Stabal Pant y Lludw

Machynlleth, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Bwthyn i 6 ger Machynlleth ac Eryri yn croesawu anifeiliaid anwes ac yn cynnig gwyliau addas ar gyfer yr anabl mewn lleoliad heddychlon a diarffordd. 

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £460 yr wythnos
  • £66 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 4 o welyau sengl
  • 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell wlyb
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat
  • Pwynt gwefru modur trydan

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Wedi ei leoli oddi mewn i erddi ffrwythlon ar lechwedd coediog yn edrych allan dros Ddyffryn Dyfi, mae'r bwthyn croesawgar hwn o fewn milltir i dref Machynlleth, Prifddinas Hynafol Cymru, ac 8 milltir o Aberdyfi. Mae Stabal Pant y Lludw yn croesawu anifeiliaid anwes, yn eco-gyfeillgar, ac yn cynnig gwyliau addas ar gyfer yr anabl mewn lleoliad heddychlon a diarffordd. Delfrydol os ydych am ymlacio, peintio, darllen neu ysgrifennu, ac hefyd yn leoliad gwerth chweil ar gyfer gwyliau antur gydag atyniadau a harddwch Eryri ar stepen y drws. 

Llawr Gwaelod

Cegin ac ystafell fwyta gyda pantri - ystafell gyda nenfwd uchel a ffenestri ar ddwy ochor, a ffenestr Ffrengig allan i'r patio dwyreiniol. Trawslathau a thrawstiau derw gwreiddiol, drws ysgubor hynafol wedi ei drawsnewid i fwrdd ar gyfer 8 o bobl, popty nwy, oergell/rhewgell, meicrodon, peiriant golchi/sychu dillad, yn ogystal â llawr llechi gyda gwres oddi dano. Golygfeydd dros goetir gyda teclyn dal bwyd adar poblogaidd ar y clawdd o fewn cyrraedd (bwyd adar ar gael). Nid yw'r pantri wedi ei gynhesu, felly mae'n ddelfrydol ar gyfer storio bwyd, ac mae'n cynnwys rhewgell. 

Lolfa - ystafell olau ac ysgafn yn edrych allan dros yr ardd  ac yn agor allan i'r patio drwy ffenestri Ffrengig. Stôf goed groesawgar yn ogystal â gwres dan y llawr, teledu a chwaraewr DVD, radio a chwaraewr CD, llyfrau gwybodaeth, nofelau, gemau a bocs teganau. Gellir eistedd ar y patio gorllewinol i ddal mantais o haul y prynhawn, gyda bwrdd llechen, gardd perlysiau a golygfeydd. 

Porth - mae'r brif fynedfa yn cynnig mynediad lefel ar gyfer gwesteion anabl (drws ffrynt yn 900mm o led). Mae'r porth hefyd yn rhoi cysgod gwych gyda to gwydr a thrawstiau gwyn. Rhesel bren ddefnyddiol ar gyfer hongian cotiau a bagiau yn ogystal â lle i storio coed tân. Yn arwain drwodd i'r lobi gyda mwy o le i hongian - delfrydol ar gyfer sychu dillad ac offer.  

Cyntedd - yn edrych allan ar y patio gorllewinol, llawr llechi, cist bren a gwres dan y llawr. Grisiau pren i'r llawr cyntaf.

Ystafell wely - gyda mynediad ar gyfer cadair olwyn, ystafell gysurus gyda gwres dan y llawr. Gellir dewis rhwng gwely maint king neu dau wely sengl (mynegwch eich dewis pan yn archebu). Rheilen ddillad isel, dillad gwely cotwm organig a di-alergenig, ffenestr a drws allan i'r patio gorllewinol. 

Ystafell gawod - ystafell wedi ei theilio yn gyfan gwbwl gyda mynediad i gadair olwyn, gyda basn a thoiled, gyda rheiliau os oes angen. Gwres dan y llawr. 

Llawr Cyntaf

Ystafell wely y Graneri - dau wely sengl gyda golygfeydd o'r ardd a thrawstiau yn y nenfwd. Dillad gwely cotwm organig a di-alergenig, byrddau bach ger y gwely, cwpwrdd a rheilen i hongian dillad, Llawr pren gydag un step i mewn. 

