich gwahodd i eistedd nôl ac ymlacio mewn steil.
Lolfa - soffa a stôl gyfforddus yn berffaith ar gyfer nosweithiau clyd o flaen ffilm dda a'r stôf nwy.
Cegin/ardal fwyta - cegin fodern gyda wyneb gweithio gwenithfaen a bar brecwast. Yr holl offer angenrheidiol yn cynnwys popty trydan a hob nwy, meicrodon, oergell a rhewgell fach oddi mewn a pheiriant golchi llestri.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - ystafell fawr gyda gwely maint king, cypyrddau dillad a theledu ar y wal.
Ystafell gawod en-suite gyda gwres dan y llawr, cawod fawr, 2 basn, toiled a rheilen sychu tywelion.
Cwrt
Cwrt caeedig yn y cefn yn cael ei rannu, ond anaml ei ddefnyddio, gan drws nesaf. Lle delfrydol ar gyfer cwn.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, Prosseco a siocledau
- Gwres canolog nwy a thrydan yn gynwysedig
- Gwres dan y llawr yn yr ystafell gawod
- Dillad gwelyau, tywelion ac 1 sychwr gwallt ar gael
- Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Wifi ar gael
- Croesewir hyd at 2 gi
- Dim ysmygu tu mewn
- Darperir y canlynol: Cegin - pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur toiled
- Parcio ar y stryd os oes lle. Meysydd parcio gerllaw (bydd rhaid talu yma)