- £416 per week
- £59 per night
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- 1 Pet
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Ystafell wlyb
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Saif y bwthyn hunan-ddarpar hwn mewn hafan o goed, coedwig a pherllan, 10 munud yn unig ar droed o’r traeth agosaf. Mewn 4.5 acer o dir preifat a gyda 3 cwrs golff o fewn 2 filltir, llawer o draethau a llwybrau cerdded, mae hwn yn lleoliad perffaith i fwynhau llawer o weithgareddau neu i ymlacio a dadflino.
Llawr Gwaelod
Lolfa gysurus gyda theledu (sianeli am ddim) a chwaraewr DVD. Gwely soffa ar gael sy’n gallu cysgu 1.
Cegin gyflawn (yn cynnwys rhewgell a pheiriant golchi) gyda drysau gwydr Ffrengig yn agor allan i’r ardd.
1 ystafell wely ddwbl gyda gwely maint king
En-suite yn cynnwys cawod agored (addas i westai anabl)
Gardd
Gardd yn wynebu’r de gyda llawer o gadeiriau a meinciau wedi eu gosod ar hyd y lle fel y gallwch ddewis eich hoff leoliad.
Mae croeso i westai grwydro ar hyd yr holl safle a mwynhau’r amrywiaeth o adar a’r planhigion godidog sydd yn amgylchynu’r bwthyn hyfryd hwn ym Mhorthcawl.
Gwybodaeth Ychwanegol
Llawr gwaelod i gyd gyda mynediad llawn i westai anabl (drysau yn 800mm o lydan).
Storfa ddiogel i gadw cyfarpar golff, beiciau, offer ayb.
Agos i brif ffordd Porthcawl/Pen-y-bont.
Gwres canolog nwy a thrydan yn gynwysedig
Ni chaniateir anifeiliaid anwes
Wi-fi yn gynwysedig
Digonedd o lefydd parcio
Darperir dillad gwely a thywelion.
Darperir haearn smwddio a bwrdd smwddio.
Mae gwyliau byr ar gael yn y llety hwn ym Mhorthcawl ar adegau penodol o’r flwyddyn, mwy o fanylion o dan ‘Prisiau’.
Mae bond 'gofal da am lety' ar y llety hwn am £150, sydd yn ad-daladwy ac yn ddyledus i Y Gorau o Gymru ar yr un pryd â balans eich gwyliau. Neu, gallwch osgoi y bond hwn drwy, yn hytrach, dalu ffî sydd ddim yn ad-daladwy am £5 y person.