- £427 per week
- £61 per night
- 6 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Ystafell chwaraeon
- Twb poeth
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau sengl
- 2 o welyau bync
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Saif y bwthyn hwn ar fferm weithiol lle mae croeso i westeion gerdded o amgylch y tir a’r ardal o’i amgylch a gwylio’r gweithgareddau bob dydd. Mae Beudy Bach yn fwthyn moethus 5 seren gyda thwb poeth, stôf llosgi coed ac ystafell gemau ar wahân, i gyd wedi ei leoli ynghanol cefn gwlad dawel braf. Taith fer yn unig o arfordir godidog Bae Ceredigion - ardal Gadwraeth arbennig sydd hefyd yn enwog am ei boblogaeth frodorol o ddolffiniaid a llamidyddion.
Cyn adeilad fferm wedi ei drawsnewid yw hwn ac wrth i chi gamu i mewn mae awyrgylch groesawgar yn eich disgwyl yn y lolfa gartrefol gyda lle tân o gerrig a derw. Bydd y stôf llosgi coed wedi ei pharatoi ar eich cyfer os ydych yn cyrraedd pan fo’r tywydd ychydig yn oerach.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw helaeth a chysurus gyda llawr derw a stôf llosgi coed (basged o logiau yn cael eu darparu). Mae’r bwthyn wedi ei ddodrefnu gyda dodrefn derw drwyddo draw. Ceir teledu gyda chwaraewr DVD a CD.
Mae’r gegin yn cynnwys popeth y byddech yn ei ddisgwyl o fwthyn 5 seren, gyda golchwr llestri, oergell, microdon, rhewgell, popty maint llawn / hob, peiriant golchi dillad / sychwr dillad a chyfarpar smwddio i gyd yn gynwysedig. Ceir hefyd gasgliad cyflawn o lestri, gwydrau, cytleri, sosbenni ac offer cegin ayb i wneud coginio yn bleser.
Drws nesaf i’r gegin ceir ystafell iwtiliti sy’n addas ar gyfer sychu a storio esgidiau cerdded ayb.
Ystafell wely ar y llawr isaf gyda dau wely sengl ac ystafell ymolchi en-suite helaeth, gyda chawod, toiled a basn golchi dwylo. Dodrefn derw yn cynnwys cwpwrdd dillad, cist ddroriau, cabinet wrth ochr y gwely a drych.
Llawr Cyntaf
Grisiau derw yn arwain i ystafell wely fawr deuluol gyda gwely maint king a gwelyau bync, cwpwrdd dillad, cist ddroriau a chabinet ger y gwely. Ceir ystafell en-suite yma hefyd gyda bath, toiled a basn golchi dwylo.
Gardd
Ardal batio gyda dodrefn gardd i fwynhau'r golygfeydd hyfryd, barbeciw golosg (Darperir cyflenwad ar gyfer un barbeciw), awyr iach a heulwen.
Ystafell gemau gyda bwrdd pwl a thennis bwrdd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nodwch os gwelwch chi'n dda mai'r mwyafrif y gallwn ei dderbyn yn y bwthyn yma yw 4 oedolyn a 2 o blant.
Dillad gwely a thywelion yn gynwysedig heb gost ychwanegol.
Darperir cot a chadair uchel ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
Gwres olew canolog a thrydan yn gynwysedig.
Digonedd o le parcio diogel o’r neilltu
Ffolder yn llawn gwybodaeth am weithgareddau ac atyniadau lleol yn y bwthyn.
Te Cymreig a danteithion lleol i’ch croesawu pan fyddwch yn cyrraedd
Dim ysmygu yn y bwthyn
Ystafell gemau ar y safle gyda bwrdd pwl a thennis bwrdd.
WIFI ar gael
Uchafswm o 2 anifail anwes, ac fe’u caniateir ar lawr gwaelod y bwthyn yn unig