- £388 per week
- £55 per night
- 6 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Barbaciw
- Parcio ar y stryd
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 15.00
- Amser gadael: 10.30
Description
Bwthyn â chymeriad yn hen dref Llantrisant gyda golygfeydd gwych o Fro Morgannwg. Mae'r bwthyn yn leoliad perffaith i ymweld a darganfod De Cymru, gydag Arfordir Treftadaeth Morgannwg, Bannau Brycheiniog a dinas Caerdydd i gyd o fewn taith fer. Delfrydol ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau sy'n cymryd lle mewn lleoliadau poblogaidd yng Nghaerdydd megis Stadiwm Principality, Gerddi Soffia a Chanolfan y Mileniwm.
Llawr Gwaelod
Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys sinc Belfast, peiriant golchi dillad, popty a hob trydan, oergell/rhewgell, meicrodon, tostiwr a thegell.
Bwrdd bwyta gyda lle i 4 eistedd.
Lolfa gyda soffas i 4 (yn cynnwys gwely soffa dwbwl), lle tân traddodiadol gyda stôf goed (darperir y fasgedaid gyntaf o goed).
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - gwely dwbwl.
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl.
Ystafell ymolchi - uned cawod, toiled a basn.
Tu Allan
Patio palmantog y tu blaen i'r llety gyda bwrdd a chadeiriau a golygfeydd trawiadol ar draws Bro Morgannwg.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Parcio - digon o le ar y ffordd o flaen y bwthyn
- Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: papur cegin, hylif golchi llestri, clytiau newydd. Ystafell ymolchi: sebon, papur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Dillad gwelyau, tywelion, haearn smwddio a sychwr gwallt yn gynwysedig
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Hyd at 2 gi sy'n ymddwyn yn dda. Ni ddylid gadael cŵn ar ben eu hunain yn y llety a dylid gofalu nad ydynt yn dringo ar y dodrefn
- Cot a chadair uchel ar gael os nodir hynny ymlaen llaw. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Dim ysmygu
* Yn aros am raddio swyddogol - disgwylir 4*