
Bwthyn gwyliau 5 seren yn Nyffryn Dyfi, Canolbarth Cymru. Amgylchynir bwthyn Rhyd y Gorlan gan lonyddwch hyfryd cefn gwlad ac maen eich gwahodd i gymryd hoe mewn steil.
- £900 yr wythnos
- £129 y noson
- 7 Guests
- 3 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Ystafell chwaraeon
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau dwbl
- 1 gwely sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Bwthyn gwyliau 5 seren gydag ystafell gemau yn Nyffryn Dyfi, Canolbarth Cymru. Amgylchynir bwthyn Rhyd y Gorlan gan lonyddwch hyfryd cefn gwlad ac mae'n eich gwahodd i orffwys a rhoi’ch traed i fyny mewn steil. Cymrwch hoe fach, mwynhau gêm o bwl , profi llwybrau cerdded llawn golygfeydd godidog o drothwy’r drws, beicio mynydd ac amrywiaeth o atyniadau lleol. Tafarn bentref draddodiadol o fewn pellter cerdded.
Llawr Gwaelod
Trawsnewidiwyd bwthyn gwyliau Rhyd y Gorlan o ysgubor gerrig o’r 18fed ganrif ac mae wedi llwyddo i gadw llawer o’i nodweddion gwreiddiol. Llechfaen sydd ar hyd y llawr gwaelod a cheir cegin dderw hyfryd a chyflawn, yn cynnwys golchwr llestri, oergell a rhewgell, popty, microdon a pheiriant gwneud coffi. Ardal fwyta helaeth gyda bwrdd mawr a 7 o gadeiriau cyfforddus.
Lolfa foethus yw’r ail ystafell, yn cynnwys dwy soffa ledr fawr a chadeiriau, teledu Sky (sianeli am ddim) a chwaraewr DVD gyda detholiad o DVDs. Drysau a ffenestri mawr gwydr Ffrengig yn edrych allan ar y teras sydd wedi ei amgylchynu gan lonyddwch cefn gwlad.
Ystafell gemau ar wahân gyda bwrdd pwl maint llawn, teledu Sky (sianeli am ddim) a chwaraewr DVD.
Iwtiliti gyda pheiriant golchi a sychu dillad. Ceir hefyd ystafell storio fawr (yn cynnwys toiled a basn golchi dwylo) i storio beiciau, offer a dillad awyr agored.
Llawr Cyntaf
Ceir 3 ystafell wely helaeth yn y bwthyn 5 seren hwn.
Ystafell wely 1: Dyma ystafell deuluol fawr gyda gwely dwbl a gwely sengl cyfforddus a chaise longue chwaethus.
Ystafell Wely 2: Mae’r ystafell hon hefyd yn helaeth iawn gyda gwely dwbl, dodrefn steil hen ffasiwn a dwy ffenestr sydd yn gwneud y mwyaf o’r golygfeydd godidog.
Ystafell 3: Dyma’r brif ystafell wely. Yn hardd a chlyd gydag ystafell gawod en-suite, gwely dwbl croesawgar.
Ystafell ymolchi mawr teuluol gyda chawod dros y bath, basn ymolchi, toiled a rheilen wresogi tywelion.
Gardd
Mae dodrefn gardd o flaen y ffenestri Ffrengig, yn edrych dros y tirlun tawel. Yma gallwch ymlacio i swn sisial nant fechan yn llifo heibio yng ngwaelod yr ardd a thrydar swynol yr adar yn canu drwy’r dydd.
Ardal chwarae newydd sbon i’r plant o flaen y patio. Gall rhieni orffwyso yn y lolfa neu ar y patio gan gadw golwg ar y plant yn chwarae ar yr un pryd.
Lawnt fawr gyda bwrdd picnic tu ôl i’r bwthyn, lle perffaith i ymlacio a mwynhau’r golygfeydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Pecyn croeso wrth gyrraedd yn cynnwys te, coffi, siwgr, llefrith, cacennau cartref a bisgedi. Gadewch i ni wybod os ydych chi’n dathlu achlysur arbennig ac fe wnawn ni gynnwys syrpreis ychwanegol yn eich pecyn croeso.
Darperir cot teithio, cadair uchel a giât i’w rhoi ar y grisiau ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
Trydan a gwres olew canolog yn gynwysedig.
Haearn smwddio a bwrdd smwddio ar gael.
Darperir tywelion a dillad gwely.
Dim ysmygu tu fewn a dim anifeiliaid anwes.
Wi-fi ar gael.
Pe dymunwch, gallwn archebu bwrdd i chi o flaen llaw yn un o’r bwytai arbennig lleol. Gadewch i ni wybod pa fath o fwyd yr ydych yn ei hoffi ac yna gadewch y cyfan i ni.
Mae gan y perchennog fusnes gwneud cacennau dathlu, ychwanegwch nodyn ar eich archeb os hoffech archebu caennau/cacennau bach ar gyfer eich arhosiad a bydd y perchennog yn cysylltu a chi i drafod ymhellach.
