Bwthyn Banw

Welshpool, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 3 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £342 yr wythnos
  • £49 y noson
  • 3 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Ystafell chwaraeon
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Cawod

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Wedi’i leoli ar fferm yng nghalon Dyffryn hyfryd Efyrnwy, mae’r bwthyn yn fan canolog a delfrydol er mwyn archwilio Canolbarth a Gogledd Cymru. Mae hefyd ddigon o atyniadau ar y safle, gan gynnwys ystafell gemau, moch anwes Kunekune, balconi er mwyn gwylio'r godro dyddiol a dwy afon yn llifo trwy’r fferm, gan ei wneud yn fan delfrydol i gael gwyliau pysgota. Mae hanes lleol difyr gyda digonedd o lefydd i fynd am dro, gan gynnwys llwybr ar ochr yr afon o’r ffarm i’r pentref cyfagos sef Meifod, lle gallwch fynd am fwyd neu ddiod yn y Kings Head.

Llawr Gwaelod

Cegin fodern gyda phopeth sydd ei angen arnoch, ynghyd ag agoriad siâp bwa er mwyn gweini bwyd i’r ardal fyw/bwyta. Popty trydanol a hob, oergell a microdon.

Ardal fyw/bwyta gyda chynllun agored a thrawstiau derw, gyda lle tân wedi ei wneud o friciau a dodrefnu gwledig. Cadair esmwyth sydd â lle i dri eistedd, a chadair freichiau o flaen y stof dân drydanol a theledu gyda chwaraewr DVD. Bwrdd bwyta maint llawn gyda golygfeydd o’r ardd amgaeedig drwy’r drysau patio mawr.

Y Llawr Cyntaf

Ystafell wely super king(a all hefyd gael ei ailosod fel dau wely sengl os gofynnir) gyda chwpwrdd dillad yn y wal, bwrdd gwisgo, cadair a goleuadau lamp.

Ystafell ymolchi gyda chawod/bath, toiled a sinc.

Gardd / Tu Allan

Gardd gaeedig gyda mainc, bwrdd picnic a pharasol, a darperir set barbeciw os gofynnir amdano. Caiff yr ardd hon ei rhannu gyda’r bwthyn i 4 drws nesaf.

Drws nesaf mae ystafell gemau gyda bwrdd pwl maint llawn, bwrdd dartiau, cyfleusterau cadw’n heini a lle eistedd.

Pysgota ar y safle. Mae’r fferm hon yn ddigon ffodus i gael dwy afon (Efyrnwy a Banw) yn llifo trwy ei thir. Perffaith ar gyfer gwyliau pysgota.

Profiad o fferm laeth/cig eidion/defaid. Gwyliwch odro dyddiol o’r balconi pwrpasol. Moch anwes Kunekune i’r plant fwynhau.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Darperir dillad gwely, tyweli dwylo a baddon, a sychwyr gwallt
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig.
  • Mae modd darparu cot a chadair uchel os gofynnir amdanynt.
  • Croesawir anifeiliaid anwes (1 mawr / 2 fach)
  • Digonedd o lefydd parcio ar gael.
  • Ystafell iwtiliti gyda golchwr a sychwr dillad (sy’n cael ei rannu gyda’r bwthyn i 4 drws nesaf)

Lleoliad

Mae Bwthyn Banw yn un o bâr o fythynnod gwyliau sydd ar fferm laeth, cig eidion a defaid yn Nyffryn Efyrnwy. Mewn lleoliad cyfleus a chanolog i fwynhau amrywiaeth eang o atyniadau Canolbarth a Gogledd Cymru. Mae hefyd yn llety perffaith ar gyfer gwyliau pysgota hunan arlwyo, gyda dwy afon yn rhedeg trwy’r fferm a sawl llyn o fewn rhai milltiroedd. Ymhlith yr atyniadau eraill sydd ar y safle mae bwrdd pwl a bwrdd dartiau yn yr ystafell gemau, gwylio’r gwartheg yn cael eu godro’n ddyddiol o’r balconi pwrpasol, ymweld â’r moch anwes Kunekune a chae chwarae maint bach tu allan.

