- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
- Special Offer15% offer - 31st May - 7th June 2024
- Special Offer15% offer 28th June – 18th July
- Special Offer10% offer w/c 19th July
- £696 per week
- £99 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Golygfeydd cefn gwlad
- Smart TV
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Balconi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Description
Mwynhewch y gorau o ddau fyd yn yr apartment gwyliau 5 seren llawr cyntaf hwn ger Caerdydd. Mae’n cynnig holl fanteision lleoliad gwledig prydferth mewn pentref cefn gwlad traddodiadol gyda 2 dafarn, tra bod canol Caerdydd 7 milltir yn unig i ffwrdd. Mae Uwch-y-llyn yn un o ddau apartment gwyliau moethus ac wedi ei leoli ar stad drawiadol 20 acer ym Mro Morgannwg. Y llecyn perffaith i ymlacio ar ôl archwilio Caerdydd a’i atyniadau di-ri. Mae Cwrs Golff Morgannwg, Cwrs Golff Parc Cottrell, arfordir De Cymru, Stadiwm y Mileniwm, Stadiwm Swalec a Stadiwm Dinas Caerdydd i gyd gerllaw.
Mae Uwch-y-llyn yn ffinio ag eiddo’r perchnogion ac fe’i hadeiladwyd yn 2009 ar 20 acer o dir ar 240 acer y perchnogion lle caiff ceffylau rasio eu magu. Mae’r tir yn cynnwys llyn bychan (gyda ffens o’i amgylch a mynediad trwy giât) gyda digonedd o fywyd gwyllt a physgod, a bydd y plant wrth eu bodd yn bwydo’r hwyaid, cwrdd â’r defaid anwes a chwarae ar y gerddi mawr.
Llawr Cyntaf
Mae’r holl ystafelloedd ar y llawr cyntaf gyda gwresogyddion trydan drwyddo draw ac yn cynnwys: Ystafell agored yn cynnwys lolfa, lle bwyta a chegin, a dwy ystafell wely
Lolfa / lle bwyta: Teledu sgrin fawr a chwaraewr DVD, radio/CD, mynediad Wi-fi a soffa cornel lledr mawr a chyfforddus (gellir ei ddefnyddio fel gwely soffa i gysgu 2 ychwanegol hefyd)
Ardal y gegin: Popty trydan, microdon, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri, bar brecwast a stolion uchel sy’n eich galluogi i wneud y mwyaf o’r golygfeydd gwych dros y llyn a’r wlad o’ch amgylch.
Ystafell wely 1: Dau wely sengl ac ystafell ymolchi en suite gyda chawod dros y bath, toiled a basn ymolchi.
Ystafell wely 2: Gwely dwbl ac ystafell ymolchi gyda chawod , toiled a basn ymolchi.
Gardd
Mae gan y bwthyn gwyliau hwn yng Nghaerdydd erddi eang a hardd a llyn pysgota.
Ardal patio gyda dodrefn gardd a barbeciw (i’w rannu gyda’r apartment arall islaw)
Gerddi yn wynebu’r de felly gellir mwynhau’r haul drwy’r dydd
Gwybodaeth Ychwanegol
- Ystafell iwtiliti ar wahân tu allan, sy’n cael ei rhannu rhwng y ddau apartment gwyliau moethus sydd yma. Mae’n cynnwys peiriant golchi a pheiriant sychu dillad.
- Ffens ddiogel o amgylch y llyn, serch hynny ni ddylid gadael plant i chware o’i amgylch heb oruchwyliaeth.
- Darperir dillad gwely, tywelion a sychwr gwallt.
- Gellir darparu cot a chadair uchel ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
- Cost ychwanegol o £20 y noson os oes mwy na 4 o westeion yn eich grwp (uchafswm o 6 gwestai)
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Digonedd o le parcio ar gael
- Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes
- Storfa ar gyfer cadw beiciau / offer golff ayb
- Wifi yn gynwysedig
- Mae’r ddau apartment gwyliau yma yng Nghaerdydd yn derbyn gwyliau byr drwy gydol y flwyddyn a gellir eu harchebu gyda’i gilydd i letya grwpiau mwy
Location
Mae gan Llanbedr-y-fro siop, swyddfa bost a 2 dafarn lleol croesawgar sy’n gweini bwyd arbennig. Gwnaethpwyd eglwys y pentref yn enwog fel lleoliad ffilmio ar gyfres gomedi Gavin & Stacey. Ceir nifer o deithiau cerdded braf gerllaw yn cynnwys Llwybr Mileniwm y Fro sy’n pasio drwy’r pentref, ac mae’r ffyrdd gwledig tawel yn ddelfrydol ar gyfer beicio. Er bod naws wledig i’r ardal ceir Tesco fawr a Marks & Spencer 4 milltir i ffwrdd.
