- £827 yr wythnos
- £118 y noson
- 8 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Twb poeth
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 1 gwely sengl
- 2 o welyau bync
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Dim tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae’r bwthyn 5 seren hwn gyda thwb poeth preifat yn cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer gwyliau bwthyn arfordirol ar Benrhyn Llyn. O fewn pellter cerdded i draeth Porthoer, fe leolir Bwthyn Porthoer mewn man hardd a heddychlon gyda golygfeydd godidog a gardd fawr amgaeedig - perffaith ar gyfer plant neu anifeiliaid. O fewn 2 filltir i Aberdaron, y pentref mwyaf gorllewinol ar Benrhyn Llyn, ble dowch o hyd i gaffis bach, tafarndai/bwytai a thraeth tywodlyd arall.
Llawr Gwaelod
Ardal fyw helaeth a chroesawgar gyda golygfeydd anhygoel dros yr ardd a thu hwnt. Mae’n cynnwys lolfa, cegin ac ardal fwyta agored gyda gwres o dan y llawr.
Cegin dderw gyda phopeth sydd ei angen arnoch, gan gynnwys peiriant golchi llestri, popty trydan, hob anwytho, meicrodon a bwrdd bwyta derw.
Mae yna soffas lledr yn y lolfa gyda drysau patio mawr sy’n gwneud i’r ardd ymddangos fel pe bai yn rhan o’r ystafell fyw. Teledu mawr ar y wal gyda DVD a Wi-Fi yn gynwysedig.
Prif ystafell wely gyda gwely maint king, ystafell gawod ensuite gyda thoiled a gwres o dan y llawr.
Ystafell wely dwbl gyda chwpwrdd gwisgo, cwpwrdd dillad, byrddau bach ger y gwely a lampau.
Ystafell wely fawr yn cysgu 4 gyda dau wely sengl a gwely bync.
Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod arwahan, a gwres o dan y llawr.
Ystafell iwtiliti gyda peiriannau golchi a sychu dillad, a rhewgell.
Gardd
Gardd fawr amgaeedig gyda thrampolîn, barbeciw nwy a golygfeydd anhygoel o gefn gwlad. Lleoliad delfrydol i ymlacio a mwynhau bwthyn gwyliau arfordirol ar Benrhyn Llyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig.
- Darperir dillad gwelyau a sychwr gwallt
- Wi-fi ar gael
- Cot a chadair uchel ar gael os dymunir
- Croeso i 2 anifail anwes am bris ychwanegol
- Dim ysmygu tu mewn
- Digon o lefydd parcio preifat
- Mwyafrif o 6 oedolyn (gwely bync yn addas ar gyfer plant yn unig)