- £592 yr wythnos
- £85 y noson
- 7 Guests
- 3 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 1 Pet
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dim dillad gwely ar gael
- 2 o welyau dwbl
- 3 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Dim tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Ystafell wlyb
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Ym mwthyn gwyliau Sgubor Madrun fe storiwyd gwair a bwyd anifeiliaid am y 250 mlynedd diwethaf. Mae wedi ei adnewyddu yn ddiweddar yn fwthyn gwyliau moethus gyda chymaint â phosib o'r nodweddion gwreiddiol a phosib yn weledol. Mae gan y bwthyn ardal chwarae i blant, ystafell gemau a thraeth hir 3 milltir dywodlyd Porth Neigwl ychydig dros hanner milltir i ffwrdd.
Llawr Gwaelod
Mae mynediad blaen a thu ôl y bwthyn hwn yn lefel ac yn addas i westai llai abl yn ogystal â chadeiriau olwyn. Mae'n agor yn syth i ystafell agored yn cynnwys lolfa, lle bwyta a chegin. Mae rhan o'r llawr llechfaen gwreiddiol wedi ei ail osod yn y gegin a'r ardal fwyta a chadwyd rhai o'r waliau cerrig, y cyfan yn ychwanegu at gynhesrwydd a chymeriad y llety. Ceir ffenestr fawr gyda ffenestr ddwbl sydd yn cynnig golygfeydd gwych o gefn gwlad a theimlad golau ar y tu mewn. Ceir gwresogyddion o dan y llawr gwaelod hefyd.
Mae'r gegin gyflawn yn cynnwys cyfarpar ansawdd uchel a digonedd o lestri a gwydrau. Mae'r safon pum seren yn parhau yn y lolfa gyda soffas lledr mawr cyfforddus a chlustogau meddal sy'n cyfrannu at y teimlad cartrefol. Ceir teledu plasma newydd ar y wal, chwaraewr DVD, CD/radio.
Ceir ystafell wely ddwbl ar y llawr gwaelod hefyd sydd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae ganddo ystafell ymolchi en-suite gyda chawod a chanllawiau ger y toiled a'r basn golchi dwylo. Gellir darparu cadair ar olwynion neu gadair droelli i'r rhai llai abl.
Llawr Cyntaf
Grisiau hyfryd wedi ei chreu gan saer lleol yn arwain i lawr cyntaf ar steil oriel gyda dwy ystafell wely gyda nenfwd ar ongl a dwy ffenestr velux yn edrych allan ar olygfeydd godidog cefn gwlad. Ceir gwely dwbl clasurol gyda chanopi ac en-suite mewn un ystafell ac mae'r ystafell arall yn cynnwys tri gwely sengl hufen. Mae'r brif ystafell ymolchi ar y llawr hwn hefyd gyda Jaquzzi.
Gardd
Drws cefn dwbl mawr yn arwain allan i ardal y patio gyda dodrefn gardd. Delfrydol ar gyfer edmygu'r golygfeydd neu i eistedd ac ymlacio gyda gwydraid o win gyda'r nos.
Gwybodaeth Ychwanegol
Trydan a gwres canolog yn gynwysedig.
Cyswllt WIFI ar gael - dewch â'ch gliniadur eich hun.
Darperir sychwr gwallt ar gais.
Croesewir cwn, ond ni ddylid eu gadael ar eu pennau eu hunain yn y bwthyn. Wedi'r cyfan, maen nhw hefyd ar eu gwyliau ac rydyn ni eisiau cynnal safon uchel y llety. Codir ffi fechan o £20 yr anifail (uchafswm o 2 gi bach neu 1 ci mawr ar wahân i alsatians), yn daladwy i'r perchennog pan ydych yn cyrraedd. Gadewch i ni wybod os ydych yn dod a chi er mwyn i ni roi giât wrth y grisiau.
Mae'r lleoliad yma hefyd yn wych ar gyfer grwpiau (cysgu hyd at 27 hefo'i gilydd). Mae 3 bwthyn moethus arall ar y safle - edrychwr ar argaeledd Llofft Madrun, Sgubor Madrun a Thy Madrun (i gyd yn cysgu 7 yr un).