Mwynhewch foethusrwydd 5 seren yn y bwthyn trawiadol hwn yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru.
- £885 per week
- £126 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 3 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Description
Mwynhewch foethusrwydd 5 seren yn y bwthyn trawiadol hwn yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru. Gyda twb poeth preifat, stôf losgi coed, ystafelloedd gwely gydag ensuites, a digon o steil y tu mewn a thu allan, mae yna ddigon o resymau pam fod gwesteion yn dewis dod yn nôl i'r bwthyn hwn o hyd ac o hyd. Oddi mewn i 3.5 acer o dir, ac wedi ei wahanu oddi wrth dy'r perchennog, mae'n mwynhau gardd dawel, gaeedig sy'n ddelfrydol i blant a chwn. O fewn pellter cerdded i'r dafarn leol, caffi a siop fychan ym Mhont-rhyd-y-groes.
Dyma leoliad gwych i ddarganfod tirwedd diwylliannol Gorllewin Cymru, o fynyddoedd a rhaeadrau, i Abaty Ystrad Fflur, rheilffordd stêm a'r tair pont enwog ym Mhont ar Fynach. Mae arfordir Bae Ceredigion (15 milltir i ffwrdd yn Aberystwyth) yn cynnig ystod eang o draethau euraidd - gyda 11 ohonynt yn caniatau cwn drwy gydol y flwyddyn, a 24 arall ar rai adegau o'r flwyddyn.
Llawr Gwaelod
Ardal fyw agored sy'n cymryd y llawr gwaelod i gyd.
Cegin fodern a chyfoes gyda'r holl offer, yn cynnwys popty trydan Rangemaster, coginiwr araf a meicrodon, oergell/rhewgell a pheiriant coffi Nesspresso, peiriannau golchi llestri a golchi dillad. Bwrdd bwyta mawr gyda golygfeydd allan i'r patio a'r ardd.
Mae'r lolfa steilus yn eich gwahodd i ymlacio ar soffas a chadair gysurus o flaen y stôf goed a theledu Smart gyda DVD a phecyn Sky llawn. Gellir cael defnydd o dabled 10 modfedd gyda thanysgrifiad i nifer o bapurau newydd a chylchgronnau yn ddyddiol ac ar y penwythnos.
Ystafell ymolchi gyda toiled a basn.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - gwely maint king gyda golygfeydd dros yr ardd ac ystafell gawod en-suite. Teledu Smart gyda Netflix (teledu freeview), gorsaf docio i-pod a dodrefn steilus.
Ystafell wely 2 - gwely maint king (gellir eu gosod fel dau wely sengl 2'6" os dymunir), golygfeydd dros yr ardd ac ystafell gawod en-suite. Noder pan yn archebu os hoffech ddau wely sengl. Gyda teledu Smart â Netflix (teledu freeview), gorsaf docio i-pod a chypyrddau dillad.
Gardd
Oddi mewn i 3.5 acer o dir mae gennych ardal gaeedig eich hun sy'n cynnwys patio a thwb poeth preifat gyda to.
Bwrdd a chadeiriau gardd gyda Barbaciw. Storfa tu allan ar gyfer beiciau ayb.
Gwybodaeth ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te a choffi, siwgwr a llaeth, cacennau, gwîn a phodiau coffi
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Coed ar gael ar gyfer y stôf
- Dillad gwelyau a thywelion ar gael - yn cynnwys rhai ar gyfer y twb poeth
- 2 sychwr gwallt ar gael
- Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Gât i'r grisiau ar gael
- Wifi ar gael
- Croesewir hyd at 3 ci
- Dim ysmygu tu mewn y bwthyn
- Darperir y canlynol:
- Cegin: pupur a halen, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled
- Lle parcio i 3 car
Location
Mae Bwthyn yr Ardd yn mwynhau lleoliad tawel a heddychlon ar gyrion pentref Pont-rhyd-y-groes yng Ngorllewin Cymru. Mae rhodfa breifat yn arwain i 3.5 acer o dir, heibio i dy'r perchennog, mae'r bwthyn mewn lleoliad preifat, gyda gardd gaeedig a thwb poeth preifat.
Mae Caffi Cwtch a siop fychan 0.4 milltir o'r bwthyn ac ar agor 7 diwrnod yr wythnos. Mae'r dafarn agosaf (Miners Arms), sydd yn gweini cinio dydd Sul, 0.7 milltir i ffwrdd ac yn agor bedair gwaith yr wythnos, yn cynnwys y penwythnosau. Mae rhai o'r llefydd gorau i fwyta yn lleol yn cynnwys Gwesty'r Hafod ym Mhont ar Fynach (5 milltir), y Ffarmers yn Llanfihangel y Creuddyn (6 milltir), a Maes Bangor yng Nghapel Bangor (10 milltir), heb anghofio yr ystod eang o opsiynau yn Aberystwyth ac Aberaeron.
