Bwthyn Benllech

Benllech, Anglesey North Wales

  • 4 Star Gold
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% October Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £481 yr wythnos
  • £69 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 3 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 15:00
  • Amser gadael: 09:30

Disgrifiad

Bwthyn gwyliau cyfforddus ar Ynys Môn, Gogledd Cymru. Mae’r llety croesawgar hwn ym Menllech ddwy funud o gerdded o draeth hyfryd Benllech a’r holl adnoddau lleol. Wedi ei leoli ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn, mae wedi ei ddodrefnu a’i gyweirio’n foethus a gyda’i ardd amgaeedig ei hun â dodrefn patio. Mae hefyd parc chwarae mawr o fewn 100 llath i’r bwthyn - perffaith ar gyfer gwyliau teulu ar Ynys Môn.

Llawr Gwaelod

Mae’n addas ar gyfer gwestai o bob oed yn cynnwys teuluoedd a ffrindiau. Wedi ei ddodrefnu i’r safon uchaf drwyddo draw ac wedi ei ailwampio’n ddiweddar gyda soffas lledr o ansawdd uchel.

Mae’r gegin gyflawn yn cynnwys microdon, oergell / rhewgell, golchwr llestri, peiriant golchi a sychu dillad. Yn yr ystafell fyw a bwyta ceir llawr llechfaen gyda rygiau, soffas a chadeiriau lledr, stôf llosgi coed, teledu a fideo. Bydd y nenfwd uchel a’i siâp anarferol, y gwaith maen glân a’r ffenestr fawr oedd unwaith yn fynedfa i’r goets yn sicr o wneud argraff arnoch.

Gall y bwthyn gysgu hyd at 5 o bobl mewn 3 ystafell wely ar wahân, gyda sinc i ymolchi mewn dwy lofft. Mae hyn yn cynnwys ystafell king gyda digon o le i got ychwanegol os oes angen, ystafell twin a thrydedd ystafell sydd ychydig yn llai gyda gwelyau bync 3 troedfedd. Ceir bath a chawod maint llawn yn yr ystafell ymolchi.

Gardd

Mae gan y bwthyn ardd amgaeedig ei hun gyda dodrefn patio. Mae yna hefyd barc chwarae tua 100 iard i ffwrdd sy’n ddelfrydol ar gyfer gwyliau teuluol.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres a thrydan yn gynwysedig (gwresogydd trochiad a gwres canolog)
  • Lleiniau gwely a thyweli yn cael eu darparu.
  • Cot a chadair uchel ar gael ar gais.
  • Bydd blodau ffres a chacen gartref yn aros amdanoch.
  • Gellir trefnu fod siopa bwyd yn cael ei wneud cyn i chi gyrraedd ar eich cais.
  • Te bach prynhawn ar gael gan y perchennog am bris o £5 y person.
  • Digon o le i ddau gar i barcio tu allan 
  • Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes.

Lleoliad

Saif y bwthyn gwyliau hwn ym Menllech, ar arfordir dwyreiniol Sir Fôn. Dwy funud yn unig o draeth tywod teuluol a’r holl gyfleusterau lleol. Mae’r bwthyn yn cynnig llecyn delfrydol i ymweld ag amrediad gwych o atyniadau lleol. Mae Castell Biwmares gerllaw tra bo traeth baner las Benllech ar drothwy eich drws. Mwynhewch Lwybr Cerdded Arfordirol Sir Fôn (125 milltir i gyd), ewch i feicio a mentrwch i gopa’r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru, ar droed neu ar y trên.

Mae atyniadau eraill Môn yn cynnwys y Mynydd Copr, gyda’i dirwedd yn debyg i wyneb y lleuad, Gwyl Wystrys Môn ym mis Hydref, a siambr gladdu arbennig Bryn Celli Ddu, ger Llanddaniel Fab sy’n dyddio o Oes y Cerrig. Ewch ar daith o amgylch Melin Llynnon – yr unig felin Wynt sy’n dal ar waith yng Nghymru, ac ymweld ag Oriel Tegfryn, Oriel gelf hynaf Cymru.

I’r ymwelwyr iau, mae canolfan loÿnnod byw Pili Palas yn cynnig profiad hudolus, a hefyd yn cynnwys adar, nadroedd a rhai rhywogaethau egsotig. Mae Sw Môr Môn, acwariwm mwyaf Cymru’n cynnig byd anhygoel o fywyd môr, llongddrylliadau a gridiau’r pwll siarcod. Mae croesi’r bont i dir mawr gogledd Cymru’n cynnig hyd yn oed rhagor o atyniadau i’r teulu, yn cynnwys Parc Glasfryn sydd â chartio, bowlio, beicio pedair olwyn ac ati, a’r Hwylfan yng Nghaernarfon yw canolfan hwyl dan do fwyaf gogledd Cymru.

Traethau

Traeth Benllech – traeth tywod hir – gwobr Baner Las a ffefryn mawr gyda theuluoedd. ¼ milltir.

Darllen mwy am 6 o Draethau Môn gyda Baner Las.

Chwaraeon Dwr

Mae cyfleoedd i syrffio, deifio, caiacio, sgramblo’r arfordir, hwylio ac ati ar gael o fewn ½ awr i’r bwthyn. Darllen mwy am Chwaraeon Dwr Môn.

Cerdded

Llwybr Arfordir Môn - llwybr cylchol 125 milltir o amgylch yr Ynys. Gellir ymuno â’r llwybr ym Menllech (¼ milltir).

Taith Gylchol Coedwig Pentraeth – Pentraeth. Taith esmwyth 9 milltir, gyda golygfeydd hardd. 3 milltir o’r bwthyn.

Mynydd Parys – Amlwch. Llwybr cylchol 4.8 milltir o amgylch y mynydd copr hwn sy’n edrych fel arwyneb y lleuad. 7.5 milltir o’r bwthyn.

Golff

Clwb Golff Storws Wen – Benllech. Cwrs golff 9 twll. 1 filltir

Clwb Golff Henllys - Biwmares. Cwrs golff 18 twll. 8 milltir

Beicio

Llwybr Beicio Hebog – Llwybr cylchol 22 milltir yn cychwyn o Benllech. ¼ milltir o’r bwthyn.

Marchogaeth Ceffylau

Clwb Marchogaeth Ynys Môn – Benllech. Clwb Merlod a gwersi marchogaeth – addas i bob oed. 1 filltir