Ystafell wely y Galeri - dau wely sengl gyda ffenestr wreiddiol yn edrych i lawr i'r gegin, yn ogystal â ffenestr ar ddull gothig Fictorianaidd. Dillad gwely cotwm organig a di-alergenig, byrddau bach ger y gwely, cwpwrdd a rheilen i hongian dillad, a llawr pren.

Ystafell ymolchi - gyda toiled, basn a rheilen sychu tywelion. 

Gardd

Mannau chwarae o gwmpas y bwthyn, bwrdd, cadeiriau a barbaciw. 

Gall y gwesteion gael mynediad i lwybr cerdded drwy'r ardd brydferth. Mae'r llwybr yn arwain i fyny at lyn ar ben y bryn ble gellir gweld golygfeydd anhygoel o aber yr afon Ddyfi a'r môr. Mae'r ardd yn gymysgedd o goetir a llwyni, gyda lawnt yn arwain i lawr i ochr arall y bwthyn. Yn y gwanwyn a dechrau'r haf fe geir arddangosfa syfrdanol o goed rhodedendrons ac azaleas, gydag amrywiaeth o fywyd gwyllt ar bob adeg o'r flwyddyn.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siocled poeth, siwgwr a llaeth Cymreig, bisgedi masnach deg, a bara brith   
  • Dillad gwely yn gynwysedig     
  • Tywelion llaw a baddon ar gael ar gais - noder pan yn archebu os dymunir eu cael   
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig  
  • Coed tân ar gael ar gyfer y stôf   
  • Cot ar gael os dymunir    
  • Wifi ar gael
  • Mae croeso i 4 anifail anwes (dim cwn bach)    
  • Dim ysmygu tu mewn y bwthyn    
  • Llefydd parcio tu allan y bwthyn 
  • Pwynt gwefru ceir trydan ar gael  - talu'r perchennog am ei ddefnyddio ar ddiwedd y gwyliau  
  • Eitemau eraill sydd ar gael ar gyfer eich arhosiad:
    • Cegin: pupur a halen, hylif golchi llestri, sebon hylif, clytiau newydd, ffoil, ffilm glynu, tywelion sychu llestri, hylif golchi dillad, bagiau sbwriel, bagiau i'r bin compost bwyd, matsis, goleuadau nos   
    • Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled    
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol
  • Gwyliau gyda mynediad i'r anabl - hoist symudol, ramp ar gyfer y toiled a chodwyr gwely/cadeiriau ar gael os dymunir heb gost ychwanegol 
  • Adeilad a chynnwys eco-gyfeillgar  

Lleoliad

Fe leolir y bwthyn mewn gerddi godidog ar ochr bryn coediog yn Nyffryn Dyfi, ger Machynlleth, ac yn ardal Biosffer Dyfi sy'n adnabyddus dros y byd. Yn derbyn anifeiliaid anwes ac yn cynnig gwyliau gyda mynediad i'r anabl, mae'n mwynhau lleoliad heddychlon a thawel, ond milltir o dref farchnad Machynlleth, Prifddinas Hynafol Cymru. Mae'r ardal yn borth i Barc Cenedlaethol Eryri a'i olygfeydd syfrdanol. 

Mae'r siopau agosaf i'w cael yn nhref Machynlleth filltir i ffwrdd, lle ceir 3 archfarchnad (maint bach i ganolig), siop bapur newydd, siop fara, cigydd, caffis, tafarndai a bwytai. Ymhlith y bwytai sy'n cael eu hargymell mae Gwesty Wynnstay, Gwesty'r llew Gwyn, a Bistro Number 21 ym Machynlleth, Glan yr Afon ym Mhennal (2 filltir), a Proper Gander yn Nhywyn (10 milltir). Mae Glan yr Afon ym Mhennal a'r Llew Gwyn ym Machynlleth hefyd yn ddelfrydol ar gyfer mwynhau diod ymlaciol, yn cynnwys cwrw lleol. 