Mae tref glan môr brysur Aberystwyth (15 milltir) yn cynnig mynediad i harddwch Bae Ceredigion. Cartref Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, mae'r dref hefyd yn cynnig ystod o adnoddau yn cynnwys archfarchnadoedd a siop Marks & Spencer. Mae yma hefyd ddau draeth a phromenâd, yn ogystal â mynediad i Lwybr Arfordirol Cymru a'r rheilffordd craig hiraf ym Mhrydain.
Rhai o atyniadau'r ardal yn cynnwys rhaeadrau a'r tair pont ym Mhont ar Fynach, trên stêm Cwm Rheidol sy'n teithio i Aberystwyth, a llwybrau cerdded ar Ystad yr Hafod. Darganfyddwch Fynyddoedd y Cambrian, pentrefi a threfi glan môr megis Aberaeron a Cei Newydd ar hyd arfordir Bae Ceredigion, atyniadau yr Ymddiriedaeth Cenedlaethol megis Llanerchaeron ac adfeilion abaty y Sistersaidd Cymreig yn Ystrad Fflur. Mae atyniadau eraill yn cynnwys The Magic of Life Butterfly House, Profiad y Mynydd Arian, a'r Animalariwm.
Cerdded
- Llwybr Maenarthur - llwybr cylchol 4.5 miltir o hyd yn ymgorffori safleoedd treftadaeth diwydiannol, fforest, cefn gwlad a ceunant trawiadol. Yn cychwyn o stepen y drws.
- Llwybr Ystwyth - llwybr cerdded/beicio 20 milltir o hyd o Aberystwyth i Dregaron. Ymunwch â'r llwybr hanner ffordd, ger Llanafan (4 milltir)
- ‘Dilynwch y Mynach’ - 6.5 milltir yn dilyn yr afon o'i tharddiad i Bont ar Fynach, ble mae'n creu'r rhaeadrau enwog (7 milltir)
- Canolfan Ymwelwyr Nant yr Arian - 3 llwybr â golygfeydd (11 milltir)
- Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan - ymunwch â'r llwybr ar y promenâd yn Aberystwyth i fwynhau golygfeydd godidog o Fae Ceredigion (15 milltir)
Beicio
- Llwybr Ystwyth - fel uchod (4 milltir)
- Llwybr Beicio Rheidol – llwybr 17 milltir o hyd yn arwain o Bont ar Fynach, drwy Gwm Rheidol i'r harbwr yn Aberystwyth, y rhan fwyaf ar hyd lonydd cefn gwlad tawel (5 milltir)
- Gellir dod o hyd i'r llwybrau beicio mynydd gorau yng Nghymru a'r DU yng Nghanolfan Beicio Mynydd Nant yr Arian (11 milltir)
Marchogaeth
- Canolfan Farchogaeth Rheidol - arena tu mewn a thu allan wedi eu goleuo, cwrs neidio a trecio o gwmpas Cwm Rheidol (9 milltir)
Traethau
- Traeth Gogleddol Aberystwyth - traeth tywod a graean gyda mulod, castell gwynt a reidiau ar hyd y promenâd yn ystod misoedd yr haf. Caniateir cwn yn ystod y misoedd tawel (15 miles)
- Traeth Deheuol Llanrhystud - yn caniatau cwn drwy gydol y flwyddyn (20 milltir)
Pysgota
- Pysgota brithyll gwych yn yr afonydd a'r llynnoedd. Gellir prynu trwyddedau dyddiol o Westy George Burrow yn Ponterwyd (9 milltir)
- Pysgota môr yn Aberystwyth (15 milltir)
- Gellir llogi cychod o'r Marina yn Aberystwyth
Gwylio adar
- Canolfan fwydo Barcutiaid Coch yn Nant yr Arian (11 milltir)
- Gwarchodfa Natur R.S.P.B. yn Ynyshir ar ochr ddeheuol aber yr afon Ddyfi (22 milltir)
Golff
- Clwb Golff Aberystwyth – cwrs 18 twll gyda golygfeydd trawiadol (15 milltir)
- Clwb Golff y Borth – cwrs golff pencampwriaethol mewn lleoliad anhygoel (19 milltir)