- £502 per week
- £72 per night
- 5 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 1 gwely sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Bwthyn hardd wedi ei leoli o fewn ei ardd fawr a thawel ei hun ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae Berthlwyd yn fwthyn ar ei ben ei hun ac wedi ei amgylchynu gan olygfeydd anhygoel o gefn gwlad, ac yn cynnig encil croesawgar a heddychlon, gyda’r fantais ychwanegol o fod o fewn tafliad carreg i’r bwytai, siopau a’r tafarndai yn Nolgellau (1 milltir).
Gallwch feicio ar hyd lonydd tawel cefn gwlad yn syth i Ganolfan Beicio Mynydd Coed y Brenin, a gydag amryw o lefydd i fynd am dro oddi ar garreg eich drws, mae hefyd yn cynnig y man perffaith i fynd ar wyliau cerdded yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys y llwybr poblogaidd at gopa Cader Idris a hefyd Llwybr Mawddach sy’n dilyn yr afon am 9 milltir hyd at Abermaw, lle gallwch ymlacio ar draeth hyfryd.
Llawr Gwaelod
Cegin fawr ac ystafell fwyta â lloriau derw, bwrdd bwyd mawr a drysau Ffrengig yn arwain yn syth at yr ardd gaeedig. Mae’r gegin yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch - peiriant golchi llestri, micro-don, ffwrn drydan, oergell/rhewgell, peiriant golchi a pheiriant sychu dillad.
Ystafell fwyta fawr, olau gyda llawr derw, stôf losgi coed ac un wal gerrig. Mae gan yr ystafell hon 6 ffenestr er mwyn gallu gwerthfawrogi’r golygfeydd hardd, gan gynnwys cadwyn fynydd drawiadol Cader Idris. Teledu mawr, chwaraewyr DVD a CD a basged yn llawn o goed tan.
Mae llawr llechi yn y cyntedd ac mae digon o le i hongian cotiau yno.
Ystafell gotiau ar y llawr gwaelod â llawr llechi, toiled a basn.
Llawr Cyntaf
Mae lloriau pren ar holl ystafelloedd y llawr cyntaf, golygfeydd syfrdanol a chaeadau ar y ffenestri.
Prif ystafell wely - Ystafell fawr â golygfa naill ochr iddi gyda lloriau pren a rygiau. Mae gan yr ystafell wely dwbl a sengl. Cwpwrdd dillad trebl gyda chist ddroriau.
Ystafell wely 2 - Gwely maint ‘king’, cwpwrdd dillad mawr, bwrdd ymbincio a chist droriau.
Ystafell ymolchi - Cawod dros y baddon, toiled, basn a digonedd o silffoedd.
Gardd
Gardd fawr a heddychlon wedi’i hamgylchynu gan olygfeydd godidog o’r wlad ym mhob cyfeiriad. Mae’r bwrdd hardd yn berffaith ar gyfer barbeciw ac mae hefyd bibell ddwr yno os oes angen golchi’r beiciau. Y gât bren ar waelod yr ardd yw man dechrau eich gwyliau cerdded yng Nghymru, gyda chopa Cader Idris yn eich gwahodd tua’r gorwel.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Caiff dillad gwely, tywelion llaw a baddon a sychwr gwallt eu darparu
- Mae gwres a thrydan wedi eu cynnwys. Darperir basged o goed tân ar gyfer y llosgwr coed. Mae coed tân ychwanegol ar gael am £5 y fasgedaid
- Gellir darparu cot teithio, cadair uchel a giat ddiogelwch os gofynnir amdanynt
- Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes.
- Digonedd o lefydd parcio preifat y tu allan i’r bwthyn.
- Perffaith ar gyfer gweithgareddau megis beicio, chwaraeon dwr a gwyliau cerdded yng Nghymru, gyda sied fawr â chlo arni er mwyn storio eich offer.