- £712 yr wythnos
- £102 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Ystafell chwaraeon
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Dim signal ffôn symudol
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau bync
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
O'r ystafell chwaraeon i'r ardal fyw eang gyda golygfeydd, stôf goed, a gwres o dan y llawr, byddwch yn teimlo'n gartrefol yn syth yn y bwthyn steilus hwn yn Nyffryn Dyfi. Wedi ei amgylchynu gan gefn gwlad tawel Canolbarth Cymru a gyda digon o bethau i'w gwneud gerllaw, dyma leoliad delfrydol i ymlacio a mwynhau.
Mae Ygubor Tanllan yn un o ddau fwthyn 5 seren ar y safle, ac newydd gael ei drawsnewid o hen ysgubor Gymreig draddodiadol. Gall cyfuno'r ddau fwthyn i wneud un mawr (Llety Tanllan) ar gyfer hyd at 10 o westeion - perffaith ar gyfer teulu estynedig neu grŵp o ffrindiau.
Ychwanegiad newydd i'r Wefan
Llawr Gwaelod
Ardal fyw fawr ar gynllun agored sy'n eich croesawu i Ysgubor Tanllan. Mae'r trawstiau derw a'r llawr llechi yn rhoi teimlad cysurus i'r llawr gwaelod.
Cegin o dderw Cymreig gyda topiau llechi a sinc serameg, popty a hob trydan, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri, a pheiriant golchi dillad. Mae'r bwrdd bwyta wedi ei osod mewn lle delfrydol i fedru mwynhau'r golygfeydd anhygoel dros y dyffryn hyd at fynyddoedd y Cambrian ar y gorwel.
Mae'r lolfa'n helaeth gyda stôf goed, teledu a chwaraewr DVD, ac mae'n ymestyn allan i'r ystafell haul gyda seddi ychwanegol i fedru mwynhau'r golygfeydd hardd o gefn gwlad.
Yatafell esgidiau gyda toiled a sinc.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - ystafell hardd gyda gwely maint king a drysau yn edrych allan ar yr ystafell haul. Mae'r holl agoriadau wedi eu gwneud yn ddiogel i blant bach gyda rheiliau a gardiau. Ensuite gyda chawod fawr, gwres o dan y llawr, rheilen sychu tywelion, toiled a basn.
Ystafell wely 2 - gwely maint king, cadair, waliau cerrig, nenfwd uchel gyda trawstiau derw.
Ystafell wely 3 - gwely bync, wal gerrig a golygfeydd o'r dyffryn.
Ystafell ymolchi steilus gyda chawod uwchben y baddon, rheilen sychu tywelion, toiled, basn a gwres o dan y llawr.
Gardd
Ystafell chwaraeon - bwrdd pŵl, gorsaf docio, llyfrau a gemau. Gyda mynediad o'r tu allan, mae'r ystafell hon yn cael ei rhannu gyda'r bwthyn drws nesaf.
Mae'r patio caeedig yn rhedeg o flaen y llety ac yn edrych allan ar olygfeydd godidog. Dodrefn gardd a baraciw siarcol ar gael.
Gardd gaeedig arall gydag ardal chwarae gerllaw'r bwthyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso o fwydydd Cymreig sy'n cynnwys llefrith.
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig. Gwres canolog adnewyddadwy o ffynhonell tanddaearol, hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynhesu'r dŵr
- Pecyn dechreuol o goed tân ar gyfer y ddwy stôf goed. Gellir prynu coed ychwanegol gan y perchennog am £4 y bag
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Sychwr gwallt ar gael
- Cot trafeilio, cadair uchel a gat i'r staer ar gael os dymunir. Dewch â'ch dillad eich hun i'r cot. Gard tân ar gael hefyd ar gyfer y stof goed
- Wi-fi ar gael
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn
- Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled ym mhob ystafell ymolchi
- Mae archfarchnadoedd bychain a marchnad stryd wythnosol ym Machynlleth, gyda Asda a Tesco yn dosbarthu i'r cartref
- Digon o le parcio yn y buarth ger y bwthyn
I Grynhoi - gair gan y perchnogion
Mae gan yr ardal leol gymaint i'w chynnig a gellir cael tripiau dyddiol anhygoel oddi yma, ond rydym yn caru ein bywyd yn y gornel fach yma o Ganolbarth Cymru ac yn teimlo y gellir cael anturiaethau cofiadwy yn y fan hyn, ble mae cyflymdra bywyd yn arafu a ble gellir teimlo yn un â byd natur. Dringwch y bryniau, gwyliwch yr haul yn codi ac yn machlud, adeiladwch den neu argae yn y nant, gwrandewch ar yr adar yn canu, chwaraewch ar y bont fach i lawr y lôn, darllenwch lyfr yn yr awyr agored, neu lenwi eich llyfr braslunio gyda darluniau a pheintiadau - mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen.