Y mwyaf o dri bwthyn 5 seren ar y safle, mae'r llety hwn yn Ynys Môn yn ddelfrydol ar gyfer aduniadau gyda 2 lolfa a 4 ystafell wely.
- £795 yr wythnos
- £114 y noson
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
- Smart TV
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 4 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Ystafell wlyb
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Y mwyaf o dri bwthyn 5 seren ar y safle, mae'r llety hwn yn Ynys Môn yn ddelfrydol ar gyfer aduniadau gyda 2 lolfa a 4 ystafell wely y gellir eu gosod fel gwelyau king mawr neu welyau sengl. Wedi ei leoli mewn ardal gwledig a heddychlon, yn agos i'r arfordir gyda golygfeydd anhygoel o Eryri a'r môr. Yn agos at nifer o atyniadau yn cynnwys Malltraeth a Thraeth Llanddwyn, Llwybr Arfordirol Cymru, Sw Môr Môn a Rhosneigr.
Os hoffech wahodd mwy o deulu a ffrindiau, gellir archebu'r tri bwthyn i letya hyd at 18 o westeion. Mae Hendy Marian yn addas ar gyfer yr anabl drwy'r llawr gwaelod.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw agored gyda cegin, ardal fwyta a lolfa. Drysau mawr deu-blyg ar ddwy ochr yr ystafell gyda golygfeydd o gefn gwlad a'r arfordir.
Cegin lwyd foethus yn cynnwys peiriant golchi llestri, hob anwytho a phopty, meicrodon, oergell/rhewgell a pheiriant golchi/sychu dillad.
Ardal fwyta gyda bwrdd mawr a chadeiriau i 10, yn edrych allan dros y patio.
Lolfa - soffa gyfoes a chadeiriau o flaen teledu Smart ar y wal ac hefyd yn mwynhau golygfeydd allan dros y patio.
Ystafell wely 1 - gwely king mawr (gellir ei osod fel dau wely sengl os dymunir).
Ystafell wely 2 - gwely king mawr (gellir ei osod fel dau wely sengl os dymunir).
Ystafell wlyb - gyda mynediad i'r anabl ac yn cynnwys cawod wlaw, cadair i'r gawod, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Llawr Cyntaf
Lolfa 2 - ystafell hyfryd i ymlacio gyda soffa fawr siâp 'L' a 2 gadair o flaen teledu Smart. Balconi bach i fwynhau'r golygfeydd.
Ystafell wely 3 - gwely king mawr (gellir ei osod fel dau wely sengl os dymunir) a balconi bach. En-suite gyda cawod, toiled a basn.
Ystafell wely 4 - gwely king mawr (gellir ei osod fel dau wely sengl os dymunir) a ffenestr i fwynhau'r golygfeydd arfordirol, yn ogystal â balconi bach. En-suite gyda cawod, toiled a basn.
Gardd
Drysau deu-blyg yn arwain allan i'r ffrynt a'r cefn. Patio preifat gyda golygfeydd yn ymestyn i lawr i Malltraeth ar yr arfordir ac Eryri ar y gorwel. Lleoliad heddychlon gyda bwrdd a chadeiriau.
Ardal gymunedol i fwyta ac eistedd o flaen y bwthyn, yn cael ei rannu gyda dau fwthyn arall.
Gwybodaeth ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth a siwgwr, a Bara Brith/cacennau cri. Os yn aros am 6 noson neu fwy, fe fyddwch hefyd yn cael potel o Prosecco, blodau ffres a hanner dwsin o wyau
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- 2 sychwr gwallt ar gael
- Wifi ar gael
- Cot, cadair uchel a giât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn
- Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Lle parcio i hyd at 4 car