Ein Elusen Enwebedig / Our Nominated Charity
Maint Cymru / Size of Wales
Mae Cymru yn ardal o 2 filiwn hectar. Mewn geiriau eraill - 2 filiwn o gaeau rygbi! Efallai nag ydy hynny yn ymddangos yn fawr iawn pan fyddwch yn ystyried fod 13 miliwn hectar o fforest yn cael eu colli bob blwyddyn. Er hynny, mae helpu i warchod ardal yr un maint a'n cenedl yn orchest bwysig ac yn alwad ar bawb i helpu. Mae Maint Cymru yn gosod meincnod; i blannu, diogelu a chadw ardal DDWYWAITH maint Cymru, a gyda'ch help chi fe fyddwn yn sicr o wneud hyn!
Ar ôl hanes hir o ddatgoedwigo yng Nghymru, rydym nawr yn raddol gynyddu maint ein fforestydd ac yn gwarchod ein coetir presennol. Er hynny, o ran persbectif newid hinsawdd a lleihau tlodi, dinistrio fforestydd yn y trofannau sydd wir yn bygwth hinsawdd y byd, yn ogystal ag anghenion bwyd, lloches a bywoliaeth y bobl sy'n byw yno. Mae Maint Cymru yn gweithio gyda prosiectau fforestydd yn Ne America, Affrica ac Asia i helpu gwarchod fforestydd trofannol presennol a chefnogi rheolaeth cynaliadwy fforestydd. Am bob £1 y byddwch yn ei roi, gellir plannu 3 coeden, sy'n golygu y medrwn helpu i gyrraedd y targed i ddiogelu a chynnal ardal DDWYWAITH maint Cymru.