Stiwdio recordio ar wahan ar y safle gyda phirisau gostynol ar gael i westeion - am fanylion pellach cysylltwch a stiwdiobing@gmail.com
Derbynnir gwyliau byr yn ystod y tymor tawel. Gweler mwy o fanylion o dan ‘Prisiau’.
Mae’r eitemau canlynol yn cael eu darparu yn y bwthyn ar gyfer eich arhosiad:
Cegin: halen a phupur, rôl cegin, hylif golchi llestri/tabledi peiriant golchi llestri, tywelion llieiniau a sgwrwyr, ffoil a cling film.
Ystafell ymolchi: Hylif golchi dwylo a dau doiled rôl ar gyfer pob toiled.
Cynnyrch glanhau cyffredinol: bleach, glanhawr cawod, chwistrellydd gwrthfacteria a.y.b.
Lleoliad
Saif y bwthyn gwyliau 5 seren filltir uwchlaw pentref Cemaes sydd â’i dafarn draddodiadol ei hun. 7 milltir o dref Machynlleth (prifddinas hynafol Cymru) mae’n cynnig lleoliad gwych i ddarganfod canolbarth Cymru, de Eryri a Bae Ceredigion. Mae’r siop a’r swyddfa bost agosaf ddwy filltir i ffwrdd, y garej agosaf bum milltir i ffwrdd ac mae yna lawer o fwytai arbennig gerllaw.
Wedi ei leoli ar dir fferm deuluol ac wedi ei amgylchynu gan fyd natur, gallwch fwynhau golygfeydd eang dros Ddyffryn Dyfi draw at Gadair Idris o fwthyn fferm Rhyd y Gorlan. Mwynhewch deithiau cerdded o riniog y bwthyn, amrediad o gyrsiau golff a llwybrau beicio yn cynnwys canolfan beicio mynydd byd-enwog Coed-y-Brenin, ger Dolgellau.
Byddwch yn agos at draethau euraid Aberdyfi ac Ynys Las, golygfeydd trawiadol Eryri ynghyd â nifer o atyniadau lleol fel Canolfan y Dechnoleg Amgen, Cestyll Hanesyddol, Gwarchodfa Natur Ynys Hir, Labrinth y Brenin Arthur a Chanolfan Grefftau Corris.
Cerdded
Llwybr Glyndwr - llwybr cerdded hir yng nghanolbarth Cymru a gafodd statws Llwybr Cenedlaethol yn 2000. Gellir cael mapiau a theithlyfrau o’r Ganolfan Croeso ym Machynlleth. 0 milltir (gellir ymuno â’r llwybr o drothwy’r bwthyn).
Llwybr Dyffryn Dyfi - dilynwch Afon Dyfi o’r aber yn Aberdyfi at ei tharddiad wrth gopa’r Aran Fawddwy ac yna’n ôl i lawr ochr ddeheuol yr afon trwy Fachynlleth a lawr i’r Borth. Gellir cael mapiau a theithlyfrau o’r Ganolfan Croeso ym Machynlleth. Ymunwch â’r llwybr filltir o’r bwthyn.
Llwybr Mawddach - Addas i bob oed - cerddwyr, seiclwyr a defnyddwyr cadair olwyn. 16 milltir
Llwybr Cynwch (Precipice Walk) - Dolgellau - addas i bob oed. 18 milltir o’r bwthyn
Cadair Idris (mynydd) - 3 prif lwybr yn dechrau o Ddolgellau (16 milltir), Minffordd (16 milltir) ac Abergynolwyn (20 milltir).
Beicio
Beicio Mynydd Dyfi - gellir llogi beiciau mynydd o siop yr Holy Trail ym Machynlleth. Mae pob llwybr yn cychwyn o Fachynlleth. 7 milltir
Llwybr Mawddach - Fel uchod
Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin - Llwybrau addas i bob oed. 22 milltir
Llyn Efyrnwy - cylch 12 milltir o amgylch Llyn Efyrnwy. Addas i’r teulu cyfan. 23 milltir.
Chwaraeon Dwr
Chwaraeon Dwr yn Aberdyfi yn cynnwys hwylio, hwyl fyrddio, rhwyfo, canwio, pysgota a theithiau cychod. 18 milltir
Clwb Hwylio Clywedog - llyn 6 milltir, agored i bob math o gychod heb beiriant, o ganw i fwrdd hwylio i ddingi a chriwser. 17 milltir.
Llyn Efyrnwy - Canwio, caiacio, hwylio a hwyl fyrddio - addas i’r teulu cyfan. 23 milltir.
Pysgota
Afon Dyfi - pysgota gwych ac afon enwog am ei brithyll brown, eogiaid a brithyll môr. Mae’r afon yn pasio 0.5 milltir i ffwrdd a gellir prynu trwydded yn y swyddfa bost leol yng Nglantwymyn, 2 filltir i ffwrdd.
Golff
Clwb Golff Machynlleth - cwrs golff 9 twll. 7 milltir
Clwb Golff Aberdyfi - cwrs golff 18 twll. 18 milltir
Marchogaeth
Canolfan Ferlota Fferm Bwlchgwyn - addas ar gyfer unrhyw un dros bedair oed, 24 milltir.