- £587 yr wythnos
- £84 y noson
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Awyr Agored
- Balconi
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mangre rhamantus a heddychlon i 2 ym Mannau Brycheiniog, yn mwynhau golygfeydd gwledig trawiadol. Yn seiliedig ar hen gerbyd rheilffordd, mae'r uned wedi ei adnewyddu'n grefftus â llaw yn defnyddio derw Cymreig. Gyda golygfeydd ar draws y dyffryn, mae'n leoliad delfrydol i ymlacio a mwynhau. Oddi mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a gyda chaniatad pysgota preifat yn yr afon sy'n rhedeg yng ngwaelod y cae. Mae aceri o goedtir a llwybrau cerdded i'w mwynhau, yn cynnwys llwybr cylchol i'r dafarn wledig agosaf. Mae'r ardal oddi mewn i Warchodfa Awyr Dywyll sy'n golygu y cewch eich syfrdanu gan yr awyr wedi iddi nosi. (Gall 2 blentyn gysgu yn y llofft grôg hefyd).
Llawr Gwaelod
Caban agored gyda gwely dwbwl wedi ei wneud â llaw.
Bwrdd bwyta - gellir ei blygu fyny i gael mwy o le.
Cegin yn cynnwys sinc, oergell, tegell a thostiwr.
Ystafell ymolchi - cawod llawn maint, toiled a basn.
Mae gwely dwbwl pellach yn y llofft (mynediad i fyny ysgol). Addas ar gyfer 2 blentyn, ond ddim plant ifanc.
Tu Allan
Balconi yn edrych allan dros gefn gwlad gyda bwrdd, cadair a chadair suglo. Gellir darganfod aceri o dir fferm yn ogystal â physgota ar yr Afon Crai.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Croesewir 2 anifail anwes am gôst o £20 yr anifail. Ni chaniateir i anifeiliaid fynd ar y gwely
- Dillad gwelyau a thywelion ar gael
- Ddim yn addas i blant bach
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Digon o le parcio preifat
- Gellir llogi beiciau mynydd o'r fferm (£25 diwrnod llawn neu £15 hanner diwrnod). Gellir trefnu gollwng lawr a phigo fyny ar lwybrau cyfagos
- Mae'r caban wedi ei leoli ar fferm weithiol ac ni ddylid gadael i blant grwydro ar ben eu hunain o gwmpas y fferm
- Ni ellir gwarantu signal ffôn symudol ar gyfer pob rhwydwaith
- Hanner milltir o ganiatad pysgota preifat ar afon Crai, un o isafonydd afon eog enwog yr Wysg
- Digon o wybodaeth yn y caban ar gyfer llwybrau cerdded a beicio lleol ayb
- Dosbarthiad gan archfarchnadoedd ar gael yn yr ardal
- Eitemau sylfaenol ar gael - papur toiled, shampw/jel cawod bach, sychwr gwallt, hylif golchi llestri, clytiau golchi a sychu llestri, llestri a sosbanau ayb
Mae 3 bwthyn a 2 uned glampio ar y fferm. Mae gan pob uned ei ardal breifat ei hun. Y 3 bwthyn yw Onnen Fawr Cottage , Onnen Fawr Barn ac Onnen Fawr Farmhouse i gysgu cyfanswn o 35.