- Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
- Special Offer15% offer 28th June – 18th July
- Special Offer10% offer w/c 19th July
- Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
- Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August
- £644 yr wythnos
- £92 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 15:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Mae'r bwthyn trawiadol hwn gyda twb poeth, sydd newydd ei adnewyddu, yn cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer gwyliau yng nghefn gwlad Gogledd Cymru. Fe fyddwch yn teimlo yn bell i ffwrdd o bawb a phopeth, ond eto, mae'r A55 o fewn 5 milltir, sy'n rhoi mynediad rhwydd i arfordir Gogledd Cymru a'i holl atyniadau. Ymlaciwch mewn steil o flaen y stôf goed a mwynhau golygfeydd o gefn gwlad a'r bywyd gwyllt. Efallai y byddwch ddigon lwcus i weld ambell i garw yn y caeau tu hwnt i'r ardd.
Mae yma hefyd lety bychan i 2 ar y safle, mewn ysgubor wedi ei hadnewyddu gyda'i dwb poeth ei hun, rhag ofn yr hoffech estyn gwahoddiad i gwpwl arall.
Llawr Gwaelod
Cegin - ystafell ffasiynol gydag unedau llwyd, wyneb gweithio gwenithfaen a sinc Belfast, gyda'r holl offer yn cynnwys peiriant golchi llestri, popty a hob trydan ac oergell/rhewgell.
Lolfa/ardal fwyta - ystafell agored gyda trawstiau, drysau derw a digon o gymeriad. Mae'r bwrdd bwyta derw i 4 wedi ei leoli ger y stôf goed a ffenestr yn edrych allan dros yr ardd. Soffa ledr gyfforddus a bwrdd coffi o flaen teledu Smart ar y wal, gyda freesat, a drysau yn agor allan i'r ardd. Golygfeydd o gefn gwlad i bob cyfeiriad, dyma le delfrydol i ymlacio.
Iwtiliti - ystafell arwahan yn cynnwys sinc, peiriannau golchi a sychu dillad, meicrodon, haearn smwddio, lle i esgidiau cerdded ac i hongian cotiau.
Ystafell toiled a basn.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - gwely dwbl, teledu Smart gyda freesat, wal gerrig nodweddiadol, a 2 ffenestr sy'n cynnig golygfeydd o gefn gwlad. Cadair freichiau a chypyrddau dillad.
Ystafell wely 2 - dau wely sengl gyda trawstiau agored, cypyrddau dillad a golygfeydd o gefn gwlad.
Ystafell ymolchi - baddon yn sefyll ar ben ei hun gyda golygfeydd. Rheilen sychu tywelion, cawod wlaw a basn.
Gardd
Lawnt breifat a chaeedig, patio a twb poeth, gyda golygfeydd anhygoel o gefn gwlad a bywyd gwyllt. Dodrefn gardd a barbaciw.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys wyau lleol, sgons/cacennau cri, cacennau i blant, yn ogystal â the, coffi, siwgwr a llaeth
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Coed ar gyfer y stôf
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Sychwr gwallt ar gael
- Wi-fi yn gynwysedig
- Gemau bwrdd ar gael
- Cot trafeilio, cadair uchel a gât staer ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Mae'r eitemau canlynol hefyd ar gael:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes tu mewn y bwthyn
- Parcio ar gyfer 3 car