Mae Caerdydd yn ddinas o atyniadau, chwaraeon, diwylliant ac adloniant. Mae ganddi nifer o atyniadau enwog yn cynnwys Stadiwm y Mileniwm, Castell Caerdydd, Neuadd Dewi Sant, y Theatr Newydd. Mae Caerdydd wedi sefydlu enw i’w hun fel dinas y campau diolch i ansawdd y digwyddiadau a’r cyfleusterau. Os ydych chi eisiau gwylio neu chwarae, mae sin chwaraeon Caerdydd yn cystadlu gyda’r gorau. Cynhelir gemau cartref tîm pêl-droed Caerdydd a thîm rygbi’r Gleision yn Stadiwm Dinas Caerdydd, tra bo Gerddi Soffia yn cynnal gemau criced Dreigiau Morgannwg a gemau criced rhyngwladol yn cynnwys cyfres y Lludw.
Mae’r apartment gwyliau hwn hefyd yn agos i Fae Caerdydd, cartref Canolfan Mileniwm Cymru, Y Senedd (adeilad y Cynulliad Cenedlaethol) a nifer fawr o atyniadau eraill. Mae’r rhain yn cynnwys bars trendi, siopau a bwytai bywiog a chosmopolitan, cyfleuster hamdden a phwll nofio maint Olympaidd, canolfan dwr gwyn, clwb cychod pleser, a nifer o lwybrau seiclo a cherdded megis Llwybr Taf a morglawdd Bae Caerdydd.
Wedi ei leoli'r ochr arall i’r ffin ym Mro Morgannwg, mae’r apartment hefyd mewn safle da i fwynhau trefi marchnad hardd Y Bontfaen a Llanilltud Fawr yn ogystal ag Arfordir Treftadaeth Morgannwg.
Cerdded
Ceir nifer o lwybrau cerdded yn cynnwys Llwybr Arfordirol Treftadaeth Morgannwg a Llwybr Mileniwm y Fro. 0.1 milltir.
Pysgota
Mae’r llyn ar y safle yn cynnwys cerpynnod mawr. 0 milltir
Cyfleoedd gwych ar gyfer pysgota môr – oddar y lan a thrwy logi cychod o Fae Caerdydd. 7 milltir
Golff
Un o’r cyrsiau agosaf yw Parc Cottrell, lleoliad gwych yng nghanol 400 erw o barc hardd. 1.5 milltir.
Mae cyrsiau eraill gerllaw yn cynnwys 2 gwrs pencampwriaeth y Vale Resort (3.4 milltir) a chwrs mawreddog y Celtic Manor, cartref Cwpan Ryder 2010. (29 milltir).
Beicio
Mae’r ffyrdd gwledig tawel o amgylch y fferm yn ddelfrydol ar gyfer beicio ond ceir hefyd nifer o lwybrau gerllaw yn cynnwys Llwybr Taf rhwng Caerdydd a thref farchnad Aberhonddu. 7 milltir
Merlota
Canolfan Farchogaeth Liege Manor yw un o brif ganolfannau marchogaeth Cymru ac yn gartref i dros 70 o geffylau a merlod. Mae’r Ganolfan yn arbenigo mewn hyfforddiant ar gyfer pob oedran a gallu. 2 filltir
Traethau
Mae nifer o draethau ar hyd Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn amrywio o gyrchfan brysur Ynys y Barri (7 milltir) i draeth tawel a hardd Southerndown (15 milltir).
Chwaraeon Dwr
Mae Canolfan Dwr Gwyn Genedlaethol Caerdydd yn cynnig canwio, rafftio dwr gwyn, caiacio, ‘hydro speed’ a chwch ci poeth. (Darperir yr holl offer). 11 milltir