Cwrdd â'r tîm
Enw - Gareth Mahoney
Swydd - Cyd Sylfaenydd / Rheolwr Llety De a Gorllewin Cymru.
Cefndir - Derbyniodd Gareth radd o Brifysgol Aberystwyth ac wedyn mynd ymlaen i yrfa mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfryngau. Cyn sefydlu Y Gorau o Gymru roedd yn gweithio i ITV a Phrifysgol Caerdydd. Mae Gareth yn mwynhau'r awyr agored a bod mor brysur â phosib. Roedd yn arfer mwynhau chwarae rygbi, ond y dyddiau hyn yn mwynhau rhedeg a beicio a dilyn Clwb Rygbi Pontypridd. Gareth sydd rhedeg ein swyddfa yn Ne Cymru yn Abercynon.
Enw - Llion Pughe
Swydd - Cyd Sylfaenydd / Rheolwr Llety Canolbarth a Gogledd Cymru.
Cefndir - Graddiodd Llion gyda Gradd Meistr mewn Entrepreneuriaeth yn 2002 ac ers hynny mae wedi gweithio ym maes busnes, marchnata a thwristiaeth. Sefydlodd Y Gorau o Gymru yn 2009 ar y cyd â Gareth Mahoney. Mae Llion yn byw ar eu fferm deuluol ger Machynlleth, sef lleoliad swyddfa'r cwmni yn y Canolbarth. Ymhlith ei ddiddordebau mae rygbi, cadw'n heini (os oes cyfle!), cerdded, ffermio ac wrth gwrs - mynd ar y gwyliau achlysurol gyda'r teulu i wahanol rannau o Gymru yn cael profiadau newydd.
Enw - Suzanne Cole
Swydd - Rheolwraig Gofal Cwsmer a Pherfformiad
Cefndir - Dechreuodd Suzanne weithio yn y busnes teuluol o fewn y maes peirianneg ac yna dechreuodd ei busnes ei hun. Ar ôl gwerthu'r busnes datblygodd yrfa fel Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol De Cymru, Abertawe ac Aberystwyth. Mae hi'n byw yn Ne Cymru, yn mwynhau chwarae golff, cerdded ac yn arbennig, teithio i weld golygfeydd gwych o'r môr.
Enw - Lisa Jones
Swydd - Rheolwr Marchanta
Cefndir - Graddiodd Lisa o Goleg y Drindod, Caerfyrddin gyda BA mewn Astudiaethau Twristiaeth a Chwaraeon yn 2004. Ers hynny mae hi wedi gweithio yn y diwydiant twristiaeth ac ymunodd â chwmni Y Gorau o Gymru yn 2014. Mae Lisa yn byw yn Llandeilo ac mae'n mwynhau cerdded, teithio, rhedeg (yn cynnwys marathons) ac archwilio Cymru.
Enw - Mairi Highman
Swydd - Cydlynnydd Gwasanaeth Cwsmer a Gweinyddu
Cefndir - Graddiodd Mairi, sy'n dod yn wreiddiol o'r Alban ac wedi dysgu Cymraeg, o Brifysgol Aberdeen gydag MA mewn Ffrangeg ac Eidaleg. Ar ôl symud i Gymru yn 1982, bu'n dysgu Ieithoedd Modern mewn nifer o ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar draws De Cymru. Mae hi wedi gweithio gyda Y Gorau o Gymru ers haf 2012. Mae Mairi yn byw yng Nghaerdydd ac yn mwynhau bwyd da a choffi, coginio, teithio, a cherdded mynyddoedd.
Enw - Elliw Alwen
Swydd - Swyddog Gwasanaeth Cwsmer
Cefndir - Yn wreiddiol o Langernyw, symudodd Elliw i Gaerdydd yn 2012, ar ôl graddio o Goleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin yn 2010 gyda gradd BA Y Celfyddydau Perfformio. Yn ogystal ag actio, canu a dawnsio, mae hi hefyd yn mwynhau cadw'n heini, cymdeithasu mewn amryw o ddigwyddiadau ac yn hoff iawn o fynd ar wyliau a theithio. Ymunodd gyda chwmni Y Gorau o Gymru ym mis Hydref 2013. Yn 2015, daeth Elliw yn aelod o Orsedd y Beirdd yn y Wisg Wen yn yr Eisteddfod Genedlaethol a oedd yn fraint a hanner!
Enw - Elena Pryce
Swydd - Swyddog Gwasanaeth Cwsmer ac Ansawdd
Cefndir - Ymunodd Elena a Y Gorau o Gymru ym mis Rhagfyr 2014. Mae'n ferch leol o Aberangell, a bu'n gweithio yn flaenorol yn y Drenewydd, gan ennill profiad mewn cyfrifeg. Yn ei hamser hamdden mae'n mwynhau ralio ceir.
Enw - Meirion Wyn Jones
Swydd - Swyddog Ffilmio, Golygu a Gwasanaeth Cwsmer
Cefndir - Graddiodd Meirion o Brifysgol Bangor gyda BA mewn Cyfryngau yn 2014 ac wedi gweithio gyda Y Gorau o Gymru ers hynny. Mae Meirion yn wreiddiol o Ddinas Mawddy ond bellach yn byw yn y Felinheli. Mae ei ddiddordebau'n cynnwys rasio ceir ac unrhyw beth i wneud ag antur.
Enw - Elen Jones
Swydd - Swyddog Gofal Cwsmer
Cefndir - Ar ôl magu pedwar o blant, gweithiodd Elen am bymtheg mlynedd yn y sector addysg, ac ymunodd a thîm Y Gorau o Gymru ym mis Medi 2015. Graddiodd hi o Brifysgol y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin yn 2014 gyda gradd BA mewn Cynhwysiant Cymdeithasol. Mae Elen yn byw ar fferm yn Ninas Mawddwy ac mae'n mwynhau teithio, cymdeithasu a gwaith crefft
Enw - Glenda Davies
Swydd - Swyddog Gofal Cwsmer
Cefndir -Yn enedigol o Gwm Gwendraeth symudodd Glenda i Ddyffryn Dyfi ar ôl graddio mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth. Yn dilyn cyfnod fel athrawes, cyflawnodd swyddi cyfathrebu a gofal cwsmer yn y sectorau addysg, amgylcheddol, gwirfoddol a chyhoeddus. Mae Glenda hefyd yn weithgar ar y fferm deuluol yn cynorthwyo’i gŵr a thair o ferched i redeg y fferm o ddydd i ddydd. Mae ganddi ddiddordeb mewn coginio, teithio, cymdeithasu a chrefftwaith.