- £788 yr wythnos
- £113 y noson
- 5 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 3 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mwynhewch leoliad delfrydol yn y bwthyn Cymreig traddodiadol hwn ar Ynys Môn. 200 llath o ymyl dwr Culfor Cymyran, sydd yn gwahanu Môn o Ynys Cybi. Wedi ei amgylchynu gan 5 acer o dir, dyma leoliad gwych i ymlacio, ymlwybro i lawr i'r traethau, neu ddarganfod Llwybr Arfordirol Cymru. Os hoffech fentro ymhellach, mae nifer o atyniadau a gweithgareddau ar Ynys Môn heb orfod mynd ymhell.
Fe gyrhaeddir y bwthyn unigryw hwn ar hyd trac garw ac yna ar draws blaendraeth sydd yn achlysurol yn cael ei effeithio gan y llanw. Fe ellir cael amserlen y llanw gan y perchnogion os ydych yn dymuno mynd a dod pan fydd y llanw i mewn; mae yna hefyd lwybr byr arall yn arwain i fan parcio bychan ar hyd y trac.
Mae'r bwthyn yn cael ei hysbysebu ar gyfer 5, ond mae'r bosib lletya 6 ar gais - gweler nodyn ar ystafell wely 3. Noder hefyd fod y bwthyn wedi ei leoli yn agos at RAF Valley.
Llawr Gwaelod
Cegin fwyta - cegin gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys popty/hob, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriannau golchi dillad a golchi llestri. Bwrdd bwyta a chadeiriau.
Lolfa - gellir ymlacio o gwmpas y stôf goed yn y lle tân ar ddwy soffa cyfforddus. Teledu a chwaraewr DVD.
Ystafell wely 1 - gwely dwbwl, cypyrddau dillad a goleuadau ar gypyrddau bach ger y gwely.
Ystafell wely 2 - dau wely sengl, cypyrddau a goleuadau ger y gwely.
Ystafell wely 3 - gwely dwbwl bach (4'), cypyrddau dillad a goleuadau. Noder fod un step i lawr o'r lolfa i gyrraedd ystafell wely 3. * Gall y gwely hwn gysgu 2 westai ond noder ei fod 6" yn gulach na'r gwely dwbwl arferol.
Ystafell haul - soffa a chadeiriau, bwrdd coffi retro, teledu a lampiau. Noder fod 4 step i gyrraedd yr ystafell haul.
Gardd
5 acer o dir mewn lleoliad heddychlon, yn cychwyn gydag ardal bychan caeedig o gwmpas y bwthyn. Mae lawntiau pellach ar gael i'w mwynhau, yn ogystal â golygfeydd o'r culfor rhwng Môn ac Ynys Cybi. Bwrdd, cadeiriau a parasol, a barbaciw ar gael.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys gwîn a diod meddal, cacennau a bisgedi Cymreig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Coed tân a glô ar gyfer y stôf goed
- 1 sychwr gwallt ar gael
- Wifi ar gael
- Noder fod 1 step i lawr o'r lolfa i ystafell wely 3, a 4 step i gyrraedd yr ystafell haul
- Cot trafeilio a chadair uchel ar gael ar gais. Dewch â dillad eich hun ar gyfer y cot
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn
- Digon o le parcio
- Eitemau eraill sy'n cael eu cynnwys:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, clytiau newydd, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur toiled