- £379 per week
- £54 per night
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mwynhewch wyliau i ddau yn Eryri yn y bwthyn hwn sydd wedi ei adnewyddu'n foethus yn nhref farchnad y Bala. Mae'r bwytai, caffis, siopau a thafarndai i gyd o fewn pellter cerdded, yn ogystal â Llyn Tegid gyda'i ystod o weithgareddau dwr, llwybr cylchol a trên stêm, Mae nifer o atyniadau eraill heb fod ymhell, yn cynnwys rafftio dwr gwyn, Zip World, Bounce Below, beicio mynydd a thraethau hardd.
Os hoffech aduniad mwy gyda'ch teulu neu ffrindiau, yna mae dau fwthyn arall ar yr un safle - Ysgubor Llew Coch (cysgu 6) a Stabal Llew Coch (cysgu 4).
Llawr Gwaelod
Cegin/lolfa ar gynllun agored gyda gwres dan y llawr.
Cegin gyda peiriant golchi llestri, meicrodon, popty, hob serameg, oergell/rhewgell a pheiriant golchi dillad.
Mae'r lolfa yn cynnwys soffa fawr, teledu ar y wal a bwrdd bwyta.
Llawr Cyntaf
Ystafell hardd gyda gwely dwbwl, teledu, dodrefn derw a thrawstiau.
Ystafell ymolchi gyda cawod dros y baddon, basn fodern, toiled, rheilen sychu tywelion, drych gyda goleuadau a pwynt siafio.
Gardd
Patio bach yng nghefn ac o flaen y llety. Bwrdd a chadeiriau i 2.
Barbaciw siarcol ar gael - gellir gwneud cais amdano gan y perchennog yn ystod eich arhosiad. Bydd yn rhaid talu blaendal o £20 fydd yn cael ei ad-dalu os bydd y barbaciw yn cael ei ddychwelyd yn yr un cyflwr. Siarcol ar gael yn nhref Bala.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth a chacennau cri
- Dillad gwelyau, tywelion a sychwr gwallt ar gael
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Cot a chadair uchel ar gael os dymunir
- Haearn a bwrdd smwddio ar gael
- Digon o le parcio y tu allan i'r bwthyn
- Mae'r perchnogion ar gael ar y safle i ateb unrhyw gwestiynau, gwybodaeth lleol ayb os oes angen
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn
- WIFI ar gael
- Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad -
- Cegin - pupur a halen, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, hylif/tabledi i'r peiriant golchi dillad, clytiau newydd, tywel sychu llestri a ffoil
- Ystafell ymolchi - sebon hylif a 2 rolyn papur toiled