Mae amryw o lwybrau poblogaidd o’r stepen ddrws, gan gynnwys Llwybr Glyndwr a Llwybr Ann Griffiths (emynyddes Gymraeg enwog) a llwybr ar lan afon o’r fferm i’r pentref cyfagos Meifod. Yn y pentref mae siop, swyddfa bost a thafarn y Kings Head sydd yn gweini bwyd da. Rhai o’r mannau bwyta eraill rydym yn eu hawgrymu yw Gwern y Ciliau (6 milltir), Tan House Inn, Llangynyw (3 milltir) a’r Llew, yn Llansantffraid (7 milltir).

Mae yna amrywiaeth eang o atyniadau a gweithgareddau o fewn pellter byr i’r bwthyn. Ymhlith rhain mae Rheilffordd Ysgafn Llanfair yn Llanfair Caereinion (5 milltir), Llyn Efyrnwy (11 milltir) sy’n cynnig man i gerdded, beicio, pysgota a chwaraeon dwr o bob math, a Chastell a Gardd Powys (10.5 milltir). Ymhlith rhai o gestyll eraill sydd yn yr ardal mae gweddillion Castell Mathrafal a fu unwaith yn gartref i Llywelyn Ein Llyw Olaf, ac un o’i gestyll eraill yn Nolforwyn, sy’n darparu golygfeydd arbennig o Ddyffryn Hafren uchaf.

Dim ond 16 milltir sydd i gyrraedd Profiad Fferm Park Hall sydd yng Nghroesoswallt, tra bod Amgueddfa, Camlas a Chanolfan Siopa ‘Coed y Dinas’ Y Trallwng yn werth ymweld â nhw. Mae hefyd archfarchnadoedd i’w cael yn Nhrallwng, a digonedd o fwytai a Chanolfan Hamdden y Fflash (pwll nofio hamdden).

Cerdded

Sawl llwybr o fewn ac o amgylch Meifod, gan gynnwys llwybr glan afon o’r ffarm i Meifod.

Llwybr Ann Griffiths – taith 7 milltir yn dilyn Llyn Efyrnwy. Llwyth o dirluniau gwahanol, gan gynnwys golygfeydd o fynyddoedd y Berwyn. Dechrau o Dolanog – 4 milltir.

Llwybr Glyndwr - llwybr troed hir yng Nghanolbarth Cymru a gafodd statws Llwybr Cenedlaethol ym mlwyddyn 2000. Dechrau yn Maesmawr - 5 milltir.

Llwybr Hafren - llwybr ysgafn 12 milltir ar hyd Camlas Trefaldwyn o Y Trallwng (9 milltir) i Drenewydd.

Llwybr Clawdd Offa – Llwybr Cenedlaethol (177 milltir yn ei gyfanrwydd) sy’n dilyn arfordir Cymru/Lloegr. Mae’r rhan agosaf yn dechrau wrth pont Tal-y-bont, 10.5 milltir i ffwrdd.

Pysgota

700 llath o bysgota ar y safle yn Afonydd Banw ac Efyrnwy. Ymhlith y pysgod mae brithyll gwyllt, penllwyd, cochgangod ac eog. 200 llath o’r bwthyn.

Pwll Pysgota Parc Bluebell – pysgota bras a charp ar lyn 20 erw. 4 milltir.

Llyn Efyrnwy – Brithyll gwyllt a brithyll seithliw. 11 milltir

Darganfyddwch mwy am bysgota yn ardal y Trallwng.

Golff

Clwb Golff Y Trallwng – cwrs golff 18 twll. 9 milltir.

Clwb Golff Llanymynech – cwrs golff 18 twll ar arfordir Cymru. 11 milltir

Cwrs Golff Croesoswallt – cwrs golff 18 twll. 16 milltir.

Beicio

Llyn Efyrnwy – Llwybr crwn 11 milltir o amgylch Llyn Efyrnwy. Llwybr fflat a hawdd sydd ar y ffordd ar y mwyaf. Dechrau wrth ganolfan ymwelwyr gyda sawl sefydliad i gael hoe a lluniaeth. 11 milltir o’r bwthyn.

Chwaraeon Dwr

Chwaraeon Dwr Llyn Efyrnwy – Canwio, caiac, hwylio a hwylfyrddio – addas i’r teulu cyfan. 11 milltir.

Merlota

Stablau Penycoed. Merlota ar hyd arfordir Cymru. Ceffylau a merlod i weddu pobl o bob oedran a gallu. 14 milltir.