Dan-y-Coed

Builth Wells, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 3 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer15% Pre-Easter offer for stays between 23rd February - 28th March
  • Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May
  • Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £441 yr wythnos
  • £63 y noson
  • 3 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell wlyb

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat
  • Pwynt gwefru modur trydan

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn gwyliau un llawr hyfryd yw Cysgod-y-coed gyda chyfleusterau i'r anabl, 2 filltir o dref Llanfair-ym-muallt yng Nghanolbarth Cymru. Fe’i hamgylchynir gan 60 acer o dir amaethyddol braf ac o fewn pellter cerdded i bentref hanesyddol Cilmeri (tafarn draddodiadol a gorsaf drên). Agos i Faes y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd, Argloddiau Cwm Elan a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bwytai da yn yr ardal yn gweini bwydydd lleol.

Llawr Gwaelod

Ystafell agored yn cynnwys cegin a lolfa. Y gegin yn cynnwys popty trydan a hob, oergell/rhewgell, microdon, bwrdd a chadeiriau.

Mae’r lolfa yn cynnwys dwy soffa, dwy gadair, teledu a DVD.

Dwy ystafell wely gyda chypyrddau dillad, un gyda gwely dwbl a’r llall gyda dau wely sengl, ac ystafell ymolchi yn cynnwys cawod.

Gardd

Mae’r ardd yng nghefn y bwthyn yn edrych allan dros y caeau. Ceir patio o flaen y bwthyn hefyd. Set barbeciw ar gael hefyd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ceir tri bwthyn gwyliau ar y safle a gellir cysylltu'r rhain i gyd i greu un bwthyn mawr sy’n cysgu hyd at 19. Delfrydol ar gyfer teuluoedd a grwpiau mawr.

Ystafell golchi/sychu dillad i’w rhannu gyda’r bythynnod eraill yn cynnwys peiriant golchi, sychwr a sinc.

Croesewir anifeiliaid anwes - uchafswm o 2 gi (i un bwthyn). Ffi fechan o £20 am yr wythnos a £10 am arhosiad byr (taladwy i’r perchennog wrth gyrraedd).

Darperir dillad gwely a thywelion.

Gwres a thrydan yn gynwysedig.

Uwchfarchnadoedd yn trosgludo - mae Tesco, Asda a Sainsbury's yn trosgludo i'r bwthyn.

Lleoliad

Mae bwthyn Cygsod-y-Coed wedi ei osod taith gerdded fyr o’r dafarn leol a stesion drên yng Nghilmeri, 2 filltir o Lanfair-ym-Muallt. Mae’r pentref yn enwog am mai yma y lladdwyd Llywelyn ein Llyw Olaf gan filwyr Edward I ar Ragfyr 11, 1282. Codwyd cofeb yno’n 1956 ac mae diwrnod cofio blynyddol yn digwydd yma.
Mae’r bwthyn yn agos at ble mae’r Sioe Frenhinol, Argae Dyffryn Elan a chwrs golff arbennig 18 twll. Mae nifer o atyniadau eraill yn yr ardal gan gynnwys beicio mynydd, pysgota, marchogaeth a cherdded ym Mannau Brycheiniog. Mae hefyd nifer o fwytai da yn yr ardal yn gweini cynnyrch lleol.

Golff

Paradwys y golffwyr, gyda Chwrs Golff Llanfair-ym-Muallt yn gwrs 18 twll wedi’i leoli yng nghefn gwlad hardd canolbarth Cymru. Mae amrywiaeth eang yn y tyllau sy’n golygu y bydd chwaraewyr yn defnyddio’r mwyafrif o’r clybiau yn eu bag ar ryw bwynt.

Marchogaeth

Mae nifer o lwybrau diddorol yn yr ardal. Bydd hefyd stablau ar y safle yn fuan iawn, yn galluogi gwesteion i ddod â’u ceffylau eu hunain.

Cerdded a Beicio

Mae’r ardal yn baradwys ar gyfer cerddwyr a beicwyr gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Llwybr Epynt, Llwybr Dyffryn Gwy a Dyffryn Elan i gyd yn agos.

Chwaraeon Dwr

Mae Afon Gwy yn berffaith ar gyfer canwio, rafftio a chaiacio, ac mae modd trefnu teithiau grwp. Llyn Llangors, Cronfa Ddwr Pontsticill (Clwb Hwylio Merthyr Tudful), yr Afon Wysg a chamlas Aberhonddu hefyd yn cynnig cyfleoedd chwaraeon dwr.

Digwyddiadau mawr yn yr ardal yn cynnwys:

Sioe Frenhinol Cymru

Dyma un o’r digwyddiadau mwyaf o’i fath yn Ewrop, a bydd yn dod â’r diwydiant ffermio a’r gymuned wledig at ei gilydd er mwyn dathlu amaethyddiaeth gorau Prydain gyda blas unigryw Cymreig. Byddwch yn rhan o’r digwyddiad cyffrous hwn, diwrnod da i’r teulu.

Digwyddiadau eraill ar Faes y Sioe yn cynnwys y Ffair Gaeaf a gwyl i dyddynwyr a garddwyr.

Gwyl y Guardian Gelli Gandryll (Hay Festival)

Dyma wyl genedlaethol sy’n dathlu llenyddiaeth wych ym mhob iaith ym Mhrydain ac ar draws y byd.

Gwyl Jazz Aberhonddu

Ar un penwythnos ym mis Awst bob blwyddyn, mae strydoedd Aberhonddu’n dod yn fyw gyda swn cerddoriaeth wrth i’r dref farchnad fach yma cynnal ei gwyl jazz flynyddol.