Mae rhai o brif atyniadau yr ardal yn cynnwys Canolfan y Dechnoleg Amgen (3 milltir) gydag arddangosfeydd a gweithgareddau ar ynni adnewyddol a bywyd cynaliadwy, yn ogystal â Rheilffordd Stêm Talyllyn gyda Tomos y Tanc yn Nhywyn. Mae traethau euraidd Aberdyfi (9 milltir) ac Ynys Las (13 milltir) sydd gyferbyn a'i gilydd ar draws aber yr afon, cwrs golff Aberdyfi, a'r Sba ym Mhlas Talgarth ym Mhennal, hefyd yn atyniadau poblogaidd, heb anghofio MOMA Cymru ym Machynlleth, adeilad aml-gelfyddyd gydag arddangosfeydd, cyngherddau a gwyl flynyddol ym mis Awst sy'n cyflwyno cerddorion o bob rhan o'r byd. 

Mae'n werth ymweld hefyd â Chanolfan Grefftau Corris, Labyrinth y Brenin Arthur a Chwarel Corris, ychydig filltiroedd i'r gogledd. I'r de, mae Gwarchodfa RSPB a Phrosiect Gweilch y Ddyfi yn Ynyshir. Ychydig filltiroedd ymhellach fe ddowch i dref prifysgol arfordirol Aberystwyth, cartref i'r ganolfan gelfyddydau fwyaf yng Nghymru, trên stêm, sinema, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ystod eang o adnoddau a siopau. Gyda lleoliad mor ganolog, mae gwyliau ym Machynlleth yn golygu fod Cymru gyfan o fewn pellter teithio, ac mae nifer yr atyniadau y gellir ymweld â nhw yn ddi-ddiwedd. 

Cerdded

  • Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan. Byddwch yn gweld golygfeydd anhygoel ar hyd y llwybr byd-enwog hwn ar eich ffordd i Aberdyfi ac arfordir gogledd Cymru (1 milltir)
  • Mae Llwybr Dyffryn Dyfi yn dilyn afon Dyfi o’r aber yn Aberdyfi i’w ffynhonnell ar gopa Aran Fawddwy ac yn ôl i lawr ochr ddeheuol yr afon, drwy Machynlleth ac i lawr i Borth (1 milltir)
  • Grisiau Rhufeinig yn arwain i Fryn Glas a Llyn Glanmerin – llwybr cylchol sy’n dechrau o’r Plas ym Machynlleth (1 milltir)
  • Llwybr Glyndŵr – llwybr hir yng Nghanolbarth Cymru a gafodd statws Llwybr Cenedlaethol iddo yn y flwyddyn 2000. Ymunwch â’r llwybr yn y dref, dros y ffordd i’r Senedd-dŷ (1.2 milltir)
  • Cadair Idris – 3 prif lwybr yn dechrau o Abergynolwyn (11 milltir), Dolgellau (15 milltir) a Minffordd (17 milltir).

Beicio

  • Mae Lôn Las Cymru (y llwybr beicio sy’n cysylltu’r gogledd a’r de) yn mynd heibio i’ch llety hunan-ddarpar ym Machynlleth (1 milltir)
  • Beicio Mynydd Dyfi – Mae pob llwybr yn dechrau o Fachynlleth (1 milltir)
  • Llwybr Mawddach – Addas i bobl o bob oedran. Perffaith ar gyfer beicio a cherdded, a hefyd yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Dolgellau (15 milltir) i Abermo.
  • Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – Addas i bobl o bob oedran (23 milltir)

Pysgota

  • Mae afon Dyfi yn cynnig pysgota gwych ac mae’n enwog am frithyll brown, eog a brithyll môr (1 milltir)

Golff

Traethau

  • Aberdyfi – Traeth tywod hir ar ochr ogleddol aber afon Dyfi. Arhosfan glan y môr hyfryd gyda digon o gaffis, siopau a bwytai (9 milltir)
  • Ynyslas – Traeth hyfryd ar ochr ddeuehol aber afon Dyfi, gyda thwyni tywod yn gefn iddo. Mae caffi a lle parcio ar y traeth (13 milltir)

Chwaraeon dŵr

Marchogaeth

  • Mae gan Ganolfan Farchogaeth Rheidol arenâu maint llawn wedi’u goleuo yn dda, yn yr awyr agored ac o dan do, ynghyd â chwrs neidio a thraws gwlad, a theithiau marchnogaeth gwych o gwmpas Dyffryn Rheidol (20 milltir)