- £480 per week
- £69 per night
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 1 Pet
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Popty Range/Aga
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Dau fwthyn chwarelwyr wedi eu hadnewyddu'n drawiadol i fod yn un llety helaeth gan gadw nifer o'r nodweddion gwreiddiol. Wedi ei leoli ym mhentref Corris yn Ne Eryri, mae Gwel y Bryn wedi ei amgylchynu gan olygfeydd godidog, llwybrau cerdded ac atyniadau. Mae yma hefyd ardd deras gaeedig gyda golygfeydd dros y bryniau i Gader Idris. Yn ganolog i drefi Dolgellau a Machynlleth, Prifddinas Hanesyddol Cymru, yn ogystal â chopaon Eryri a thraethau euraidd.
Llawr Gwaelod
Lolfa - ystafell helaeth ac ymlaciol, gyda llosgwr coed, nenfwd gyda trawstiau a digon o le i eistedd. Teledu a chwaraewr Blu Ray, llyfrau, gemau, DVDs a mapiau.
Cegin / ystafell fwyta - cegin gyda'r holl offer yn cynnwys popty Range tanwydd cymysg gyda 6 cylch, 2 bopty a gril. Oergell/rhewgell fawr, meicrodon ac uned ynys. Mae'r ardal fwyta yn berffaith ar gyfer ymlacio gyda bwrdd bwyta mawr a dreser. Stôf addurnol wedi ei gosod yn y lle tân llechen.
Ystafell iwtiliti - gellir cael mynediad o'r gegin i'r ystafell hon drwy ddrws stabl, ac yma fe leolir y peiriant golchi llestri a pheiriant golchi/sychu dillad. Mynediad i'r ardd teras yn y cefn.
Ystafell toiled a basn.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - ystafell fawr, ymlaciol gyda gwely dwbwl, cwpwrdd dillad, byrddau a lampau ger y gwely. Cadair freichiau a chadair suglo yn edrych allan dros y bryniau ochr arall y dyffryn.
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl a chypyrddau dillad, byrddau a lampau ger y gwely. Cadair i fwynhau'r golygfeydd.
Ystafell wely 3 - dau wely sengl, cwpwrdd dillad, byrddau a lampau ger y gwely. Yn edrych allan dros yr ardd teras yn y cefn.
Ystafell ymolchi - ystafell steilus gyda baddon â chawod llaw, uned cawod arwahan, toiled, basn a golygfeydd o'r bryniau.
Gardd
Gardd gefn hollol gaeedig. Stepiau gyda rheilen llaw yn arwain i ardal dec gyda bwrdd a chadeiriau ble gellir mwynhau'r golygfeydd dros y bwthyn tuag at y bryniau a chopa Cader Idris. Barbaciw siarcol ar gael.
Os ydych yn dod â'r teulu, mae yna barc chwarae i blant o fewn 50 metr i'r bwthyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te Cymreig, coffi, siwgwr a llaeth, bisgedi a photel o wîn
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Pecyn cychwynol o goed ar gyfer y stôf. Gellir prynu coed ychwanegol o'r garej ym Machynlleth
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Sychwr gwallt ar gael
- Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Wifi ar gael
- Croeso i un ci (llawr gwaelod yn unig)
- Dim ysmygu tu mewn y bwthyn
- Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled ar gyfer pob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
- 3 lle parcio ochr arall y ffordd