- £764 yr wythnos
- £109 y noson
- 11 Guests
- 5 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 5 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Dim tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae'r llety gwyliau helaeth hwn ar Benrhyn Llŷn gyda golygfeydd o'r môr, yn ddelfrydol ar gyfer aduniadau teuluol neu ffrindiau. Mae Hendy Iago yn gwneud y mwyaf o'r lleoliad godidog ac heddychlon, gyda digon o ffenestri a drysau patio i fedru mwynhau golygfeydd panoramig o gefn gwlad a'r arfordir. Un o drysorau cudd Penrhyn Llŷn yw Porth Iago (cildraeth tywodlyd hardd) sydd lai na milltir i ffwrdd o stepen y drws, tra mae Porthoer - traeth yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol gyda caffi - ond 1.5 milltir i ffwrdd. Mae pentref glan môr Aberdaron, neu bentref arfordirol Abersoch ynghyd ac atyniadau eraill heb fod yn bell o'r bwthyn.
Llawr Gwaelod
Cegin ac ardal fwyta gyda golygfeydd - yr holl offer angenrheidiol yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell, meicrodon, popty a hob trydan. Mae bwrdd mawr ar gyfer 11 o westeion yn yr ardal fwyta.
Ystafell haul fach gyfagos gyda chadeiriau pren, setl a lamp - perffaith ar gyfer darllen neu i fwynhau amser tawel yn edrych allan ar olygfeydd hardd cefn gwlad Penrhyn Llŷn a'r môr ar y gorwel.
Lolfa - ystafell helaeth gyda golygfeydd anhygoel o'r môr a chefn gwlad. Teledu a chwaraewr DVD a digon o seddi lledr cyfforddus ar gyfer y gwesteion. Drysau patio yn arwain i'r ardd a'r patio.
Ystafell wely 1 - ystafell gyda dau wely sengl, byrddau bach ger y gwely a chypyrddau dillad.
Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod arwahan, toiled, rheilen sychu tywelion a basn.
Ystafell iwtiliti gyda peiriant golchi dillad, sinc a boiler.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 - gwely maint king gyda byrddau bach ger y gwely, cwpwrdd dillad a golygfeydd o'r môr.
Ystafell wely 3 - gwely maint king gyda byrddau bach ger y gwely, cwpwrdd dillad a golygfeydd fel ystafell wely 1.
Ystafell wely 4 - ystafell deulu helaeth gyda 1 gwely dwbwl ac 1 gwely sengl, cypyrddau dillad.
Ystafell wely 5 - ystafell gyda dau wely sengl a chwpwrdd dillad.
Ystafell gawod - cawod fawr, toiled, rheilen sychu tywelion a basn.
Gardd
Mae gardd fawr gaeedig yn amgylchynu'r llety hunan ddarpar hwn gyda golygfeydd o'r môr a milltiroedd o gefn gwlad trawiadol. Ardal patio gyda 2 fwrdd picnic pren a barbaciw nwy.
Gwybodaeth ychwanegol
- Gwres canolog nwy a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau yn gynwysedig. Bydd angen i chi ddod a tyweli.
- Wifi ar gael
- Cot trafeilio, cadair uchel a gat i'r grisiau ar gael os dymunir
- Derbynir i fyny at 2 anifail anwes am ddim (llawr gwaelod yn unig) - gadewch i ni wybod pan yn archebu
- Dim ysmygu tu mewn y llety
- Digon o le parcio